Y JOHN A AETH I LOEGR gan J.T.Owen

PAN AETH tîm pęl-droed Casnewydd – Newport County – i chwarae eu gęm yn y Bedwaredd Adran i Stockport yn erbyn Stockport County ym mis Tachwedd yr oedd y rhaglenni arferol ar werth ar y maes. Pe buasech yn astudio'r rhaglen yn ofalus fe welech mai John Roberts and Sons Printers (Salford) Ltd., Manchester oedd yr argraffwyr.

Dyma'r burned genhedlaeth o deulu'r Robertsiaid i gynnal y busnes argraffu yma yn Salford – busnes a sefydlwyd gan John Roberts o Gaernarfon. Fe'i ganed yn y dref ar Fawrth, 18, 1818.

Parheir i drysori dogfen ei brentisiaeth (indenture) gan y teulu. Dywed honno i John Roberts, mab Mary Roberts (a oedd yn wraig weddw ar y pryd) gael ei brentisio i Lewis Evan Jones, argraffydd yng Nghaer­narfon ar y degfed o Fawrth 1829 am dâl o ddeg punt. Nid oedd ond un ar ddeg oed ar y pryd. Collodd ei dad, Hugh Roberts, master mariner ym mis Hydref 1825 pan oedd yn saith oed.

Pan gwblhaodd ei brentisiaeth gadawodd am Lerpwl a dod yn journeyman ar y Liverpool Mail.

Ym 1842 symudodd i Fanceinion a phrynu 168 Chapel Street, Salford lle'r oedd siop a sied. Yno yn 1845 cychwynnodd ei fusnes argraffu a gwerthu papurau. Fe ymbriododd â Mary Cadwalader o Gaernarfon ac yn y blynyddoedd cynnar bu'r teulu'n byw mewn ystafelloedd uwchlaw’r siop.

Erbyn 1883 yr oedd y busnes wedi cynyddu'n ddirfawr a phrynodd John Roberts ddwy siop oedd o bobty i'w weithdy ynghyd ag adeiladau eraill ac erbyn 1889 yr oedd y gwaith wedi datblygu cymaint nes dod yn un o’r rhai mwyaf a gorau yn y cylch.

***

O'R CYCHWYN cyntaf hyd yn ddiweddar iawn fe fyddai dau neu dri o leiaf o'r argraffwyr yn Gymry Cymraeg - ymysg y rhai olaf oedd Ted Hughes o Abergele, a gartrefai yn Didsbury; Glyn Roberts o Abergele; J.C. Jones o Lanidloes ac S.L. Jones o Raeadr Gwy.

Yr oedd angen y Cymry Cymraeg am y byddai'r cwmni yn argraffu Adroddiadau'r Genhad­aeth Dramor (yn Gymraeg a Saesneg); adroddiadau eglwysig Cymraeg cylch Manceinion (Man­ceinion, Pendleton, Warrington, Ashton-under-Lyne, Leigh, Tyldesley, Bury, Rochdale etc.), ynghyd ag adroddiadau Henadur­aeth y M.C.

Yr oedd meibion a wyrion John Roberts yn siarad Cymraeg yn rhugl, and erbyn heddiw collodd y teulu eu gafael ar yr hen iaith ac yn Saesneg yr argreffir popeth heddiw. Un o'r hen bethau y cedwir gafael arno yw'r Inter­national Sugar Journal a gyhoedd­wyd yn gyson ers mwy na chan mlynedd ac a ledaenir trwy lu mawr o wledydd y byd.

Er i bwysau ddod arno i fentro i'r maes cyhoeddi mynnodd John Roberts,o'r dechrau, lynu wrth y gwaith o argraffu yn unig. Yn ofer y ceisiwyd ei berswadio i gyhoeddi papur newydd Cymraeg a llyfrau Cymraeg. Ond fe argraffodd y cwmni lyfrau Cymraeg - fel enghraifft cyfrol lonawryn Williams ar hanes Cymry Manceinion (Geirlyfr Bywgraffiadol yn cynhwys Byr-Hanes y Cymry, mwyaf adnabyddus fuont yn preswylio yn Manceinion 1896).

***

MEGIS llu o'r Cymry a lwyddodd yn Lerpwl a Manceinion bu'r John Roberts gwreiddiol yn arweiniwr hael yn ei gymdeithas newydd. Ymaelododd ag eglwys M.C. St. Stephen Street, Salford yn 1845 a'i godi'n flaenor yn 1854. Yr oedd yn ddirwestwr mawr ac yn Rhyddfrydwr mawr, a phan fethwyd â chodi'r arian i sicrhau llain o dir i godi capel newydd yn Pendleton rhoddodd John Roberts Ł1,200 o sicrwydd i'w gael.

Bu farw John Roberts, a sefydlodd y busnes sydd mor llewyrchus, ar Fai 22 1889 yn 71 oed.