PWY YW 'JD'? ~ Alwyn Pleming yn egluro

 

John Davies pan yn gapten Clwb Golff Caernarfon, 1990

PAN ofynnwyd y cwestiwn 'Pwy yw J.D.' yn rhifyn yr eisteddfod o'r Casglwr, mi fyddai pawb yn Nyffryn Nantlle wedi ateb fel côr, 'John Davies, siŵr iawn,' neu a bod yn fanwl gywir efallai, 'Davies Art', gan y bu John Davies am bymtheng mlynedd ar hugain bron yn athro celf yn Ysgol Dyffryn Nantlle.

Brodor o Fae Colwyn yw John yn wreiddiol. Yno y ganwyd ef ym 1927 ac, wedi cyfnod yn yr Ysgol Ramadeg, gwirfoddolodd i'r llynges ym 1944 gan dwyllo'r awdurdodau ynglŷn â'i oed. Bu yn y llynges am bedair blynedd cyn treulio blwyddyn yng Ngholeg Brys Llandrindod. Apwyntiwyd ef yn athro celf yn Ysgol Dyffryn Nantlle ym 1950 ac yno y bu hyd ei ymddeoliad ym 1984. Priododd â Sheila ym 1951, a chafwyd dau o blant, Meryl a Michael.

Ond wedi cofnodi'r ychydig ffeithiau bywgraffyddol hyn, pwy yw J.D.? Yn syml, gŵr diwylliedig, eang ei wybodaeth, celfydd ei law, aml ei ddiddordebau, a chymwynaswr bro. Cyn i John Davies gyrraedd Ysgol Dyffryn Nantlle, dydw i ddim yn meddwl y bu arbenigwr o athro celf yno o gwbl. Pwnc llanw i'w rannu rhwng athrawon digon anfoddog oedd Art. Ond yna fe ddaeth John, ac fe ddaeth y 'Cwt Art', a chwt pren llythrennol oedd y lle. Y peth tebycaf a welsoch erioed i gwt ieir go fawr. Yn y cwt hwn meithrinwyd diddordeb to ar ôl to o ddisgyblion yn y celfyddydau drwy frwdfrydedd yr athro. Ymhen amser fe ddaeth ystafell gelf fodern, olau braf, ond i mi a'm cyfoedion y 'Cwt Art' oedd y gyrchfan. Roedd yn ymdaflu i holl weithgareddau'r ysgol. Ef oedd hyfforddwr parti chwibanu Tŷ Llifon yn eisteddfod yr ysgol bob blwyddyn; 'Codiad yr Ehedydd' bob blwyddyn gyda llaw. Ef yn aml iawn fyddai'n gofalu am y tîm criced ar brynhawniau o haf. Mae yn eithriadol o hoff o griced, ac yn ei ieuenctid chwaraeai'n selog i dîm y pentref, batiwr llaw chwith a throellwr araf. (Araf iawn a dweud y gwir.) Mae'n siŵr y byddai'n loes ei atgoffa i un disgybl go feiddgar sgorio 32 mewn un belawd ganddo mewn gêm staff, ond stori arall yw honno.

Roedd John wedi ymddiddori yn y ddrama yn llanc yn Aelwyd Bae Colwyn, wedi actio'n wir mewn drama yn Eisteddfod Genedlaethol Bae Colwyn, ym 1947. Bu hefyd yn rhan o theatr Garthewin pan oedd y theatr fach honno yn ei bri, a phan gafwyd cyfnod aur o ddramâu yn Ysgol Dyffryn Nantlle yn y chwedegau, gyda Mat Pritchard a John Gwilym Jones yn cynhyrchu dramâu o safon yn flynyddol, John wrth gwrs fyddai'n gyfrifol am gynllunio'r llwyfan. Mae'n drueni nad oes ffotograffau o'r setiau hynny ar gael, gan eu bod yn gampweithiau o ddyfeisgarwch. Ar yr un pryd roedd yn rhan o Gwmni Drama Eryri pan oedd Huw Lloyd Edwards, ac wedyn H.J. Hughes a Conrad Evans yn cynhyrchu.

Mae'r pamffledyn a achosodd yr holl benbleth yn Y Casglwr yn enghraifft arbennig o John Davies y cymwynaswr bro. Roedd yn enwog am ei allu i gynllunio ac fel caligraffwr, o ganlyniad byddai galw mawr yn lleol am waith cain neu arysgrifau, ac ato ef y dôi pobl yn ddi-feth, a hyd nes y cafodd drafferth gyda'i olwg, anaml iawn y câi neb ei wrthod. Ac wrth gwrs mae gan bob eisteddfod leol ei hadran gelf ac mae ar bob adran gelf angen beirniad. A oes rhaid dweud mwy? Roedd ganddo ddiddordeb mawr mewn cynllunio, yn arbennig felly fathodynnau a logos. Yn wir yn ddiarwybod iddynt efallai, rwy'n siŵr fod nifer o ddarllenwyr Y Casglwr yn gyfarwydd â'i fathodynnau. John gynlluniodd fathodyn Eisteddfod Gened­laethol Bro Dwyfor ac Eisteddfod Caernarfon. Cynlluniodd fathodynnau hefyd ar gyfer Eisteddfod Daleithiol Môn; ar gyfer Nant Gwrtheyrn, ac i Ysgol Pendalar, Caernarfon. Ef yn anochel gynlluniodd fathodyn Ysgol Dyffryn Nantlle.

Ond beth am John Davies yr arlunydd. Y peth cyntaf i'w ddweud efallai yw nad yw wedi cynhyrchu cymaint ag a ddylai o ystyried y ddawn sydd ganddo. Mae rheswm dros hyn. Bu'n dioddef gyda'i olwg ers nifer o flynyddoedd. Yn wir dyna'r rheswm dros iddo ymddeol pan wnaeth, ond mae'n drueni na fu'n arlunydd mwy cynhyrchiol. Cyfyngir y rhan fwyaf o'i luniau i anrhegion i gyfeillion. Mae wrth ei fodd yn arbrofi ag amrywiol arddulliau a chyfryngau. Mae gan Michael, y mab, gyfres o chwech o ddarluniau dyfrliw o Chwarel Dorothea yn Nhal-y-­sarn yn fuan wedi iddi gau, ac ynddynt mae John wedi llwyddo i gyfleu cyfuniad o'r prysurdeb a fu a'r tristwch o weld yr hen le wedi cau.

Cliciwch ar lun unigol i'w weld ar ei lawn faint

Mae'n drueni nad yw'r Casglwr yn gylchgrawn lliw i chi allu gwerthfawrogi tynerwch y lliwiau ynddynt. Mae gen i ddau ddarlun olew, un tirlun o wlad dan eira a gefais yn anrheg priodas, sydd yn gwneud i mi ryfeddu sut y gall ddefnyddio cymaint o liwiau i gyfleu gwynder. Bu llun ciwbaidd o Flaenau Ffestiniog ganddo ar daith gyda Chyngor y Celfyddydau, ac y mae wrth ei fodd gyda'r darlun cyfansawdd, lle mae'n cywasgu gwahanol olygfeydd o fro i mewn i un llun.

Cyfres o gameos bychain yn cyfuno i greu un llun argraffiadol o ardal gyfan. Mae'n debyg y byddai'n anodd iawn creu arddangosfa o'i waith gan y byddai perchnogion ei luniau'n gyndyn iawn o'u gollwng o'u dwylo. Fel y dywedais, mae'n drueni nad oes mwy, ond clywais rhyw si ei fod am ailddechrau gafael ynddi o ddifrif unwaith eto yn y dyfodol agos. Gobeithio'n wir.

Y cwestiwn mawr yw a fydd ganddo'r amser. Dros y blynyddoedd bu'n aelod o Gôr Meibion Dyffryn Nantlle, ac wrth gwrs mae'n un o'r bobl hynny sydd wedi gwirioni efo golff. Mae'n aelod o Glwb Golff Caernarfon ers blynyddoedd maith: bu'n gapten y Clwb ym 1989 a bydd angen tywydd mawr iawn i'w rwystro ef a'i gyfeillion rhag cael eu gêm wythnosol. Ar ben hyn mae'r ardd, mae'n rhaid cadw trefn ar honno. Ac ar nosweithiau gaeafol bydd yn rhaid ceisio trefnu rhyw ychydig o ornestau 'bridge' gyda'i gyfeillion. Rhwng popeth mae'n eithriadol o brysur.

Dyna felly, Mr Golygydd, geisio cyfleu i chi pwy yw J.D. Cyfaill sydd, yn ei ffordd ddistaw ei hun, wedi chwarae rhan amlwg iawn ym mywyd ei fro fabwysedig am bron i hanner can mlynedd bellach.

FFOTOGRAFFYDD Y PAENTIADAU : DEREC OWEN