HERALD Y COFIS gan Maldwyn Thomas

CYHOEDDWYD y rhifyn cyntaf o'r Herald Cymreig, (Herald Gymraeg), ar 19 Mai 1855. James Rees, (1803-1880), oedd y cyhoeddwr a'r argraffydd - ef oedd y pwysicaf o berchenogion newyddiaduron tref Caernarfon yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Bu'n cyhoeddi'r papur hyd 26 Mehefin 1869, a bu'n ei argraffu hyd 24 Mehefin 1870. Erbyn hyn yr oedd yr Herald yn gwerthu pymtheng mil o gopïau yr wythnos yn ôl ffeil a chofnodion y swyddfa. James Evans, (1827-1911), gŵr ifanc wyth ar hugain mlwydd oed oedd y golygydd cyntaf; bu yn y gadair olygyddol am ugain mlynedd.

Llwyddodd y ddeuddyn hyn i osod y papur ar sylfeini cadarn, a llwyddodd y ddau hefyd i greu traddodiad y papur Gymraeg mwyaf llwyddiannus yn y byd. Papur a gefnogai Ryddfrydiaeth uniongred, a brwydr Anghydffurfiaeth Gymraeg fu'r Herald am flynyddoedd maith.

Ar hyd y blynyddoedd bu'r papur yn flaenllaw yn rhengoedd y wasg yng Nghymru fel papur a roddai sylw arbennig i lenyddiaeth Gymraeg. Llwyddodd y perchennog a'r golygydd i ddenu awduron diddorol a dawnus ar gyfer y cyhoeddiad o'r cychwyn, tra yr oedd nifer o’r staff olygyddol yn llenorion amlwg. Erys peth o'r traddodiad hwn heddiw, a'r Herald bellach yn 124 mlwydd oed.

Bu nifer o feirdd buddugol yr Eisteddfod Genedlaethol ar staff olygyddol y papur:

Bu eraill o'r staff olygyddol yn bur amlwg fel awduron rhyddiaith: John James Hughes, 'Alfardd,' John Evans Jones, 'Y Cwilsyn Gwyn', R. D. Rowland, 'Anthropos,' Daniel Rees a Richard Hughes Williams, 'Dic Tryfan.'