CARTRE'R DELYN gan Ifor Jones

RHODDWYD i Lanrwst amryw o deitlau a phwysleisiwyd arbenigrwydd yr hen dref yn yr ymadrodd "Cymru, Lloegr a Llanrwst", ond dyma a ddywedodd William Camden (1551-1623) amdani - "Tre fach aflr ond yn nodedig am wneud telynau."

Yn wir, ymddengys fod Llanrwst yn saerno telynau o oddeutu 1450 ymlaen. Y gwneuthurwr cyntaf y mae cofnod amdano yw Gruffudd Coetmor, ŵyr i Hywel Coetmor a wnaeth enw iddo'i hun ym mrwydr Agincourt ym 1415. A Hywel a werthodd stad Gwydyr i hynafiaid yr anenwog Sin Wyn. 'Roedd yn ei flodau rhwng 1450 a 1480 ac fe'i canmolir mewn cywydd am ei fod yn saer telyn unres da.

Un arall o'r hen seiri telyn oedd William Owen, Pencraig Inco (yn Llanrhychwyn) ac yn l traddodiad ef a gyfansoddodd yr alaw 'Const William Owen Pencraig.'

'Roedd Dafydd Cadwaladr yn wneuthurwr telynau yn Nant Conwy ac yn ei flodau oddeutu 1650, ac felly'n perthyn i'r hen ysgol o seiri oedd mewn bri yn Llanrwst a Nant Conwy cyn dyddiau'r gwneuthurwr enwog John Richards.

Yn oes Elisabeth I ystyrid Llanrwst yn hynod am ei thelynorion, megis Dafydd Maenan a fu'n delynor i Syr Ellis Prys, Plas Iolyn, Pentrefoelas. Dywedir mai Syr Ellis oedd un or gwŷr a benodwyd gan Elisabeth i drefnu a chynnal Eisteddfod Caerwys ym 1568.

Telynor gwych, yn ogystal bardd, oedd Thomas Annwyl o Faenan, a bu Robert Peilyn yn delynor yn llys y frenhines yn Llundain.

Ac yn wir mewn cyfrolau megis y Bardic Relicks fe ddaw bron y cyfan or gwneuthurwyr telynau a gofnodir naill ai o Lanrwst neu o Nant Conwy.

***

YR ENWOCAF o'r crefftwyr yma oedd John Richards, a aned ym 1711 yng ngwesty'r King's Head, Llanrwst (mae'r lle yn awr yn gartre'r Lleng Brydeinig). Prin iawn yw hanes ei fywyd, ond yn l traddodiad, yn Llanrwst y datblygwyd y delyn deires, a'r felysaf a wnaed oedd honno, a luniodd John Richards i John Parry Ddall o Riwabon.

Ac fe wnaeth John Richards ugain o delynau i Sackville Gwyn, Plas Glanbran, sir Gaerfyrddin - a oedd ei hun yn delynor nodedig i'w rhoi i delynorion tlawd.

Un o'r gwneuthurwyr olaf yn Llanrwst oedd Rowland Griffith, oddeutu diwedd y ddeunawfed ganrif. Diweddodd ei oes yn un o'r elusendai a elwir y Bowls (a noddwyd gan Syr John Wynn o Wydir yn y cyfnod pan sefydlwyd Ysgol Rad Llanrwst), a dywedir iddo wneud amryw delynau yn y fan honno - ond y byddai yn mynd hwy allan oddi yno i'w gorffen a'u "tantro" rhag ofn i leisiau hen wragedd preplyd yr elusendai effeithio ar y telynau ac andwyo eu tn!

***

YN Y dref hefyd 'roedd llawer o ddatgeiniaid rhagorol ac un o'r canwyr penillion nodedig oedd Edward Jones (Eos Ebrill) a aned yn Llanrwst ym 1821. Gof hoelion ydoedd ("nailer") a bu'n gweithio gyda John Jones y Nailer - y Parch. John Jones, Rhos yn ddiweddarach - a bu ddwywaith yn cydweithio am gryn gyfnod Robert Owen y Nailer a oedd yn englynwr medrus.

Bu Eos Ebrill yn fuddugol mewn llawer Eisteddfod gan gynnwys Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 1888. Ac yn ei Llyfr Cerdd Dannau y mae Robert Griffith yn cydnabod ei ddyled iddo am ei hyfforddiant ac am ddwyn i gof iddo lu o'r hen alawon ac o'r geiriau.

***

CYDOESWR i Eos Ebrill oedd Robert Owen (Eos Crwst). Yr oedd ganddo ef lais tenor anarferol o gyfoethog a phan fyddai'n canu penillion ar Pen Rhaw ei arfer oedd dilyn ail ran yr alaw trwy gychwyn y pennill wythawd yn uwch na diwedd y pennill yn y rhan gyntaf, ac nid un nodyn yn uwch yn l yr arfer gyffredin. Yr oedd y fath gwmpawd i'w lais fel y gallai wneud hynny gyda'r hwylustod mwyaf. Ond yr oedd yn dueddol ar adegau o anghofio'r geiriau, ond yn hytrach na mynd i'r wal byddai'n creu ei bennill ei hun yn y fan a'r lle - er na byddai ystyr hwnnw yn taro deuddeg bob amser!

***

MAE'N bosibl mai'r olaf i wneud telyn yng nghylch Llanrwst, a'i chanu, oedd James Hughes (Iago Bencerdd) a aned yn Sgubor Gerrig, Trefriw ac a ganodd delyn a wnaeth ei hun mewn eisteddfod yn Llanrwst ym 1874.

Ac un arall o'r hen delynorion oedd Evan Jones (Evan y Gorlan), Maenan. Bu ef yn athro i lawer telynor a datgeiniad - ac yn eu mysg, tad y Dr. J. Lloyd Williams, ac un arall eto o hogiau cerddgar Llanrwst.