Y SEREN FORE gan Syr Thomas Parry

HEDDIW, pan ystyrir papurau bro yn ddyfeisiadau newydd a thra llwyddiannus, bydd yn syn gan lawer ddeall am bapur bro a gychwynnwyd bedair blynedd a phedwar ugain yn ôl, sef Seren y Mynydd, a ddisgrifir fel 'Papur newydd at wasanaeth Llanuwchllyn a'r amgylchedd'. Y dyddiad yw 'Dechre 1895', ac argraffwyd a chyhoeddwyd ef 'dros y perchennog gan Davies ac Evans, Swyddfa'r Seren, y Bala'.

O ran diwyg y mae'n annhebyg iawn i bapur newydd; nid yw ond pamffledyn bychan, pum modfedd wrth dair a thri chwarter, ac iddo 48 o dudalennau. Nid oes yr un gair i ddweud pwy yw'r perchennog na'r golygydd, ond fe wyddys mai O.M. Edwards oedd y ddau.

Ar y pryd yr oedd ef yn ddarlithydd yn Rhydychen, ac yn golygu pedwar cylchgrawn, Y Llenor, Wales, Cymru a Chymru'r Plant. Y mae'r rhain yn cael eu hysbysebu ar glawr Y Seren, ond eto heb son am y golygydd.

Mewn anerchiad ar y dechrau y mae'r Seren yn dweud mai'r cymhelliad iddi ymddangos oedd y Cyngor Plwy. Ystyr hyn yw fod y Cyngor Plwy yn sefydliad newydd (daeth i fod o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1894, gyda'r Cyngor Dosbarth a'r Cyngor Dinesig) a'i fod yn rhoi cyfle i werin gwlad ei rheoli ei hun ac ymysgwyd o drais y cyfoethog.

Nid syn felly fod cryn lawer o gynnwys Y Seren yn ymwneud â'r Cyngor Plwy. Rhoir rhestr o'r aelodau a'r Rheolau Sefydlog, ac yn y rheolau hynny fe ddywedir yn groyw bendant mai yn Gymraeg y byddai pob rhybudd yn galw cyfarfod o'r Cyngor, ac mai Cymraeg fyddai iaith y cofnodion.

***

CYNHALIWYD cyfarfod cyntaf y Cyngor noson olaf y flwyddyn 1894 yn Ysgol y Genethod. Penodi swyddogion a phwyllgorau oedd yr unig fusnes, a diddorol (a rhyfedd yn wir) yw hanes ethol Cadeirydd. Dyma a ddywedir: 'Yn gadeirydd tan fis Ebrill etholwyd un o'r tu allan i'r Cyngor – O.M. Edwards. Aeth cennad i gyrchu hwn, a daeth yn ôl i ddweud ei fod yn y cyfarfod gweddi, ond yr anfonid ef pan ddeuai adref. Rhaid mai math o Gadeirydd Anrhydeddus yn unig oedd O.M.E., oherwydd ni allai weithredu ond yn ystod gwyliau'r Brifysgol.

Bu ail gyfarfod ar 14 Ionawr 1895, ynghanol storm o eira enbyd, ond pob aelod yn bresennol, 'a chynulleidfa dda o wrandawyr'. Derbyniwyd adroddiadau'r pwyllgor elusennau a'r pwyllgor llwybrau cyhoeddus. Ar dudalennau eraill o'r Seren ceir rhestr o'r elusennau ac o'r llwybrau. Y mae'n rhyfedd meddwl fod diboblogi cefn gwlad yn broblem hyd yn oed yn 1895. Dyma a ddywedir am y llwybrau:

Bu trafod ar y cyflenwad dŵr, oherwydd yr oedd peth o hwnnw yn aflan ac yn beryglus i iechyd pobl. Ystyriwyd hefyd sefydlu llyfrgell gyhoeddus, yn ôl darpariaethau Deddf 1892.

Yn y trydydd cyfarfod, 2 Chwefor, yr oedd dau aelod wedi methu cyrraedd oherwydd yr eira mawr. Bu trafodaeth ar un pwnc sy'n debyg iawn i rai o bynciau heddiw: 'Condemniwyd y L & N.W. Railway am droi'r gweithwyr Cymreig i ffwrdd, ac am beri anhwylustod i'r cyhoedd drwy apwyntio gorsaf feistri na ddeallent Gymraeg'.

Ar y dudalen arall dywedir mai cyndyn iawn i newid ei arferion oedd y Cwmni, ac meddai'r golygydd, 'O'm rhan fy hun, ni siaradaf air â phobl y ffordd haearn yng Nghymru ond yn Gymraeg. Ac ni chaiff y L.N.W. Railway geiniog oddi wrthyf fi byth'. (Y London and North Western Railway oedd enw llawn y Cwmni, a'i diriogaeth yn cynnwys y llinell o Gaer i Gaergybi ac i Afon-wen, a changehnnau i drefi eraill yn y Gogledd.)

***

FEL YM mhopeth a gyhoeddodd O.M. Edwards, y mae lluniau yn Y Seren – lluniau personau, gan gynnwys ei frawd Edward Edwards, Athro Hanes yng Ngholeg Aberystwyth, a Mrs J. Davies, gwraig ifanc atyniadol yr olwg arni ond heb awgrym pwy ydyw.

Ceir llun hefyd o Owen Edwards, B.A., cefnder i O.M. Edwards, a fu'n weinidog ar rai o eglwysi Saesneg yr Hen gorff yng Nghymru gan gynnwys Castle Square: Caernarfon, nes iddo golli ei iechyd a mynd i Awstralia i geisio gwella yn 1884. Bu farw yno yn 1893, gan adael tri o blant ifainc yn gwbl amddifad, oherwydd yr oedd eu mam wedi marw y flwyddyn yr aeth y tad i ffwrdd. Un o'r tri phlentyn hynny oedd y Parch G.A. Edwards, Prifathro Coleg Diwinyddol y Methodistiaid Calfinaidd yn Aberystwyth.

***

PETH ARALL diddorol yn Y Seren yw dyfyniad o adroddiad y Ddirprwyaeth ar addysg yng Nghymru yn 1847, a adwaenir fel Brad y Llyfrau Gleision. Sylwadau ar ysgol Llanuwchllyn yw'r dyfyniad, a'r rheini'n weddol ffafriol, a chofio nad oedd y plant yn gwybod fawr ddim Saesneg, ac mai bod yn y cyflwr hwnnw oedd dyfnder eithaf anwybodaeth, ym marn y Dirprwywyr.

Yr athro yn yr ysgol oedd Edward Edwards, tad yr Owen Edwards a grybwyllwyd uchod, ffarmwr a melinydd wrth ei alwedigaeth, ond wedi bod am dri mis yng Ngholeg y Bala o dan Lewis Edwards, ac wedi bod am dri mis yng ngholeg athrawon Borough Road, Llundain.

Naturiol oedd i hanesydd fel O.M. Edwards gynnwys dalen o lyfr festri'r plwy yn yr hen amser, sef cyfri Thomas Edward, y Warden, am y flwyddyn 1711 – talu am atgyweirio'r eglwys a rhoi brwyn ar y llawr, a golchi gwenwisg y person a'r lliain bwrdd bedair gwaith yn y flwyddyn; rhoi cydnabyddiaeth i ddynion am ladd llwynogod a dwy gath goed a chigfran; talu am ddiod ar amryw achlysuron, a rhoi elusen i un ar ddeg o dlodion.

***

FEL Y gellid disgwyl yn 1895, rhoir dau dudalen o fanylion am y gwasanaethau yn eglwys y plwy a'r gwahanol gapeli. Wedyn tipyn o farddoniaeth, sef cerdd o 25 o benillion ar ffurf ymddiddan rhwng merch ifanc a mab y cybydd, a ysgrifennwyd gan Rowland Vaughan o Gaer-gai rywbryd yn yr ail ganrif ar bymtheg. Yna cerdd fer, 'Hen Iaith fy Mam', ac un arall, 'Y plentyn a'r frongoch'. Ar y tudalen olaf, gair am rai o'r plwyfolion oedd wedi marw.

Dyna ymgais O.M. Edwards i gychwyn papur bro yn 1895. Ond ni chafodd fawr o lwc, oherwydd dim ond dau rifyn a ymddangosodd. Y rhifyn cyntaf yn unig sydd gennyf fi. Y mae'n ddiamau y geill rhywun o ddarllenwyr Y Casglwr roi syniad inni am gynnwys yr ail rifyn.