HEN DRAFODION YR EISTEDDFOD ~
Gomer M.Roberts a'i gasgliad

Y MAE darllenwyr Y Casglwr yn ddigon cyfarwydd â'r cyfrolau sy'n cynnwys trafodion a chynhyrchion yr Eisteddfod Genedlaethol; ond nid mor hysbys, efallai, yw'r llyfrynnau a gyhoeddwŷd yn y ganrif ddiwethaf sy'n cynnwys cynhyrchion yr eisteddfodau lleol. Y mae'r rhain yn dra diddorol, ac erbyn hyn y maent yn ddigon prin.

Ar hyd y blynyddoedd fe brynais lawer ohonynt mewn siopau ail-law, gan lwyddo i gael rhai ohonynt am ychydig geiniogau neu sylltau. Y mae'n syndod fod rhai ohonynt yn gynnyrch eisteddfodau bychain mewn pentrefi diarffordd. Y mae'n amlwg fod cystadlu brwd ar y testunau, a bod gwerthu ar y cynhyrchion ar ôl hynny.

Perthyn rhai ohonynt i flynyddoedd cynnar y ganrif, ac y mae gennyf ddau o'r rheini wedi eu cydrwymo â Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain lolo Morganwg (Abertawy: J. Williams, 1829) - cyfrol, gyda llaw a fu'n eiddo "Evan Jones, sef leuan Gwynedd; Ei oed fydd 17 mlwydd y 5ed Dydd o Fedi, 1837".

Y gyntaf yw Ffrwyth yr Awen (Aberhonddu: Wm. Williams, 1823), sy'n cynnwys "Awdlau, Cywyddau, ac Ynglynion" a anfonwyd i Eisteddfod Gwent, Medi 1822, a gynhaliwyd yn Aberhonddu. Ymhlith y beirdd buddugol ceir Gwilym Cawrdaf, John Howells, Thomas Jones (Llundain), Pedr Fardd, John Rowlands (Pentir), Daniel Ddu o Geredigion, a Ieuan Glan Geirionydd.

Yr ail yw The Gwyneddion (Chester: T. Griffith, 1830), sef trafodion a chynhyrchion "the Royal Denbigh Eisteddfod", Medi 1830. Ymhlith y traethodau buddugol ceir un ar "The Flintshire Castles" (Edward Parry, Caer), ac un arall ar 'Angenrheidrwydd Cyfraith i gynnal Moesau Da' (Parch. Samuel Roberts, Llanbryn-mair), Ymhlith y beirdd buddugol ceir Gwilym Peris, Robert Parry (Eglwys-fach), Edward Hughes (Bodfari), Alun (yr alarnad enwog i'r Esgob Heber), Samuel Evans (Caerwys), Gwilym Hiraethog a Bardd Nantglyn. Y mae hon yn gyfrol sylweddol, 178 o dudalennau.

***

LLYFRYN prin bellach yw Cyfansoddiadau Gwobrwyol (Machynlleth: A. Evans, 1854) cyfarfod cystadleuol Cymdeithas Lenyddol Aberhosan, Ebrill 1854. Cynhwysir ynddo gerddi buddugol o waith Gwilym Cyf­eiliog, Ieuan Dyfi, &c., a thraethodau ar gymwysterau gofynnol athraw Ysgol Sul. Cyfrol mwy uchelgeisiol yw Aeron Afan (Caerfyrddin: Wm. Thomas, 1855), cyfansoddiadau buddugol Eisteddfod Iforaidd Aberafan, Mehefin 1853.

Ceir yn y gyfrol draethodau meithion ar Ddaeareg (John Morgan, Llanymddyfri), 'Dechreuad a Chynnydd Gweithiau Cwmafan' (John Rowlands, Cwmafan), 'Maes Glo Deheudir Cymru' (Mathetes), a 'Bywyd a Gorchestion Caradawc ab lestyn' (Ed. Lewis, Pont-y-pridd). Y beirdd buddugol yw Llawdden, Lleurwg ac Islwyn.

Cyfrol nodedig, am ei bod yn cynnwys llawer o hanes lleol, yw Detholiad o'r Cyfansoddiadau Buddugol (Llanelli: J. Thomas, 1857) Eisteddfod Llanelli, Gorff­ennaf 1856. Ceir ynddi 'Hanes Llanelli' (D. Bowen, Llanelli), 'Hanes y Felinfoel' (W. George, Y Felin-foel), a 'Hanes Pont­yberem' (Stephen Evans, Cilcarw). Rhai o'r beirdd buddugol oedd Ellis Wyn o Wyrfai, Dewi Mai, Gwilym Teilo, Calfin, Gwilym Mai, Lleurwg ac Ifor Cwm-gwys.

Nid oes gymaint â hynny o hanes lleol yn Cyfansoddiadau Buddugol Eisteddfod Ystalyfera (Abertawy: E. Griffiths, 1860), Medi 1859; ond i'r sawl a ymddiddora mewn diwydiant ceir traethodau meithion ar 'Yr achos athronyddol o'r tanddaearol danchwa' (Parchn. G. Havard, ac E. Edwards, Bryn-mawr), a 'Dylanwad Glanweithdra a Thaclusrwydd yn annedd y gweithiwr' (E. Edwards eto).

Traethawd diddorol yw'r un ar hanes y cwdyddion, y brodyr a deithiai ar hyd a lled y wlad i werthu clociau, te a brethyn, 'a'r niwed a ddeillia i ni fel cenedl o ymdrafod â hwynt' (D. R. Lewis, Aberdâr). Y mae yma hefyd 'Chwedldraeth', sef 'William Morgan; neu Wobr Diwydrwydd' (J. Davies, Llangennech), a thraethawd 'Er rhoddi cyfar­wyddyd i'r Puddlers i adennill eu hanrhydedd cyntefig' (Parch. T. Williams, Ystalyfera). 'Traeth­awd ar Ddewiniaeth' hefyd o’r eiddo Lewis Rowland, Cwm­twrch.

Y beirdd buddugol yw Phillip Morgan, Treforys, Gwilym Mai, Lleurwg, Ifor Cwm-gwys, D. L. Moses, Brynaman a Chynddelw, &c.

***

CYHOEDDWYD Detholion (Caerfyrddin: Ben Jones, 1859) o gyfansoddiadau buddugol Eisteddfod Cynwyl Gaeo, Awst 1858, yn llyfryn hylaw sy'n cynnwys traethodau ar 'Yr Ogofau ac Afon Cothi' (J. Morgan, Llundain), 'Gwelliadau mewn Amaeth­yddiaeth' (J. Hopkins, Llandeilo ac E. Jones, Crug-y-bar), a 'Peroriaeth Eglwysig' (Parch. D. Lloyd Isaac, Llangathen), Ceir ynddi gynnyrch y beirdd hefyd, sef Gwilym Teilo a Gwilym Marles, &c.

Cyfrol gyfoethog yw Cyfansoddiadau Buddugol Eisteddfod Llanbedr (Aberystwyth: D. Jenkins, 1860), Alban Hefin 1859. Ceir ynddo draethodau ar 'Hanes Llanbedr a'r Gymmyd­ogaeth' (Parch. D. Lloyd Isaac, Llangathen), 'Milisia Sir Aberteifi' (T. Rhydderch, Pumsaint), a 'Fferylliaeth Amaethyddol' (D. P. Davies, Pumsaint). Ceir rhai enwau cyfarwydd ymhlith y beirdd, sef Cunllo (o Rydlewis), D. L. Moses, Gwilym Mai a Gwilym Marles. Ceir yma dôn gynulleidfaol arobryn, Llanbedr, o gyfansoddiad 'Mr Lewis, Llanrhystid'.

Y nesaf, o ran amser, yw Cyfansoddiadau Buddugol Eisteddfod Castellnewydd Emlyn (C. N. Emlyn: J. R. Davies, 1860), Gorffennaf 1859, sy'n cynnwys traethawd hir o waith Gwynionydd ar 'Hanes Castellnewydd­yn-Emlyn, Trefhedyn, a'r Amgylchoedd'.

Ceir yn y gyfrol hefyd draeth­odau ar 'Rheoleiddio Amser Llafur y Gweithiwr' (J. R. James, Aberteifi), 'Prydlondeb yn Mhob Peth' (Parch. E. Roberts, Basaleg). Beirdd yr eisteddfod hon yw Gwilym Marles, Meilir Môn, a Rhisiart Ddu o Wynedd. Cafwyd 23ain o donau, i'w beirniadu gan Ieuan Gwyllt, a rhannwyd y wobr rhwng Alaw Ddu a T. Davies, Pont-y-pridd.

Llyfryn bychan iawn (16 tt.) yw Rhosyn Ffrwdwyllt (Caerfyrddin: W. M. Evans, 1869), cyfansoddiadau buddugol Eistedd ‑ Eistedd­fod Bryntroedgam (get Aberafan), Gorffennaf 1869, a beirdd lleol - Dewi Afan, Gwilym Ffrwdwyllt a'r Parch. H. Gwerfyl James, Treforys, oedd y buddugwyr.

Y Berllan (Cwmafan: D. Griffiths, 1870), yw teitl cyfansoddiadau buddugol Eisteddfod Maesteg, Medi 1869. Ymhlith y traethodau ceir un ar 'Lysieuaeth Plwyf Llangynwyd' (Thomas Evans), ac un arall ar 'Daeareg Dyffryn Llyfnwy' (D. Bowen, Maes-teg). Y beirdd buddugol yw J. E. Jenkins (Ystradyfodwg), Dewi Afan, Watkin Hughes (Glyn­ebwy), Ll. Griffiths (Glan Afan), Athan Fardd, R. Coslet (Pont-y-­pridd),&c.

***

BU NIFER o eisteddfodau yn Aberdâr yn y cyfnod yma, a chasglwyd eu cynhyrchion at ei gilydd yn Gardd Aberdâr (Aberdâr: W. Lloyd, 1872), 'cyf­ansoddiadau buddugol yn dal cysylltiad â phlwyf Aberdâr a'r Cylchoedd', Ceir yn y gyfrol ddau draethawd gwerthfawr ar hanes plwyf Aberdâr, gan T. D. Llewelyn a J. J. Jones, ill dau o Aberdâr, ynghyd â chofiannau i Thomas Glyn Cothi (J. Rees, Merthyr Tudful) a Lodwick y Töwr (Y Carw Coch).

Y beirdd y tro yma yw Ifor Cwm-gwys, leuan ap Iago (Pont-y-pridd - 'Hen Wlad fy Nhadau’), Carw Dâr, Alaw Goch, Robyn Ddu Eryri, &c., &c.

Gemau Margam (Aberafan: T. Jones, 1873) yw teitl cyfan­soddiadau buddugol Eisteddfod Agoriad Neuadd y Gweithwyr, Tai-bach, Hydref 1872, 'dan nawdd cymdeithasau dyngarol Taibach'. Wele deitlau'r traethodau buddugol: 'Y Daioni sydd yn deilliaw oddiwrth y Cymdeithasau Dyngarol' (W. Davies, Aberdâr), 'Taibach, yr hyn oedd, yr hyn yw, a'r hyn a ddylai fod' (Parch. R. Morgan, Aberafan).

Ceir yma hefyd gynhyrchion y beirdd - Carnelian, Dewi Afan, Gwilym Glan Llwchwr (o Lan­dybie), Rhydderch ap Morgan, a Dyfedfab (Aberdâr - 'Dyfed', ar ôl hynny). Ceir yma dôn hefyd, Berton, gan Rees Williams.

***

CAFWYD cyfres o eisteddfodau yng Ngharmel, Treherbert, yn 1870-74, a chyhoeddwyd y Cyfansoddiadau Buddugol gan Wasg Daniel Davies, Treherbert yn 1875. Ceir yn y gyfrol draethodau ar 'Effeithiau Niweidiol Tymher Ddrwg' (D. John, Ffynnon Taf), a'r 'Cynllun mwyaf effeithiol i ddwyn allan eisteddfodau Cymru yn llwyddiannus', &c. (Parch. J. Eiddon Jones, Llanrug). (Gallai'r olaf, efallai, fod yn gymorth mawr i bwyllgor yr Eisteddfod Genedlaethol!)

Peth newydd iawn, mewn eisteddfod, oedd 'Chwareugerdd Gyssegredig ar hanes Job' - drama fydryddol, a'r buddugol oedd y Parch. R. Morgan (Rhydderch ap Morgan), Aberafan. Ymhlith y beirdd ceir enwau cyfarwydd, megis Brynfab a Watcyn Wyn.

Yn olaf, ond nid y lleiaf ei gwerth ar fy silffoedd, yw Cyfansoddiadau Buddugol Eisteddfod Gadeiriol Sarn Meillteyrn (Pen-y-groes: G, Lewis, 1884), Awst 1883. Prif gynnwys y gyfrol hon yw traethawd gwerthfawr y Parch. W. O. Evans, Nefyn, 'Beirdd a Llenorion Lleyn o amser Esgob Rowlands hyd farwolaeth Owain Lleyn.'

Dyma destunau traethodau eraill: 'Anhebgorion gwraig amaethwr' (Miss Ellen Jones, Llanarmon - gobeithio'n wir iddi gael ffermwr yn ŵr), 'Yr angen­rheidrwydd o gael rheilffordd trwy Leyn' ('Navvy'). Ymhlith y beirdd ceir Tudno Jones ac lolo Trefaldwyn.

Diau fod llawer o drafodion a chyfansoddiadau buddugol eisteddfodau'r 19eg ganrif wedi eu cyhoeddi'n llyfrynnau neu gyfrolau hylaw, yn y De a'r Gogledd; ond dyma'r rhai a gesglais i ar hyd y blynyddoedd.