DERITH RHISIART ar drywydd
LLYFRAU COGINIO CYMRAEG

DROS y blynyddoedd diwethaf mae fy niddordeb i mewn coginio a llyfrau coginio o bob math wedi cynyddu'n sylweddol, o fwydydd traddodiadol y Cymry, i fwydydd mwy ecsotig y dwyrain. Ond y llyfrau a dynnodd fy sylw dro yn ôl oedd, nid y rhai diweddaraf, ond y rhai Cymraeg a ysgrifennwyd cyn belled â throad y ganrif, a hyd yn oed cyn hynny. Y mae'r llyfrau hyn nid yn unig yn eich cynghori ar y dull coginio gorau, ond ar sut i ymddwyn, yn trafod glendid, a hyd yn oed sut i edrych ar ôl arian. Y mae'r cofnodion hyn yn berlau hanesyddol anhygoel sy'n ein dysgu am arferion bwyd a diod, a sut yr oedd pobol yn trigo yng Nghymru ganrif yn ôl.

Un o'r llyfrau a dynnodd fy sylw gyntaf oedd y llyfr poced â'r teitl syml Llyfr Cogyddiaeth Newydd a argraffwyd a chyhoeddwyd gan Humphreys, Caernarfon ddiwedd y ganrif ddiwethaf. Mae'r awdures, yn y rhagair, yn awgrymu bod gwragedd y gweithwyr yn fwy tebygol o wario eu swllt ar  ' . . . beint neu fwy o gwrw, bara a chaws.'

Rhag cywilydd! Bwyd nad oedd yn faethlon. Diddorol yw sylwi ar y pwyslais a roddir ar lendid yn y gegin a hynny gymaint o flynyddoedd yn ôl. Gresyn na ddilynwyd y cynghorion yn yr Alban cyn i'r bacteria E.coli greu y fath alanast!

Ceir cyngor pwysig yn Llyfr Cogyddiaeth Newydd ar sut i adnabod cig sydd wedi troi: 'Os bydd gwythïen y gwddf ar y chwarter ... o liw glas goleu, y mae y cig yn newydd ac yn dda; ac os o liw melynaidd, y mae y cig bron wedi llygru.'

 

Diolch fyth na welir cig tebyg i hyn yn ein siopau cig lleol na'r archfarchnadoedd heddiw.

Mae Mrs S. A. Edwards yn ei thraethawd buddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Caerludd yn 1887 a gyhoeddwyd ar ran yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1889 o dan y teitl 'Coginiaeth, Trefniadaeth Deuluaidd cyfaddas i anghenion Gwragedd Gweithwyr Cymru' yn amlwg yn ceisio symud oddi wrth goginio uchel ael, gan ganolbwyntio yn hytrach ar fwydydd symlach. Y mae hi'n nodi na allwch lwyddo o gwbl os ydych yn wastraffus.

Mae hi hefyd yn rhestru nodweddion pwysig megis: `glanweithdra ... diwydrwydd, prydlondeb' a heb anghofio y dylech godi'n gynnar yn y bore, `Bore Godi' — rhywbeth na ŵyr fy mrawd ddim amdano!

Noda Llyfr i bawb ar bopeth a gyhoeddwyd gan Hughes a'i Fab, Wrecsam tua diwedd y ganrif ddiwethaf mai, 'Pethau bychain a chyffredin sydd yn gwneyd bywyd ... Mae gan y Cymro nifer fawr o lyfrau Crefyddol, Barddoniaeth aruchel, a Thraethodau godidog ar y Gwyddorau a'r Celfyddydau; ond nid oes ganddo gyfrol fechan, yn cynnwys gwybodaeth am bethau cyffredin bywyd. Llenwi y diffyg yma yw amcan y llyfr hwn.'

Y mae'r llyfr hwn yn nodi ei fod am sicrhau y caiff y 'Dyn Ieuangc gyfarwyddiadau i Ddarllen ac Ysgrifenu yn gywir' a hyd yn oed ' . . . dechrau masnachu, Dewis Gwraig a byw yn hapus.'

Ac wrth gwrs, mae'r wraig fechan yn cael cyfarwyddiadau ar sut i ' . . . ymddwyn ym mhob man ac o dan bob amgylchiad'. I ddweud y gwir, fe ellid cael llyfr tebyg heddiw, yn enwedig ar sut i goginio, gan fod nifer o arbenigwyr heddiw yn edliw y ffaith na all llawer o wragedd ond coginio bwyd parod yn y microdon — trist o beth.

Yn rhagair Llyfr Coginio a Chadw Tŷ gan yr un awdur dienw a diddyddiad eto ac a gyhoeddwyd gan Hughes a'i Fab, Wrecsam honnir y ceir ' . . . yma hefyd yr hyn na cheir yn yr un llyfr Cymraeg arall, ac ond mewn nifer fechan o lyfrau Saesonig sef PA FODD? A PHAHAM? COGYDDIAETH'.

Â'r awdures ymlaen i ddatgan: ' . . . Yn y llyfrau cyffredin ar gogyddiaeth, fe ddywedir wrth y gogyddes am wneud fel ar fel, a disgwylir iddi ddilyn y cyfarwyddyd yn gaeth, ond ni roddir iddi y rheswm am y peth o gwbl. Yn y rhan gyntaf o'r llyfr hwn dangosir pa fodd i fynd trwy'r gwahanol orchwylion yn y ffordd orau, ac fe roddir y rheswm paham am hynny.'

 

Cred yr awdur bod 'coginio steaks a berwi pytatws' yn profi gallu cogyddes. 'Y mae gwahaniaeth mawr — byd o wahaniaeth — rhwng steaks wedi eu coginio yn iawn a'r pethau lledrog, gwydn, a brasderog a gamenwir yn steaks.'

 ymlaen i esbonio sut i lwyddo '. . . Nid yw hi'n bosibl gallu gwneyd steaks yn iawn heb astudiaeth fanwl o'r pwnc ac ymarferiad ... Yn y lle cyntaf y mae stad y tân o bwys mawr; ac efallai mai y prif achos o fethiant llawer un ydyw'r anhawsder i gael y tân mewn stad briodol. Y mae ceisio coginio chops uwch ben tân newydd roddi glo arno yn ynfydrwydd perffaith.'

Nid yw ychwaith yn ffafrio‘r badell ffrio gan y credai ei bod yn ' . . . amhosibl cael chops na steaks wrth ddefnyddio y badell ... dodwch y gridiron ar y tân am funud neu ddau, ac yna codwch ef i fynnu ac aroglwch ef. Efallai eich bod yn barod i chwerthin am ein pen wrth sôn am beth mor fach, ond y mae cogyddiaeth iawn yn dibynnu ar dalu sylw i bethau bychain ... aroglwch hi, am y rheswm syml mai dyna'r ffordd fwyaf effeithiol i gael allan a ydyw wedi ei glanhau yn briodol ai peidio. Meddyliwch, er enghraifft, ei bod wedi bod yn coginio bloater y tro diwethaf y bu ar waith. "Bloater' gyda llaw, yw'r pennog sych; defnyddir cant a mil o eiriau Saesneg drwy'r gyfrol, megis haunch o venison, kid, saddle o futton ac enwau Saesneg am rannau'r anifail. Mae'n amlwg nad oedd bwriad gan yr awdur i ddefnyddio Cymraeg safonol, a chawn eglurhad am hyn ym mharagraff olaf y rhagair  '. . . Yr ydym wedi arfer iaith gyffredin a sathredig am ein bod yn fwy awyddus am fod y llyfr yn ddealladwy i ferched glân Cymru, na'i fod yn goeth a dysgedig.'

Ceir pennod gyfan o dair tudalen ar ddeg ar 'Carvio Bwyd' sy'n cynnwys diagramau o ddarnau o wahanol gigoedd, yn gig dafad, oen, cwningen, ac ati. Gwêl yr awdur y pwysigrwydd mawr yn y teulu a'r cartref, a cheisia ei gorau i gynnal beth a ystyria fel safon uchel iawn. Braf yw meddwl bod pobl yn bwyta wystrys a chimychiaid yn y dyddiau hynny. Tybed faint o'r werin oedd mor lwcus, a faint heddiw sydd mor ffodus, a gallu eu fforddio?

Cyhoeddodd Gwasg Gee Y Tŷ a'r Teulu yn 1891 gan un o'r enw S.M.M. Roedd yr awdur wedi llofnodi'r llyfr hwn o Amlwch. Llyfr ydyw sy'n trafod cadw tŷ'n gyffredinol dan wahanol benodau megis, Cynnildeb Teuluaidd, dodrefn y Tŷ Gwyntylliad a Goleuo a chynhesu Tai, Y Meddyg a'r Teulu, Godro, Corddi a Gwneud Menyn, Gwenyn a'u triniaeth, Dofednod a Coginiaeth.

Yn y rhagair, dywed yr awdur mai drwy argymhelliad y cynhwyswyd y bennod ar gogyddiaeth a bod llawer wedi ei chynorthwyo; crybwylla ei bod wedi cael caniatâd i ddyfynnu o lyfrau Saesnig megis The Making of the Home, llyfrau Mrs Beeton, ac amryw o rai eraill. Cyfaddefa hefyd ... ddarfu i ni gyfyngu ein sylwadau at unrhyw ddosbarth penodol, rhaid oedd ystyried pa wybodaeth ymarferol mewn coginiaeth fyddai y fwyaf cymmhwys a derbyniol gan deuluesau Cymru yn gyffredinol. Gall fod rhai o honynt o'r herwydd yn anghymmhwys i fwrdd y gweithiwr a'r tyddynwr ...

 

O'r herwydd trafodir yn fanwl wahanol ffyrdd o goginio cigoedd a hynny mewn hen range yn cynnwys popty. Sonnir, hefyd, am Dutch Oven, am ddull Liebig (y gwyddonydd enwog) o gadw suddion yn y cig wrth ei ferwi, a chyfeirir at yr offer diweddaraf, sef y Warren's Patent Corrugated Bachelor's Broiler. Roedd y teclyn hwn yn debyg i ddwy badell ffrio lle dodwyd y cig rhyngddynt a'i roi ar y tân. Pris y teclyn oedd 3 swllt a 6 cheiniog a 4 swllt a 6 cheiniog. Cryn dipyn o bris yn yr oes honno, a'r Captain Warren's Cooking Pot sef math o grochan fawr. Dyfais arall oedd y per-dröydd a ddefnyddid mewn ceginau a thân agored, er mwyn rhostio cig. '. . . Ceir fod y screen yn gynnorthwy i ddal ac adlewyrchu y gwres ar y cig, yr hwn a roddir i hongian ar y bach.' Rwy'n siŵr y byddai pob cartref yn gallu prynu un o'r rhain!

Termau ac enwau Saesneg a ddefnyddid yn aml am y gwahanol suddion, yr offer a'r darnau o gig, ond mae'n werth fodd bynnag, cyfeirio at yr ymdrech a wnaed i ddefnyddio termau Cymraeg megis saws caprwydd — caper sauce; llinedur — fibrine; cig-nodd — gravy; gorferw — scum; rhuddion — bran; gwynfwn — whitening; isgell — soup; hydreuledd — digestibility.

Mae'r ddau lyfr olaf sydd gennyf yn fwy diweddar. Y cyntaf yw Llyfr Prydiau Bwyd gan Myfanwy Eames yn y gyfres 'Llyfrau Cadw Tŷ' a gyhoeddwyd gan Hughes a'i Fab, Wrecsam yn 1932. Y mae'r rysetiau a geir yn y llyfr hwn yn ddigon diddorol a blasus ar gyfer eu defnyddio heddiw. Gwelir sut i weini eog a lleden, asparagus a spinaits. Diddorol yw gweld hysbysebion Cymraeg wedi britho'r gyfrol megis un ar saws Lea a Perin, ac un arall ar gwstard Bird.

Cyfrol gan Mair Morris o dan y teitl Bwydydd Cymreig ac a gyhoeddwyd gan Wasg Gee yn 1956 yw'r olaf. Ceir yma gyfeiriad at holl hen fwydydd Cymreig megis y siot, brywes, griwel, bwdram, llymru ac ati. Dyma ichi risêt ar sut i wneud siot, rhag ofn y bydd blys yr hen fwydydd yn dod drosoch chi. Malwch ½ cwpanaid o fara ceirch yn fân, yna ewch ati i'w gymysgu â pheint o laeth enwyn mewn powlen. Gadewch i'r trwyth fwydo am awr ac yna mi fydd yn barod i'w fwyta.

Mae'n rhyfeddol bod ymron gymaint o lyfrau coginio yn yr iaith Gymraeg ar gael ar droad y ganrif ag sydd ar gael heddiw.