SALMAU BUM CANRIF CYN DR. MORGAN?
Rhyfeddol ddarganfyddiad D.Tecwyn Lloyd
AR YR wythfed ar hugain o Awst, 1829, yr oedd Duc Sussex (1773-1843), chweched mab Siôr III, ar ei ffordd i Barc Cinmel lle'r oedd ei gyfaill, yr Arglwydd Dinorben yn byw. 'Roedd pwrpas pendant i'r ymweliad: ar Fedi 16, 17 a'r 18 yr un flwyddyn, cynhelid y 'Great National Congress of Cambrian Bards', yn Ninbych neu y 'Royal Denbigh Eisteddfod' a'r Duc oedd ei Llywydd a'i phrif atyniad.
Un o'r Eisteddfodau Taleithiol a gychwynnwyd yng Nghaerfyrddin ym 1819 oedd hon, ond erbyn iddi gyrraedd Dinbych yr oedd wedi seisnigo cymaint nes bod, i bob pwrpas, yn nemor ddim gwell na rhyw Ascot llenyddol a cherddorol. Ceir disgrifiad llawn o'i gweithrediadau yn y gyfrol The Gwyneddigion a argraffwyd yng Nghaer gan T Griffith ac a gyhoeddwyd ym 1830.
Ond nid sôn am yr Eisteddfod hon a wnaf yma ond am y Duc. 'Roedd yn gasglwr llyfrau eiddgar a chanddo lyfrgell anferth yn cynnwys pob math o drysorau ac yn arbennig agraffiadau prin o'r Beibl. Yn wir, yn ei waeledd olaf ac o fewn deuddeng niwrnod cyn marw, dywedodd wrth Thomas Dibdin: "gallaf yn awr huno'n gwbl fodlon a hapus canys bellach mae gennyf gopi perffaith o'r Beibl Protestanaidd cyntaf yn yr iaith Bwyleg"! Tipyn o gymeriad.
Ar ei daith i Ginmel, galwodd heibio Amwythig er mwyn gweld llyfrgell yr Ysgol Ramadeg enwog yno ac un o'r pethau pwysicaf a welodd yno oedd llawysgrif o gyfieithiad Cymraeg o Lyfr y Salmau a wnaed yn y ddegfed neu'r unfed ganrif ar ddeg!
***
YN AWR, beth oedd hwn? 'Rwyf yn codi'r wybodaeth uchod allan o rifyn Chwefror, 1987, o'r Antiquarian Book Monthly Review lle ceir erthygl gan Anthony Lister `The Duke of Sussex and T J Pettigrew's - "Bibliotheca Sussexiana" ' (tt. 58-65). Mewn troednod (rhif 14: t.61), nodir mai ffynhonnell y cyfeiriad at y cyfieithiad Cymraeg yw y Royal Archives: 9/348. Ac yntau ar ei ffordd i lywyddu Eisteddfod yn Ninbych, tebyg fod y Duc wedi sylwi'n arbennig ar y llawysgrif Gymraeg.
Ond a oedd y fath lawysgrif gynnar yn bod o'r Salmau yn Gymraeg ai ynteu rhyw waith wedi ei gam-ddyddio a welodd y Duc? Nid yw hyd yn oed y trosiad Cymraeg o'r Promptuarium Bibliae yn hŷn na diwedd y XIII ganrif neu ddechrau'r un ddilynol. (gw: Thomas Jones: Y Bibyl Ynghymraec. 1940. tt.liii-liv) a phrun bynnag, nid yw hwnnw'n cynnwys y Salmau.
Os oedd yr hyn a welodd y Duc yn ffaith, rhaid mai dyma'r testun hir cynharaf oedd ar gael mewn Cymraeg a'i fod, o safbwynt astudio'r iaith yn unig, yn aruthrol bwysig. Cymraeg y ddegfed neu'r unfed ganrif ar ddeg? Darn o Gymraeg cyn hyned a dryll y Comptus!? Mae'r stori yn un anhygoel. Ac os oedd y fath lawysgrif yn bod yn Ysgol Amwythig ym 1828, a yw yno'n awr? Tybed a all rhai o ddarllenwyr y Casglwr daflu rhyw oleuni inni ar y mater.