CHWILEN GYMREIG TYWYSOG FFRAINC
gan Gwilym Arthur Jones

YMHLITH y pendefigion diwyll�iedig hynny a ymwelodd � Chymru yn y ganrif ddiwethaf yr oedd un gŵr a gymerai gryn ddi�ddordeb mewn tafodieithoedd ac a welai fod gwerth ym mharhad yr iaith Gymraeg. Y Tywysog Louis-Lucien Bonaparte (1813-91), a aned yn Thorngrove, Swydd Caer�wrangon, oedd y gŵr hwnnw. Yr oedd yr Ymherodr Napoleon I (m. 1821) yn ewythr iddo, sef brawd i�w dad. Dywedai rhai fod Louis-Lucien a'i ewythr yn debyg iawn o ran pryd a gwedd. Derbyniai bensiwn o'r Rhestr Sifil o �250 y flwyddyn ar gorn ei ymchwiliad�au ieithyddol.

Yn ystod mis Hydref 1855 penderfynodd y Tywysog ymweld � rhai o ardaloedd prydferthaf Cymru a disgrifiwyd y 'Grand Tour' mewn erthygl a ysgrif�enwyd yn Saesneg gan gyfaill agos i'r Tywysog, sef y Parchedig Robert Jones, Ficer Eglwys All Saints, Rotherhithe, Llundain. Ef oedd golygydd cyntaf y cylch�grawn Y Cymmrodor a dywedir fod ganddo gof anhygoel a gwybodaeth eang o lenyddiaeth Gymraeg - un arall o�r offeiriaid llengar hynny.

Un o nodweddion uchelwyr seibiannus y ganrif ddiwethaf, fel y sylwodd W.J. Gruffydd oedd hel creiriau o bob math, Bwriad y Tywysog hwn, fodd bynnag, oedd chwilio am lyfrau Cymraeg a dar�ganfod tafodieithoedd na chlywsai mo'u llefaru o�r blaen.

Trwy borth dinas Caer y cych�wynnodd y llyfrbryf a'i osgordd ar y siwrnai. Teithio mewn coits fawr gan fwrw ymlaen am Dre�ffynnon, Dinbych, Rhuthun, y Bala, Llanfyllin a Mallwyd. Treulio rhai dyddiau yn Aberdyfi a rhyfeddu at odidowgrwydd yr olygfa o amgylch. Yr hin yn hyfryd a chael cyfle i gyfathrachu �'r cychwyr a hwyliai'r llongau bach yn Aberdyfi. Sylwi'n arbennig ar berseinedd eu tafod�iaith. Ymserchu mor llwyr ym Mhlas Trefri nes codi awydd arno am brynu'r lle.

***

CLYWSAI fod llyfrgell nodedig Gwallter Mechain wedi ei chludo i Benmaen Dyfi, cartref y Fychan�iaid, a dyna ddigon o esgus dros alw i�w gweld. Enillasai Gwallter Mechain enw iddo'i hun fel offeiriad awenyddol a hynaf�ieithydd o fri. Cyflwynodd merch y bardd gopi o gyfieithiad Cymraeg o waith Thomas a Kempis i'r Tywysog.

Yn Llanegryn yr oedd cryn enw i siopwr y pentref fel casglwr llyfrau a 'doedd byw na marw na ch�i'r Tywysog ymweld ag ef. Rhyfeddai at chwaeth lenyddol y masnachwr hwn a bu'n dda ganddo gyflwyno un o'i gyfrolau prin i'r ymwelydd. Beth tybed a ddaeth o'r llyfrgell?

Heibio i hen eglwys Celynin wedyn ac aros yn syfrdan mewn edmygedd o harddwch Dyffryn Mawddach. Er i'r Tywysog, ar un adeg, fod yn Ddirprwy yng Nghorsica yn nyddiau anterth ei ewythr hyglod a chael cyfle i deithio cryn lawer trwy'r Eidal, bu raid iddo gyfaddef na welsai olygfa gyffelyb i'r un a ymledai o flaen ei lygaid y dwthwn hwnnw.

Wedi bwrw ei ludded yng ngwesty Cors-y-Gedol a lloffa ymysg rhagor o lyfrau Cymraeg yn y Bermo, troes i mewn i fynwent eglwys Dolgellau i ddarllen rhai o�r beddargraffiadau Cymraeg. Prynodd gopi o argraffiad cyntaf o'r Llyfr Gweddi Gyffredin yn yr iaith Fanaweg.

Testun edmygedd iddo ydoedd tafodiaith ddiledryw cylch Llanddewi Aberarth - heb arlliw, meddai, o ddylanwadau Seisnig arni. Ysgrifennodd sylwadaeth ar burdeb y barabl honno.

Hamddena yn nhueddau Tal-y-Llyn a chael cyfle i bysgota brithyll yno. Canu'n iach ag Aberdyfi a chyrraedd Machynlleth. Bodio rhagor o gyfrolau Cymraeg a phrynu copi rhwymedig hardd o'r Gwyddoniadur Cymreig (argraffedig yn Llanfair Caereinion). Ni chymerodd at y dafodiaith, fodd bynnag, gan ei bod, yn �l ei dyb ef, yn frith o lygriadau Seisnig.

***

SYLWI bod golwg ddeallus ar y trigolion pryd-tywyll y cyfarfu � hwy ar y ffordd i Aberystwyth a rhyfeddu at raenusrwydd adeiladau'r ysgolion. Tario rhai dyddiau yn Aberystwyth a chop�o'r pennill trist hwn oddi ar un o'r cerrig beddau ym mynwent Llanbadarn Fawr:

Mae'n rhaid fod gan yr hen Dywysog gryn feddwl o ddawn brydyddol Gwallter Mechain gan iddo drysori ar ei gof ei englyn adnabyddus:

Dywedir iddo adrodd yr englyn hwn gydag arddeliad yng nghlyw pawb o'r cwmni un noswaith loergan lonydd.

Synnu at ruthr a bwrlwm y rhaeadr ym Mhont-ar-Fynach ac yng Nghwm Cyn-Felyn cafodd olwg ar rai cyfrolau prin a oedd wedi eu cyhoeddi ar y cyfandir.

Bwrw trem ar Aberaeron a chael seiat ddifyr o dan nenbren y Parchedig Rowland Williams, Is�Brifathro Coleg Llanbedr-Pont-Steffan ar y pryd. Yr hyn a'i denodd yno ydoedd meistrolaeth yr is-Brifathro o iaith y Basgiaid - iaith a apeliai orau at y Tywysog o holl ieithoedd Ewrop.

Galw i weld y wasg enwog yn Llanymddyfri a chofio mai yno yr argraffwyd cop�au o'r Mabinogi, gwaith Lewis Dwnn, heblaw cyfraniadau nodedig Cymdeithas Lyfryddol Cymru. Canmolai waith pwysig Spurrell yng Nghaerfyrddin. Mewn tyddyn rhwng Llanymddyfri ac Aberhonddu trigai David Owen ('Brutus') a galwodd i'w weld. Ni chofnodir yr ymgom. Ymwelodd �'r ffwrneisi haearn ym Merthyr cyn cefnu ar Gymru. Yr oedd ei fryd ar weld eglwys gadeiriol Caerloyw yng ngolau'r lleuad.

***

MEDDYG teulu'r Tywysog ydoedd Syr Isambard Owen y cysylltir ei enw � llunio Siarter Prifysgol Cymru yn 1893. Brodor o Gasgwent ydoedd ond deuai ei deulu, ar ochr ei dad, o Gaer�narfon. Y mae'r Tywysog yn haeddu sylw pe na bai ond am iddo hwyluso cyhoeddi copi arbennig a ddaeth i'w feddiant o Athravaeth Gristnogavl Morys Clynog a argraffwyd yn 1558 gan Gruffydd Robert, Canon Eglwys Gadeiriol Milan. Y Cymmrodorion a ymgymrodd � chyhoeddi'r gwaith o dan gyfarwyddyd gofalus Isambard Owen - un arall o gymwynaswyr y genedl.

Ond y cwestiwn sy'n aros yw - beth a ddaeth o lyfrgell werthfawr y Tywysog wedi ei farw yn 1891 ac yntau yn ddeunaw a thrigain oed? Aros yn nhŷ ei nith yn Fano ar arfordir yr Adriatig yr oedd pan fu farw. Syr Isambard Owen (yn �l y Times) a wyliai drosto.

Ceisiwyd cadw'r lyfrgell yn Lloegr ac i'r diben hwn fe ysgrifennodd Isambard Owen lythyr yn 1896 at y Prif Weinidog Gladstone yn pwyso arno i ddefnyddio ei ddylanwad rhag colli'r casgliad i ddwylo estron. Ond nid ymyrrodd y gwlad�weinydd, a gwerthwyd y cyfan i Lyfrgell Newberry Chicago am bunt y llyfr sef cyfanswm o �1,500! Bargen yn ddiamau.

Ni ellir bellach ond gofidio am nad oedd ein Llyfrgell Genedlaethol yn bod yn y dyddiau hynny i achub y fath drysorfa lyfryddol. Ac o bosibl y buasai tynged Ewrop yn dra gwahanol pe bai'r Ymherodr Napolean ei hunan wedi dilyn yr un trywydd ysgolheigaidd �'i nai.