Y DARN PRIN gan Selwyn Jones

YMARFERION CYFOSODIAD/ MEWN/Cyfansoddiant Cerddorol Elfennol, / gan /JOHN CURWEN / Cyfieithwyd gan / Y Parch. JOHN ROBERTS/ (Ieuan Gwyllt) LONDON: / TONIC SOL-FA AGENCY, 8 WARWICK LANE, EC.

(Dyna deitl-ddalen cyhoeddiad o iv a 68 tudalen, (7" x 10.3"), gyda Rhagymadrodd gan John Curwen, wedi ei drosi i'r Gymraeg a'r dyddiad Gorffennaf 1871. Ymdriniai ar y gwaith mewn rhifyn diweddar o'r cylchgrawn 'Cerddoriaeth'.

Y mae copïau yn brin eithriadol. Nid yw yn y Llyfrgell Genedlaethol nac yn y British Museum. Nid oedd yn hysbys i Bob Owen nac i R.D. Griffith. Fy nghopi i yw'r unig un y gwn i amdano.

Trosiad yw o ddarn o 'The Common-Places of Music', John Curwen: cymaint o'r gwaith hwn y credai Ieuan Gwyllt yr oedd yn rhaid ei gael i'r Cymro uniaith, er fod y gwreiddiol yn cynnwys, o leiaf, 1,775 tudalen. Sgrifennais 'o leiaf' am fod Curwen heb gyhoeddi ei fod yn gyflawn, a thuedd ynddo i argraffu dalen neu fwy er mwyn gwella neu chwanegu at ei esboniadau.

Pwrpas y cyfanwaith oedd gwasanaethu myfyrwyr cerddoriaeth nad oedd modd iddynt ddatblygu eu hefrydiaeth ond wrth ddilyn cyrsiau Coleg y Tonic Sol-ffa drwy'r post.

Digon prin yw cyfrolau o'r gwreiddiol, yn bennaf, mi gredaf oherwydd fod Curwen yn sylweddoli fod dimeiau yn cyfrif i gynifer o'i ddisgyblion. Felly yr oedd yn gwerthu dim ond y nifer o ddail a oedd yn orfodol at wersi, cwrs arbennig a ddilynid ar y pryd.