PRISIAU SOTHEBY'S gan J.Hywel Thomas

AR EBRILL 3ydd eleni gwerth­wŷd rhan o lyfrgell y Cyrnol J. F. Williams-Wynne gan yr arwerthwyr Sotheby's, New Bond Street, Llundain. Yn ôl y plât ar y llyfrau, casglwyd hwy gan Richard Mostyn o Benbedw yn yr ail ganrif ar bymtheg, gan Watkin Williams o Benbedw yn y ddeunawfed ganrif a gan William Watkin Edward Wynne o Beniarth yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Etifeddodd W. W. E. Wynne lyfrgell Syr Robert Williams Vaughan o Hengwrt yn 1859. Mae'n debyg mai'r llyfrgell lawysgrifau a gasglwyd yn Hengwrt oedd y casgliad gorau o lawysgrifau Cymraeg a grynhowyd erioed gan unigolyn. Ymhlith y cynnwys yr oedd eitemau o'r casgliad a gychwynnwyd gan yr hynafiaethydd Edward Lluyd, ac a brynwyd yn ddiweddarach gan Syr John Sebright. Felly o dan yr un to daeth cyfoeth o lyfrgelloedd Penbedw, Peniarth a'r Hengwrt. Sicrhawyd llawysgrifau Hengwrt­Peniarth i'r genedl Gymreig yn 1909 trwy haelioni Syr John Williams. Felly y llyfrau o Ben­bedw a Pheniarth oedd ar werth yn Sotheby's eleni.

Dyma restr o'r llyfrau Cymreig a werthwyd, gydag amcangyfrif yr arwerthwyr o'u pris, mewn crom­fachau; y pris a dalwyd, ac enw'r prynwr, pan oedd yn hysbys.

    1. Y Bibl Cyssegr-Lan a'r Llyfr Gweddi Gyffredin, 1718. (£25-35), £80, W. Simon.

    2. Llyfr Gweddi Gyffredin, 1634. (£60-80), £60, W. Simon.

    3. Caradoc, of Llancarfan. The Historie of Cambria, now called Wales by H. Lloyd ... corrected ... by David Powel,1584. (£100-150), £260, S. Crowe.

    4. Eto, ei gyflwr heb fod gystal. (£30-4), £85, Quaritch.

    5. Davies, (Dr. John, Mallwyd). Antiquae linguae Britannicae ... rudimenta, 1621. (£50-75) £220, W. Simon.

    6. Davies, (Dr. John, Mallwyd). Antiquae linguae Britannicae . . . 1632. (£80-120), £650, Quaritch.

    7. Doddridge (Sir John) The History ... of Wales, 1630. (£75-100), £160, W. Simon.

    8. Herbert of Cherbury (Edward Lord) The Life. First Edition, Strawberry-Hill, 1764. (£50-­75), £90, Thorpe.

    9. Hughes H. The Beauties of Cambria, 1823. (£100-150), £160.

    10. James (Thomas). The strange and dangerous voyage of Captaine Thomas James in his intended discovery of the North West Passage, 1633. (£2000-3000), £2400, Dawson.

    11. Tri llyfr
    a) Jones (Rhys), Gorchestion Beirdd Cymru, 1773 wedi ei rwymo gyda The Depositions ... in the cause against Dr Bowles ... Livings in Wales, 1773, ac hefyd, The Love of our Country, a Poem, 1772.
    b) Jones (Huw), Diddanwch Teuluaidd, 1763.
    c) ac un llyfr diwinyddol 18g., (£40- 60), £400, W. Simon.

    12. Leicester (Ffrancis of Vauxhall) The Little Mine Adventure (Mine called Pant, near Holywell in Flintshire), 1702. (£150-200), £680, Quaritch.

    13. Lluyd (Edward), Archaeol­ogic Britannica (yn cynnwys dau lythyr gan yr awdur at Richard Mostyn, Penbedw), 1707. (£400-600), £500, Quaritch.

    14. Lluyd (Edward), Lithophyl­acii Britannica ichnographia (yn cynnwys llythyr gan yr awdur yn cyflwyno'r llyfr i Richard Mostyn), 1699 (£400-600), £500, Quaritch.

    15. Llwyd (Humphrey). The Breuary of Britayne, 1573. (£150-200), £150, W. Simon.

    16. Murtadha Ibn al Khafif. The Egyptian History, translated by John Davies of Kidwelly, 1672. (£75-100), £95, Quaritch.

    17. Testament Newydd ein Arglwydd Jesu Christ (William Salesbury), 1567. (£1500-2000), £3800, W. Simon.

    18. Owen (John), Epigrammatum ... 1647. (£20-30), £12, H. Thomas.

    19. Peacock (Thomas Love) The Misfortunes of Elphin, First Edition, 1829. (£25-30), £130, Quaritch.

    20. Price (Sir John). Historiae Brytannicae defensio ... 1573. (£100-150), £240, W. Simon.

    21. Pontius (Virunius), Britann­icae historiae linrisex ...1585 (£75-100), £100, W. Simon.

    22. Rhys (John David) Cambro. brytannicae cymraecaeue linguae institutiones et rudimenta, 1592. (£80-100), £320, W. Simon.

MAE'R mwyafrif o'r prisiau a dalwyd yn llawer uwch nag amcangyfrif arbenigwyr Sotheby's (Dylid cofio hefyd fod y prynwr, yn talu swm o 10% dros ben 'pris y morthwyl') ac mae hyn felly yn tanlinellu'r prinder, a'r galw am lyfrau cynnar mewn cyflwr da o ddiddordeb Cymreig.

Ar nodyn personol, fe'm synnwyd gan y diffyg diddordeb yn yr arwerthiant hanesyddol yma gan gasglwyr a llyfr­werthwyr o Gymru. Llyfr­werthwyr Llundain, o siopau enwog fel Edwards, Maggs, Dawson a Quaritch, oedd y mwyafrif yn bresennol, and da oedd gweld dau o aelodau staff y Llyfrgell Genedlaethol yno.