HEN FRI CEFN AMWLCH gan Ioan Mai Evans

Fel 'na y canodd Morus Dwyfach, am stad Cefn Amlwch, Llŷn, pan oedd yno'n fardd teulu. A phriodol efallai wrth fynd fyddai nodi ein bod ar drothwy pedwar canmlwyddiant mares William Llŷn, a gydoesai â Morus Dwyfach. Diau y bydd rhywun yn ei gymharu â'r "Morus ddifregus bencerdd" fel y'i gelwid gan William Llŷn ei hunan.

Faint bynnag o ansicrwydd sydd am yr union berthynas rhwng "Bardd Llŷn uwch beirdd holl Wynedd" a gwlad Llŷn ei hunan, mae trawiad Morus Dwyfach, am hen deulu'r Griffith, noddwyr cân ac alaw, yn un sicr iawn. Daeth hyn i'r golwg yn bendant ddigon pan gollodd ei noddwr a gofidio fel hyn:

Seiniau a ddisgyn ar fy nghlust mor felys â thelyn deires Parri Ddall, a fu'n tiwnio yn yr un man yn union, cwta ddeugant o flynyddoedd yn ddiweddarach. A hyd yn oed ar ambell i 'lenni a'i flinder byw, fe ddaw ryw Awst a llond tri bws o aelodau Cymdeithas Hynafiaethwyr Cymru i fwynhau heulwen ar lawnt y plas, ac i wrando ar yr Athro Idris Foster, yn dehongli arysgrifau cynnar am Senacus a Veracus, oedd hyd y fan fil a thri chant a rhagor o flynyddoedd yn ôl.

Paned, brechdan a chacen wedyn i bawb gan y Capten a Mrs Charles Wynne Finch, perchen y stad a disgynyddion y teulu y canodd Morus iddynt.

Teulu Cefn Amwlch oedd gyda'r pwysicaf yng Ngogledd Cymru ar un amser, yn ôl Dr Thomas Richards, un a lafuriodd yn glodfawr i gefndir y stad. Hwyrach ichwi ei glywed yn codi i berorasiwn wrth sôn am ddylanwad John Griffith, o Lŷn yn lecsiynau 1620 a 1622 pan roddodd Sgweiar Cefn Amwlch, godwm i Syr John Wyn o Wydir, neu'r 'hen gonyn bachog' fel y galwodd y doctor ef.

A diau fod hynny sydd am gael ei ddweud am Madam Sydney Griffith, a'i chyfathrach a Hywel Harris, wedi ei ddweud bellach. Dim cymaint efallai am stranciau ei gŵr William Griffith, y daeth John Wesley, o bawb ar ei draws yn ram-damio'n y llong yng Nghaergybi ar ei ffordd i Iwerddon. 'Doedd o ddim gwell na'r ryffians rheiny yn Macbeth yn ôl dyddiadur Wesley, ac yn chwil gaib yn ôl pob golwg.

Gwefr oedd cael y llun hwn o’r rhadlon John Griffith y chweched, allan i’r lawnt, a mwy na thebyg mai fo oedd yr olaf a fedrai siarad Cymraeg. Mae'n agos i ddau gan mlynedd er ei farw. Ond daeth tro ar fyd, a chafodd tri o blant y stad, Harriet, ar y chwith, David, sy'n ymhyfrydu fod ei ben-blwydd ar Ŵyl Ddewi, a Mary, sy'n gantores, eu hanfon i’r ysgol leol i Dudweiliog. Mae'r tri yn deall ac yn siarad Cymraeg.

Ai adwaith helyntion teuluol fel hyn a barodd i'r mab John Griffith, y chweched, aros yn ddi-briod ys gwn i. Yr olaf o hen deulu'r Griffithiaid yn gadael y stad i'w gyfnither Jane Wynne, o deulu'r Foelas. Fel y gellid disgwyl teneuo a wnaeth y gwaed Cymreig, and ni pheidiodd nawddogaeth weithredol y teulu serch i'r Gymraeg ddarfod ar dafodau'r uchelwyr, a dal i fod yn iaith cipar, garddwr, gwas a morwyn. Llun ar fur y plas, dociwmentau am feIin Edern a'r llongddrylliadau ar draethau Llŷn, biliau am noddi telynor ac arlunydd.