ANRHEG - A HELP

DYMA GWBLHAU ail flwyddyn y cylchgrawn hwn, a gydag ysbryd y Nadolig yn ein corddi, a'r awydd i ychwanegu at ein cylchrediad yn dal yn agos at ein calon, wele anrheg i chi ar ddiwedd blwyddyn arall, sef un copi ychwanegol o'r rhifyn hwn, yn rhad ac am ddim, gan hyderu y rhowch y copi ychwanegol yn anrheg i gyfaill deallus a darllengar nad yw, hyd yma, yn y gorlan hon.

Os teimlwch yn wirioneddol hael eich hysbryd medrwch ychwanegu at yr anrheg trwy dalu £2 am aelodaeth y cyfaill ar gyfer y flwyddyn nesaf. Ond medrwch ei annog i wneud hynny trosto'i hun am ddim.

0 dan y cynllun yma cawsom hanner cant o aelodau newydd y llynedd. Ni enillasom yn ariannol o'r fenter, oherwydd costau printio'r copïau ychwanegol; ond mae'r hanner cant gyda ni o hyd yn gefn ychwanegol. Ac os medr un o bob deg ohonoch ymdrechu i sicrhau un aelod newydd at y dyfodol ni fedrwn gwyno.

Un o'r problemau yw anghof­rwydd yr aelodau - anghofio talu. Fe helpa'r banc chi i gofio, os llenwch yr archeb banc sydd gyda'r copi hwn - ar bapur ar wahân rhag i chi ddarnio hyn o gylchgrawn. Ac os yw '£2' wedi ei benselu ar eich copi - yr ydych mewn dyled am eleni hefyd.

Os dymunwch gael ôl-rifynnau, mae rhai ar gael - nifer fach, ond dim un o'r rhifyn cyntaf. Anfoner 75c yr un am gopïau o'r gweddill at yr Ysgrifennydd (gwêl. tud. 2 am gyfeiriadau) ac fe'u cewch trwy'r post.

Diolch i'r cyfranwyr am eu ffyddlondeb, ond rhag i'r gol­ygydd druan orfod poeni'r un rhai o hyd ac o hyd, beth am eich cyf­raniad chi? Pe na baech yn gwneud dim ond holi am wybodaeth neu am gyfrolau (dim i'w dalu) buasai hynny'n help. Ond medrai criw deallus fel chi wneud yn well na hynny.

Diolch hefyd i swyddogion y Gymdeithas a fu'n gofalu am yr arian a'r hysbysebion a'r dos­barthu - meddyliwch am yr ysgrifennydd druan yn gorfod plygu a phostio dros ddeuddeg cant o'r rhifyn hwn am y Nadolig yma. A diolch i chi am wneud y gwaith yn angenrheidiol ac yn bosibl.