DAFYDD A BETSI CADWALADR gan W.J.Edwards

 

Betsi Cadwaladr

YN ei hysgrif ddifyr yn y rhifyn diwethaf am brynu Penrhiw, cartref nyrs enwog y Balaclava, y mae Buddug Medi yn ein hatgoffa fod Dafydd, ei thad, yn un o Gynghorwyr Methodistiaid. Ond cyn iddo ddod yn adnabyddus fel Cynghorwr a chydweithiwr â Thomas Charles mae'n werth cofio na chafodd ddiwrnod o ysgol a'i fod wedi dechrau gweini ar ffermydd ei gynefin yn ucheldir Uwchaled yn un ar ddeg oed. 'Er hyn oll,' meddai'r llith amdano yng nghyfrol gyntaf Methodistiaeth Cymru, t.543, 'fe ddysgodd ddarllen, a hynny mewn dull a thrwy foddion, nad ydym yn gwybod i neb ddysgu trwyddynt ond efe ei hun. Arferai yn ei ieuenctyd, gynorthwyo ei frawd i fugeilio defaid ei dad (ar fferm Erw-Dinmael, plwy Llangwm), a thrwy graffu ar y pyg­lythrennau y nodid y defaid â hwy, daeth yn lled gydnabyddus â sŵn y llythrennau.'

Ar ôl hynny 'daeth ar draws Llyfr Gweddi Cyffredin eglwys Loegr, a thrwy ddyfal graffu ar hwnnw, daeth yn fwy cydnabyddus â'r wyddor Gymreig, ac yn raddol daeth i fedru sillebu geiriau ac i ddarllen brawddegau.' Wedi iddo ddechrau gweini ar y ffermydd, 'yr oedd trwy ryw ddamwain wedi cael llyfrau a elwir "Y Bardd Cesg", a "Thaith y Pererin", i'w feddiant, ac wedi dysgu y rhan fwyaf o'r ddau ar dafod leferydd, a rhoddai cynhwysiad y ddau lyfr yma ddefnydd pigiadau dwysion yn ei gydwybod ar ôl diwrnod o oferedd a dyhirwch'.

Wrth ddarllen am Ddafydd Cadwaladr yn dysgu'r wyddor wrth sylwi ar y llythrennau ar gefnau'r defaid cofiais am hanes O. M. Edwards yn dysgu'r wyddor yn hen gapel y Pandy yn Llanuwchllyn. Yn ei ysgrif ar 'Rhobet Wiliam, Yr Hen Barch', dywed mai 'Owen Wiliam o Ryd-fudr (mae llawer o'i ddisgynyddion e a Gaynor ei briod yn Llanuwchllyn o hyd) oedd yr athro ABC. gorau a welais i erioed.

Bûm i, fel holl blant Llanuwchllyn, yn sefyll rhwng ei liniau, a'r llyfr ABC o'm blaen, nes y dysgais holl gynnwys y llyfr hwnnw. Yr oedd ganddo ddulliau afrifed o wneud i blant gofio'r llythrennau, megis eu torri ar eu hewinedd, neu ddweud eu bod yn ddarlun rhywbeth, H yn gamfa, 0 yn olwyn, Y yn goeden. Pan adewais yr Ysgol Sul un tro yr oedd A ar ewin un fawd imi, a B ar ewin y fawd arall; a'm tasg am yr wythnos oedd cofio'r ddwy lythyren hyn. Byddai Owen Wiliam yr hen athro yn cymeryd tybaco nid ychydig, ac yr wyf yn clywed arogl tybaco ar yr ABC byth'.

Fel y dywedais yr oedd Dafydd Cadwaladr yn gyfaill a chydweithiwr i Thomas Charles ac un noson yn niwedd Mai 1799 wrth i'r ddau, yng nghwmni cydweithiwr arall, Simon Llwyd, Plas-yn-dre, gerdded i fyny Stryd Fach, y Bala, ar eu ffordd o'r capel, a chyn gwahanu gyferbyn â gwesty'r Llew Gwyn trodd Thomas at Dafydd a dweud: 'Dafydd, wnei di ofyn i Beti'r ferch alw gyda mi rywbryd yfory? Y mae'n ddydd ei phen-blwydd (yn ddeg oed), ac y mae gen i Feibl yn anrheg iddi. Mae hi'n gallu darllen yn dda bellach, ac nid oes ei ffyddlonach yn yr Ysgol Sul.'

Fe ddiolchodd Dafydd i'w gyfaill a thrannoeth ymlwybrodd Betsi Penrhiw i dŷ Thomas Charles yn y Stryd Fawr i dderbyn y Beibl. Gyda llaw, yr oedd hyn union flwyddyn cyn i Mari Jones gerdded o'i chartref yn Nhy'n ddôl, Llanfihangel y Pennant i'r Bala, i brynu Beibl.

Y mae Meirion Jones, y prifathro da a dylanwadol yn y Bala gynt, yn adrodd hanes Betsi'n derbyn y Beibl yn ei gyfrol arni, Elizabeth Davies 1789-1860, a gyhoeddwyd i gofio canmlwydd ei marw:

Yn agos i drigain mlynedd wedi hyn, yr oedd Betsi, y ferch yma a gafodd Feibl yn anrheg gan Thomas Charles, yn adrodd stori ei bywyd, sef The Autobiography of Elizabeth Davis (fe'i hail gyhoeddwyd yn ddiweddar). Tystiai i'r Beibl fod yn gydymaith iddi drwy gydol ei hoes, ac iddo hefyd ei chadw yn aml rhag drygioni wrth grwydro gwledydd pellaf y byd, ac wrth wynebu Rhyfel y Crimea.' Byddai'n ddiddorol gwybod beth fu hanes y Beibl ar ôl marw'r nyrs enwog ym 1860.