DIM NEWYDD MEWN SEBON

MAE'N debyg bod yna dipyn o ddefnyddio sebon Sunlight yng Nghymru ar droad y ganrif oherwydd ym 1893 hysbysebai'r cwmni gystadleuaeth go arbennig yn y papurau Cymraeg.

Cystadleuaeth Sebon Sunlight 232,000 o wobrau o Geffylau Haiarn, Oriaduron a Llyfrau gwerth 41,904p. Cynnelir y cyntaf o'r cystadleuon misol hyn Ionawr 31, 1894 a dilynir hi gan ereill yn fisol yn ystod 1894.

Cadwed Cystadleuwyr gynifer o Amleni Sebon Sunlight ag a fedront gasglu. Torer ymaith y rhan uchaf o bob amlen - y rhan sydd yn cynnwys y penawd Sunlight Soap. Anfoner y coupons hyn, gyda dalen o bapyr ag enw a phreswylfod yr ymgeisydd, gyda nifer y coupons wedi ei/eu hysgrifennu yn llawn arno, wedi talu'r llythyrdoll, i'r Mri. Lever Brothers Limited, Port Sunlight, ger Birkenhead, a noder ar amlen y llythyr (y gongl uchaf ar yr aswy) NIFER y RHANBARTH y mae'r Ymgeiswyr yn byw ynddo.

Bob mis, ym mhob un o'r 8 Rhanbarth, caiff y 5 Ymgeisydd a anfonont y nifer mwyaf o coupons o'r Rhanbarth lle y pres­wyliant ei ddewis o Geffyl Haiarn i Fab neu Ferch gwerth 20p (Premier Safety Cycle gyda Dunlop Pneumatic Tyres).

Gwaith y Premier Cycle Co. Ltd., Llundain a Coventry, yw y Ceffylau Haiarn hyn (a gawsant y Gwobrau Uchaf yn Ffair y Byd Chicago, 1893) - sef y clodfawr Premier Cycles, gyda phib droellog yn asgwrn cefn iddynt, cant Pneumatic Dunlop (1894) i'r olwynion; llusern Invincible Salisbury; cloth Harrison, teithgod at gludo offer, sugnedydd &c.

Gyda llaw dynoda'r 'p' punt, wrth gwrs, ac nid y 'pi' cyfoes.