TRYCHINEB DEULUOL gan Ken Davies

MEWN mynwent ger Rome, Efrog Newydd, saif carreg fedd farmor, ac arni yn syml, y geiriau: 'CHARLES G. SON OF MR AND MRS CHARLES G. ROBERTS, CAE MERDDYN, PE(N)MON, NEAR BEAUMARIS, ANGLESEY, NORTH WALES, BORN MAR 19 1887, DIED JUNE 26 1918. Yno y gorwedd brawd fy niweddar daid. Er iddo siarad yn aml amdano, aeth fy nhaid i'r bedd â thrychineb ei farwolaeth hefo fo.
  Cliciwch y llun i'w ddangos yn ei lawn faint

Tyddyn bach yn ymyl Penmon ydy Cae Merddyn lle cododd Charles a Maggie Goodman Roberts eu chwe phlentyn, Joseph, Jabez, Charles, Catherine, Owen John (fy nhaid) a Margaret. Yr oedd teulu Maggie wedi bod yn denantiaid yng Nghae Merddyn am nifer o flynyddoedd. Yno y trigai ei rhieni, Joseph a Margaret Jones, ynghyd â'u hewythr Owen Owens, y penteulu yn 1861. Hogyn lleol oedd Joseph, a ganwyd ei wraig ym Manceinion. Yr oedd y tyddyn ei hun yn rhan o Ystâd Bulkeley yn Baron Hill, Môn.

Cofiaf Taid, â balchder, yn dangos i mi wats Waltham a chadwyn. 'Y mae'r wats hon yn golygu llawer i mi,' dywedai. 'Fy mrawd, Charles, a aeth i Mericia biau hi.' Byddai Taid yn ei gwisgo hi ar achlysuron teuluol arbennig ac i fynychu'r capel. Fe'i cedwid hi'n ddiogel yn y llofft, a byth i'w gweld. Gofynnwn i Taid aml i dro am ei frawd ond cyndyn oedd i ddweud dim, oddieithr, 'Aeth i Mericia, a bu farw yno.'

Ychydig cyn i Taid farw, dywedodd wrtha i fod ganddo rywbeth i’w roi i mi. Yr oedd dagrau yn ei lygaid wrth iddo estyn y wats a'r gadwyn i mi hefo'i law grynedig. 'Cadwa hon yn saff, Ken. Mae'n golygu lot i mi. 'Falle bydd hi werth tipyn ryw ddydd. Cymer ofal ohoni, os gweli di'n dda,' dywedodd.

Bu farw Owen John Roberts yn 81 oed ar Fai 1, 1976. Ymysg ei eiddo personol yr oedd llun bach o garreg fedd ei frawd, a phedwar allan o bump set o gardiau a oedd wedi'u hanfon gan Charles at fy nhaid o America. Ynddynt ceir hanes ei ddyddiau cynnar yn Efrog Newydd, ac yn nodweddiadol o brofiadau llanc ifanc o gefn gwlad Cymru mewn gwlad bell.

'Yr oedd yn dda gennyf ddeall dy fod wedi cyrraedd yn ddiogel ... a dy fod wedi cael dy anfon ganddynt i Manchester. Felly bydd yno well cyfleustra i mam ac eraill gael dod i edrych am danat.' Cyfeiria Charles at Taid fan hyn yn dychwelyd wedi'i glwyfo o faes y gad yn Ypres yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn ysgrifennu yn Gymraeg, dywed:

'Yr oeddwn yn dod trosodd a fy destination oedd Rome (Efrog Newydd) . . . Mae yma dri o honom; un bachgen o Benmachno a llall o Llandwrog. Mae yma andros o le mawr, ac wedi gweld rhai miloedd o bobl nid oedd ond ychydig iawn o honynt ag oeddwn yn ei adnabod.'

Mae'n disgrifio mynd i fyny ucheladeilad — '. . . ac yr oedd y dynion ar y gwaelod megis spotiau yn symud o gwmpas y dref. Y mae dau Gapel Cymraeg yma, un yn perthynol i'r Methodistiaid Calfinaidd a'r llall i'r Annibynwyr. Fel y gelli di weld, y mae lot o Gymry o gwmpas. Y mae yma hefyd lawer o wahanol genhedloedd a ieithoedd. Rydwyf yn mawr obeithio y gwellith cyn bo hir ac y gallaf fynd adref. Y mae dwsinau o bethau yma nad wyf i erioed wedi gweld o'r blaen.' Mae'n gorffen â: 'Yn meddwl lot amdanoch. Cofion, dy frawd, Charles.'

Mae'n siŵr i'r cardiau gael eu hanfon ychydig fisoedd cyn i Charles farw. Mae ei eiriau'n drist iawn: 'Rwyf yn mawr hyderu y daw'n well cyn bo hir ac y gallaf fynd adref. Mae 80 mlynedd wedi mynd heibio ers ei farwolaeth, a dim ond yn ddiweddar y deallwyd gan y teulu pa mor drychinebus oedd ei farwolaeth.

Anfonodd ymchwilydd o America ffotogopi o bapur newydd y Rome Sentinel, dyddiedig 27 Mehefin 1918. Mewn eiliad gwyddwn pam yr oedd Taid wedi mynd â'r gyfrinach drychinebus ynglŷn â marwolaeth ei frawd i'w fedd. Dyma'r pennawd: ROME MAN HANGS HIMSELF.

Gwnaeth Charles Goodman Roberts amdano'i hun yn Solsville. Cafwyd hyd iddo'n crogi oddi ar drawst mewn ysgubor ar fferm chwaer ei fam, Mrs Elizabeth Storm. Yn ôl yr adroddiad roedd yn saer wrth ei alwedigaeth, ac ar y diwrnod tyngedfennol hwnnw, ymwelodd â'i fodryb, bwytaodd ei ginio fel arfer ac fe'i gwelwyd yn torri coed tua phump o'r gloch. Welwyd mohono wedyn nes i'w gorff gael ei ddarganfod gan John Hughes, nai Mrs Storm, am naw o'r gloch y noson honno. Ychwanegai'r Sentinel: 'Yr oedd wedi bod yn ddigalon yn ddiweddar, ond ni roddodd unrhyw arwydd i'w gyfeillion ei fod yn bwriadu gwneud amdano'i hunan. Allwn ni 'mond dyfalu iddo fethu â chael gwaith digonol, ac nad oedd ganddo ddigon o arian i ddychwelyd adref i Gae Merddyn at ei rieni, ei chwaer Katie a Jabez ac Owen John, ei frodyr. Mae'n ddirgelwch pam na cheisiodd weithio ei ffordd adref.'

Yn ôl pob golwg yr oedd Cae Merddyn wedi bod yn gartref i'r teulu am ryw ddau gan mlynedd pan fu i Jabez ei foderneiddio a'i werthu ar ôl colli ei rieni. Pe gallai'r muriau siarad, mi fyddent yn sicr o ddweud hanes brawd Taid, Joseph Thomas Roberts, a fu'n filwr yn rhyfel y Boer; Maggie Ellen, ei chwaer hardd a fu farw'n drychinebus o ifanc yn 20 oed, yn 1897, o'r diciáu; John Jones, perthynas a fu'n ymladd hefo Wellington yn erbyn Napoleon ac a farchogai â milwyr Ardalydd Môn ym mrwydr Waterloo yn 1815 ... Ond tybed a fyddent yn datgelu cyfrinach drychinebus hunanladdiad Charles?

Y mae'r wats Waltham, y cardiau post a llun bedd Charles yn ddiogel gennyf i. Anrhydeddaf yr addewid wnaed i Taid. Gwisgir y wats ar achlysuron teuluol o bryd i'w gilydd a phan ddaw'r amser i mi ei phasio ymlaen, dangosaf yr un balchder ag a ddangosodd Taid pan roddodd hi i mi.

Taid(ar y chwith) gyda'i frawd
(yn eistedd) a'i rieni