ER COF AM LEW gan William Owen

NOS FAWRTH oedd hi. Noson yr Herald. Tŷ Hen ar werth, Wmffra Wilias am roi'r gorau iddi o'r diwadd, sêl o fewn mis, Morgan Ifas i gael gwerthu. Bron na thaerech chi fod Sir Fôn i gyd ar y farchnad, afrifed y colofna' hysbysebu eiddo. Ac ar fy llw, yn rhythu arna'i o ganol yr ail dudalen, mewn du a gwyn na ellid ei fethu, "Auction Sale of Good Quality and Effects, being the entire contents of Arosfa, Carmel, Llanerchymedd, including lots of antique furniture, household items and sundries": Yr ocsiwn i ddechrau am un y prynhawn - "Briefly comprising, Staffordshire Figures, Lustre Jugs, Brassware and assortment of Books." Y tŷ i fynd hefyd. A hynny dros bum mlynedd yn ôl bellach. Gwanwyn 1973 i fod yn fanwl.

Ychydig ynghynt clywsom si fod Tŷ'r Ysgol Rhyd Ddu, ar werth a roeddwn i wedi sylwi fod y Caernarvon and Denbigh yn gwneud ei orau glas ym Methel i gael gwared o'r hyn a alwai'n Old home of the author, Mr. W.J. Gruffydd. Rhwng y Sir Gaer­naries a'u petha', 'doeddwn i 'rioed wedi credu y rhoddid Arosfa, o bob man, o dan y morthwyl. Ond 'i werthu gafodd ynta', y fo, ei entire contents a'i Sundries.

'Roeddwn i'n llygad dyst o'r ysbeilio. Bûm yn un o'r ysbeilwyr fy hun, yn y feri mangre, ple buasai'r LLEW, LLEW LLWYD­IARTH yn treulio blynyddoedd ola'i oes. Yn wir aethwn â chyfaill o weinidog hefo mi yno i leddfu peth ar fy nghydwybod. Fe drodd ynta'n ysbeiliwr hefyd. Dychwelodd adra hefo clamp o debot arian. Bargen os bu un erioed...

***

CYRHAEDDASAI pawb erbyn un yn brydlon, "pob Twm, Dic a Harri a Mari a mwy" a William Jones, Tremadog wedi ei rhagweld hi'n berffaith.

Yno 'roedda nhw a'u llinyn mesur ar bopeth,

Ond cystal cyfadda 'mod inna' wedi prynu un swfenîr bach hefyd, - y teclyn bach dela i ddal cwilsyn ac INC, - ESCRITOIRE ydi gair crand y trêd am y cyfryw beth - er bod ambell i dwll pry' yn yr handlan ac angen crafu peth o'r baw i ffwrdd. A chostiodd o ddim ond pum swllt ar hugain. Tebyg fod y Llew wedi gorffwyso'i bin dur arno droeon wrth raffu'i englynion ar hyd y cenedlaethau!

'Doedd gen i fawr o ddiddordeb yn y ciarpad, yr hangings na'r tegins ond yng nghyflawndra yr amser fe ddeuwyd at y llyfra a'r cwpwrdd gwydr oedd yn gartre' iddynt. A dyna'n union faint ei lyfrgell, - llond un cwpwrdd ond bod yr un hwnnw yn un go fawr; testuna' eisteddfodau a'u cyfan­soddiadau buddugol ac esboniadau Beiblaidd gan mwyaf, ynghyd â rhai cyfrola' yn ymwneud â Môn yn ei hamryfal agwedda'. Ac ambell un arall.

Gwerthwyd y Beibl Mawr a'i glaspia' pres am ddeunaw punt ond er mwyn hwylustod, bwriwyd y gweddill at ei gilydd, yn fwndeli o ryw bymtheg yr un. "Yr hen griadur", meddai rhywun, " 'i lyfra' bach o'n mynd rhwng y cŵn a'r brain". Ac am eu bod nhw'n mynd mor rhad mi gredis inna' i gynnig am fwndal. Wnes i ddim torri am ddeg ceiniog.

Nid bod dyn wedi cael homar o fargian chwaith; dim namyn "Cyfrol Goffa Diwygiad 1904/5" gyda'i darluniau o Ifan Robaitsh a gyhoeddwyd ym 1954. Ac ni ddisgwyliai un o olygyddion hyglod y gyfrol honno 'rwy'n siŵr, y Parch. Sidney Evans na'r Parch. Gomer M. Roberts iddi fod o ddiddordeb i ddarllenwyr 'Y Casglwr' oni bai i mi yn ei phlygion ddod o hyd i ddarn o un bregethau'r LLEW ynghyd â nifer o'i englynion.

***

YNO YR oeddynt yn ei law­ysgrifen o'i hun! Darn o emyn wedi ei sgriblo ar bapur "B.O.C.M. Poultry Food!" Englynion coffa i’r Cerddor a'r Prifathro Cecil Jones, Cemaes a Mr Cledwyn Hughes, Llangefni, brawd y diweddar Barth. D. Cwyfan Hughes, Amlwch. Englynion i longyfarch Mr R. Pritchard, Biwmares ar gael ei ethol i’r Cyngor Sir a'i nith, Mrs Soffi Roberts, (a fu'n ymgeledd mor gymwys iddo yn ei fisoedd ola), ar gyrraedd ei phedwar ugain. Ac un englyn arall i nodi digwyddiad tyngedfennol yn hanes y ddynol­iaeth er nad dyna sut yr edrychai ef ar y peth chwaith.

Bardd UN gadair oedd o, os cofiwch chi.

***

UN DDALEN yn unig o’r bregeth sy' wedi goroesi, rhagymadrodd i destun wedi ei godi o’r drydedd bennod o Efengyl Ioan, ymgom yr Iesu a Nicodemus; truth goreiriog sy'n rhagdybio traethu tan o leia' bum munud ar hugain wedi tri ar b'nawn Sul trymaidd!

A hefo Ifan Robaitsh a Chyfrol Goffa’r Diwygiad y mae nhw o hyd, dim ond eu bod wedi newid cwpwrdd a newid silff a chroesi'r bont i Sir Gaernarfon, er mai un o hogia'r FAM sy'n dal i'w gwarchod hefyd.

Ychydig o orseddedigion Môn a welais i yno'r diwrnod hwnnw. Wn i ar y ddaear pam, a doethach efallai fyddai ymatal rhag dyfalu rhagor. Mae gen i syniad hefyd i un neu ddwy o gyfrola' gwerth eu cael fynd drwy'r rhwyd cyn y diwedd. Petai rhywun ddim ond yn gwybod!

Ond 'roedd y cyfan drosodd yn deidi erbyn tua chwarter i bump a phawb a ddaethai yno'n barod i'w hel hi am adre. Allwn inna' yn fy myw ddim cael gwared o'm meddwl gwpled ola William Jones, Tremadog, i'r Ocsiwn

Ond nid wedi galw am HEDDWCH y buasai'r CYN­DDERWYDD GWEINYDDOL petai wedi dychwelyd y p'nawn hwnnw, eithr g'neud i bawb i gwadnu hi oddi yno'n abal handi!

Ddaeth o ddim, a chyn nos 'roedd 'i betha' fo ar chwâl, ambell jwg lustr yn addurno silff ben tân clamp o ŵr busnes o Burnley a'r Staffordshire ar eu ffordd i addurno lolfa gwraig flonegog o Fryste.

Ddyliwn inna' ddim cwyno 'chwaith, canys mae'r teclyn dal inc, yr Escritoire, yn ddigon twt yn ei le ar y ddesg yn y tŷ acw. Fe gostiai ddwy a dima' heddiw a choeliai byth nad ydi'r tylla pryfaid yn ychwanegu at ei werth.