LLUN O'R GORFFENNOL gan Ken Davies

 

Sarah Michell

YR oedd gan fy mam ar ei bwrdd gwisgo lun wedi'i fframio o ferch ifanc, ynghyd â lluniau o'r teulu. Sarah Michell oedd ei henw, ac enwyd fy nain — Sara Michell Jenkins — ar ei hôl hi. Fy hen, hen nain oedd Sarah.

Roeddwn i'n awyddus iawn i ddechrau ymchwilio i'r gorffennol a cheisio casglu hanes y teulu at ei gilydd i'r oesoedd a ddêl!

Ganwyd Sarah yn 1828 yn Towednack, ger St. Ives, Cernyw a phriododd â rhyw William Michell o Mary Tavy yn Nyfnaint. Gan ei fod yn löwr symudodd i Gymru, gyda nifer o'r teulu, i chwilio am waith yn y gweithfeydd plwm. Gyda chymorth cyfrifiad 1841 a 1891, atgofion fy mam, lluniau eraill, ymweld â mynwentydd, llwyddwyd i olrhain hanes y teulu.

Yn Ffrainc yr oedd gwreiddiau'r teulu, a thybiaf i'n cangen ni groesi'r sianel yng nghanol y saithdegau, gan sefydlu yn Nyfnaint. Ganwyd tad William yn Mary Tavy yn y flwyddyn 1805, pan fu farw'r Arglwydd Nelson. Hanai ei wraig, Mary, o'r un pentref. Symudasant i Ysbyty Ystwyth oddeutu 1845 gan fyw yn Cwm House, Cwmystwyth, ardal gyfoethog mewn mwynau a gweithfeydd plwm. Mae'r gwahaniaethau yn oedran eu plant yn awgrymu mai rhai yn unig a ddaeth hefo nhw — William (34), Thomas Henry (21), John (28), Joseph (18) a Henry (15). Gweithient yn y gweithfeydd plwm. Yr oedd gan Sarah a William o leiaf ddeuddeg o blant, ond hoffwn dynnu sylw at dri ohonynt yn arbennig: fy hen nain, Elizabeth, a alwyd yn Lizzie, a anwyd yn 1865 a'i brodyr Jim (1857) a Sampson (1855).

Priododd Lizzie â Richard Jenkins o Drisant gan symud i Aberystwyth ac wedyn i Flaenau Ffestiniog lle roedd ei gŵr hi'n ofalwr yr ysgol leol. Er i mi chwilio ym mynwentydd ardal Cwmystwyth ni chefais fawr o wybodaeth — mae'n rhaid eu bod wedi symud oddi yno.

Yr oedd gan fy mam lythyr a anfonwyd at Lizzie gan Jim, wedi'i ddyddio Hydref 3, 1909, sy'n stôr o wybodaeth, ac yn drysor i hanesydd teulu. Ysgrifennodd o East McKeesport, Alleghenny, Pennsylvania gan ddweud iddo ymfudo i America yn 1882, priodi Emma a chanddynt ddau o blant, Willie a Lillie, a weithiai efo fo yn y Westinghouse Air Brake Co. yn Wilmerding. Câi 'Iythyrau mor neis gan ei chwaer Eda' a 'hiraethai am weld ei frodyr a'i chwiorydd eto'. Mae'n addo anfon llun i Lizzie, ac yn dweud ei fod yn 52 ac â phen moel ers ugain mlynedd. Yr oedd 'iechyd Emma wedi bod yn fregus am flynyddoedd, ond wedi gwella yn ddiweddar, felly mae hi gartref bellach. Y mae digon i'w wneud ganddi gan fod gennym 70 o ieir a gardd fawr. Hoffwn iti weld y lle.'

Y mae Jim yn cyfeirio at farwolaeth ei frawd, Sampson 20 mlynedd ynghynt ac yn gofyn a yw Lizzie yn gweld ei weddw Sally; mae'r cwestiwn hwnnw yr datrys dirgelwch ac yn stori drist. Yr oedd Sally wedi priod Sampson (Capten yn y gwaith plwm) yn 1881 ac yn byw yn Rheidiol Cottage hefo'u pedwar plentyn yn ymyl Cwmystwyth. Yr oedd hi'n wraig weddw ymhen deg mlynedd, ond wedi byw yn America am dipyn cyn dychwelyd i Gymru ar ôl marwolaeth ei gŵr yn 1885. Ganwyd hi yn Sir Aberteifi. Yn 1891 yr oedd hi'n byw yn Dyffryn Castell Cottage ac yn gweithio fel golchwraig.

Rwy'n dal i ymchwilio, ond i ddod yn ôl at y llun a gychwynnodd bopeth, gallaf ddweud mai un o'm profiadau mwyaf dwys oedd ymweld ag Eglwys Newydd Hafod, Cwm­ystwyth gyda'm rhieni. Yno, ar ochr dde'r fynwent, saif carreg fedd er cof am fy hen, hen rieni:

Jean Davies ger bedd William a Sarah Michell yng Nghwmystwyth
    In loving memory of
    WILLIAM MICHELL
    OF CWMYDION
    born November 14, 1826,
    died March 1st, 1894.
    Also of SARAH wife of the above,
    who died October 1st, 1895,
    aged 67 years
    'HE GIVETH HIS BELOVED SLEEP'

Edrychais ar y llun eto. Diolch Sarah Michell am fy nghynorthwyo â'r ymchwil. Bydd Hanes Ein Teulu Ni yn sicrhau y byddwn wastad yn dy gofio.