O FAES Y GWAED gan Robin Gwyndaf

YSGWN I faint o'r darllenwyr sy'n casglu defnyddiau megis llythyrau, dyddiaduron neu gerddi a sgrifennwyd gan filwyr ymhell o'u gwlad a'u teuluoedd? Gwell gan rai, mae'n siŵr, yw peidio ag ymh�l o gwbl ag unrhyw beth sy'n eu hatgoffa o'r bechgyn a glwyfwyd ac a laddwyd ar faes y gad. A hawdd yw cydymdeimlo � safbwynt felly.

Ac eto, fe all darllen y defnyddiau hyn ein hargyhoeddi fwyfwy o ffolineb ac erchyllterau rhyfel. Dyna, yn sicr, y dylai ymweliad �'r Amgueddfa Ryfel (yr Imperial War Museum) yn Llundain ei wneud, yn ogystal, wrth gwrs, �'n gorfodi i ryfeddu at faint yr holl wybodaeth a'r defnyddiau a gasglwyd ynghyd yno.

Rai blynyddoedd yn �l cefais gyfle i recordio atgofion tri o gyfeillion Hedd Wyn: y diweddar Jacob Jones (genedigol o Uwchaled) a fu'n cyd-rigymu a chyd-englyna ag ef yn yr odyn grasu yn Nhrawsfynydd; y Parch. William Morris, cyfaill bore oes; a Simon Jones, Blaen Plwyf Uchaf, Aberangell, a welodd Hedd Wyn yn cael ei glwyfo.

Wedi hynny daeth cyfle i gasglu llythyrau, dyddiaduron a cherddi a sgrifennwyd gan eraill o fechgyn ifanc a laddwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, bechgyn na ŵyr Cymru fawr ddim amdanyn nhw, ond sydd �'u henwau yn fyw ac yn annwyl iawn hyd heddiw gan eu teuluoedd.

Cofiaf yn dda, er enghraifft, am ddisgrifiad Telynores Maldwyn (tap A.W.C. 3191) pan aeth i ymweld � mam Defi Llwyn Cwpwl, Llangwm, y llanc hoffus a direidus y bu hi'n ei ddysgu i ganu'r delyn deir-rhes (daeth yntau, yn ei dro, yn athro i Miss Laura M. Jones, 'Telynores Gwynedd'):

0 holl wyliau'r flwyddyn, mae'n sicr mai dymuniad pob milwr yw cael bod gartref gyda'i deulu dros Ŵyl y Nadolig. Anodd yw gorfoleddu yn sŵn y gynnau, ac yn ei gerdd odidog 'Bethlehem' rhoes y diweddar Barch R. Meirion Roberts (awdur y ddwy gyfrol o farddoniaeth Plant y Llawr ac Amryw Ganu) fynegiant didwyll ac angerddol iawn i ddyheadau llawer un ar yr adeg hyn o'r flwyddyn.

Yr oedd ef ar y pryd yn gaplan yn Y Dwyrain Canol yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

OND NID pob milwr sy'n gallu cyfansoddi barddoniaeth. Anfon eu cyfarchion Nadolig drwy gyfrwng llythyr neu gerdyn a wn�i'r mwyafrif, ac yn y rhifyn hwn o'r Casglwr tybiais y byddai gan y darllenwyr ddiddordeb mewn gweld enghreifftiau o gardiau o'r fath, o gyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf. (Daw'r tri o gasgliad Amgueddfa Werin Cymru, rhifau 59 128 1-2 a 70 313 1).

Cyflwynwyd cerdyn 1 a 2 (top a gwaelod ar dud. 1) yn rhodd i'r Amgueddfa gan S.A. Luen, y Barri. Anfonwyd hwy at ei briod, Annie, cyn iddi briodi gan ddau fachgen ifanc o'r Barri: Idris Roberts ac Albert Richards. Perthynai'r naill i rif 38 o'r Adran Gymreig a'r llall i'r ail fataliwn ar bymtheg o'r Ffiwsilwyr Cymreig Brenhinol. Bu farw'r ddau yn y rhyfel.

Cyflwynwyd y trydydd cerdyn (ar y tudalen yma) yn rhodd i'r Amgueddfa gan W. Graeme John, o Aberd�r. Ni wn at bwy yr anfonwyd ef na pha beth a ddigwyddodd i'r sawl a'i hanfonodd, ond dyma'r geiriau a sgrifennwyd y tu mewn i'r cerdyn: 'To you from Evan John with best Love.'

�L NODYN
Cais gan y Golygydd am lun Cerdyn Nadolig Cymraeg cynnar a roes sbardun i'r nodiadau uchod. Ond er i'r cerdyn Nadolig cyntaf yn Lloegr a Chymru fel y gwyddom ni amdano gael ei gyhoeddi mor bell yn �l ag 1843 (gw. cyfrol George Buday, 'The History of the Christmas Card, 1954) prin yw'r cardiau Cymraeg a gyhoeddwyd cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Os oes gan rai ohonoch enghreifftiau cynnar beth am eu hanfon naill ai at y Golygydd neu at Adran Ll�n Gwerin, Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, Caerdydd.