Y BARDD ALUN A'R CYLCHGRAWN gan Mari Ellis


A fedrwch chi feddwl am enw mwy diddychymyg i'w osod ar gylchgrawn na Cylchgrawn y Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Fuddiol? Mae fel petaech yn cyhoeddi cyfrol a'i galw'n Llyfr. Mudiad o Loegr a sefydlodd y gymdeithas hon yn 1827 er mwyn rhoi gwybodaeth gyffredinol yng nghyrraedd y rhai na fedrai fforddio mynd i ysgol. Rhoddwyd mwy o ddychymyg ar waith wrth lunio enw i'r cylchgrawn Saesneg, sef The Penny Magazine; os oedd cylchgrawn yn costio cymaint â hynny rhaid fod rhywbeth o werth ynddo. Fe gaech dipyn go lew am geiniog y dyddiau hynny.
Wyneb-ddalen Cylchgrawn y Gymdeithas Er Taenu Gwybodaeth Fuddiol

 

John Blackwell (Alun)

Golygydd y cylchgrawn Cymraeg oedd John Blackwell (1797-1840), Alun, y bardd; teimlai nad oedd dewis ganddo pan wahoddwyd ef i ymgymryd â'r gwaith. Fel hyn y bu.

Curad poblogaidd yn Nhreffynnon, sir y Fflint oedd Alun yn 1829, wedi ei ordeinio ar 29 Ionawr y flwyddyn honno. Yn ŵr gradd o Brifysgol Rhydychen ac yn fardd o fri, yr oedd yn feirniad eisteddfodol ac wedi golygu cynhyrchion eisteddfodau. Ym mis Rhagfyr 1829 sefydlwyd Cymdeithas Traethodau Crefyddol yn y dref ac etholwyd Alun yn gyd­ysgrifennydd â'r Parch. Richard Richards, Caerwys. Cyhoeddai'r Gymdeithas hon draethodau, tracts yn Gymraeg a Saesneg ac yr oedd Alun yn fawr ei ofal dros gywirdeb iaith ac orgraff y rhai Cymraeg.

 

Yn y flwyddyn 1832 daeth gŵr o'r enw Bellandon Keir i Ogledd Cymru i arolygu ffiniau'r bwrdeistrefi mewn cysylltiad â mesur y Reform. Yn Nhreffynnon gwrthododd y ficer wneud dim ag ef, a throes yntau at y curad a'i apêl yn ŵr ifanc, deallus, talentog ac yn hawdd cydweithio ag ef. Cymeradwyodd ef i sylw'r Arglwydd Ganghellor, yr Arglwydd Brougham, fel clerigwr a haeddai gael dyrchafiad. Yn anffodus, ychydig o blwyfi yng Ngogledd Cymru oedd yn llaw'r Canghellor; pan ddaeth plwy Maenordeifi yng ngogledd sir Benfro'n wag, fe'i cynigiodd i Alun. Yn y dyddiau hynny, pan oedd ansicrwydd dyrchafiad yn fwgan i bob curad, anodd iawn fyddai iddo wrthod y fywoliaeth, er mor anghydnaws iddo oedd symud ymhell o'i hoff Dreffynnon. Ystyriaeth arall oedd ei fwriad i briodi â Matilda Dear o'r Pistyll, ger Treffynnon. Ond rhywbeth yn y dyfodol fyddai hynny. Gofynnodd am ganiatâd i fynd i weld y lle cyn ei dderbyn. Cyfrwyodd ei farch ac i lawr i'r De ag ef, ond cam-gyfeiriwyd ef i Faenor arall (ni ddywedir p'run) lle y cyfarfu ag offeiriad iach, llond ei groen, heb yr un bwriad i symud oddi yno. Chwerthin yn braf a wnaeth Alun wrth adrodd yr hanes, a dyna adwaith yr offeiriad arall hefyd, a daeth y ddau'n gyfeillion.

Wedi iddo gyrraedd Maenordeifi o'r diwedd, daeth y gwahoddiad oddi wrth Bellendon Keir i olygu cylchgrawn i'r Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Fuddiol, yr oedd ganddo gysylltiad â hi. Teimlai Alun hi'n rheidrwydd arno i ymgymryd â'r fenter ac na allai wrthod cais y gŵr a oedd yn gyfrifol am ei ddyrchafiad yn yr eglwys. Yr oedd y Penny Magazine newydd gael ei lansio yn 1832 a dywedwyd wrth Alun y gallai gyfieithu neu addasu ysgrifau ohono a defnyddio'r darluniau.

Nid aeth at y gwaith yn gwbl ddibrofiad; gwyddai na allai eistedd yn ôl yn ei gadair olygyddol a disgwyl i'r ysgrifau ddisgyn ar y ddesg o'i flaen fel manna o'r nef. Bu'n weithgar gyda'r Gwyliedydd, y cylchgrawn a gychwynnwyd gan y clerigwyr er mwyn gosod safbwynt yr Eglwys Sefydledig gerbron y cyhoedd. Yn ystod ei flwyddyn yn y Berriw, o dan hyfforddiant y Parch. Thomas Richards, cyfrannodd i'w golofnau. Pan arhosai o dan gronglwyd Ifor Ceri yn ystod ei wyliau o Rydychen, bu'r ddau'n cymryd rhan yn y dadleuon ar dudalennau'r Gwyliedydd, Ifor Ceri'n cynnig y syniadau ac Alun yn sgrifennu'r erthyglau o dan wahanol ffugenwau. Gobaith Ifor Ceri oedd y byddai Alun yn cymryd at olygu'r Cambrian Quarterly Magazine, ond ni theimlai'n barod i ymrwymo i waith mor gyfrifol.

O'r cychwyn penderfynodd ymwrthod â phob pwnc dadleuol, yn boliticaidd a chrefyddol yn y cylchgrawn. Rhoi gwybodaeth i'r werin oedd ei amcan a gwaredai rhag disgyn i ymgecru diwinyddol. Ond fel y dywedodd Gwallter Mechain, dyna'r union fath o bwnc a fyddai'n sicrhau gwerthiant y cylchgrawn.

Daeth y rhifyn cyntaf o Wasg Llanymddyfri yn Ionawr 1834 a'i bris yn chwe cheiniog y mis. Mae diwyg y cylchgrawn yn deilwng o safonau'r argraffwasg enwog honno. Yr oedd Alun am hyfforddi'r darllenwyr mewn amrywiaeth o bynciau `. . . fel y caffo ein Cymry uniaith gyfodi eu pennau mewn meddiant o foddion gwybodaeth gyfartal i'w cyd-ddeiliaid y Saison.'

Anelodd at ymdrin â hanes, bywyd enwogion, 'ofyddiaeth', sef ei derm am athroniaeth, a 'Deifnogaeth, sef y gwyddorau Seroni'. Seryddiaeth oedd hynny. Mae hefyd yn cynnig 'Cyfarwyddiadau i Benau Teuluoedd, Tyddynwyr, Llafurwyr', a dysgu am 'Freintiau Cymdeithas ac Iawn Drefn Gwlad'. Dyfynnodd o Adroddiadau Amaethyddol Gwallter Mechain gan eu cymeradwyo i'r tyddynwyr (a fedrai ddarllen), ond heb ddweud sut y gallent gael gafael ar y cyfrolau trwchus.

O gofio am ei stori gyfres yn y Gwyliedydd: 'Hanes Bywyd Meddwyn', mae'n rhyfedd na fyddai wedi cynnwys rhywbeth tebyg. Gallasai fod wedi datblygu 'Prydnawn Sadwrn ym Mai' yn stori, yn enwedig ar ôl ei brofiadau adeg y geri marwol yn Nhreffynnon a'r cyffiniau yn ystod 1832. Math o bregeth yw'r darn fel y mae yn sôn am 'y twymyn ysgarlad' a oedd wedi 'sgubo ymaith mewn llai na deufis fwy na'r drydedd ran o'r plant'.

Cafodd gyfraniadau gan y clerigwyr y bu'n cyd-eisteddfota â hwy, yn arbennig felly John Jones, Tegid. Anfonodd Thomas Price, Carnhuanawc yntau, o dan y ffugenw Venedotian, hanes y llawysgrif unigryw Llyfr Aneirin a oedd yn ei feddiant. Gyrrodd Gwenffrws o Alabama bell gerdd ar Gantre'r Gwaelod, ac ymddangosai telynegion a cherddi Alun ei hun yn rheolaidd, er bod y rhan fwyaf eisoes wedi ymddangos yn y Gwyliedydd.

Thomas Price (Carnhuanawc)

Fel Rowland Williams yn y cylchgrawn hwnnw yn lladd ar ofergoeliaeth y werin bobl, credai Alun fod 'ofergoelion yr oesoedd tywyllaf' yn dal yn y tir. Dyfynnodd y rhigwm sy'n enwi gwahanol rannau o'r wlad:

Ymlafniodd Alun uwchben y cylchgrawn am flwyddyn a hanner. Ei brif anhawster oedd cael digon o amrywiaeth testunau ar gyfer pob rhifyn. Ei bechod parod, yn ôl ei gofiannydd, Gutyn Padarn, oedd gadael pethau hyd y funud olaf a gorfod aros ar ei draed yn hwyr. Cariai'r 'copi' i Lanymddyfri ei hunan, ac os nad oedd ganddo ddigon o ddeunydd deuai William Saunders i'r adwy; un o argraffwyr y wasg oedd ef, bardd a fu'n llwyddiannus yn ennill gwobrau'r Archddiacon Beynon yn eisteddfodau Cymreigyddion Caerfyrddin. Oherwydd colledion ariannol rhoes William Rees, Llanymddyfri y gorau i gyhoeddi'r cylchgrawn ar ddiwedd y flwyddyn 1834. Yna aeth Alun ar ofyn William Evans, argraffydd yng Nghaerfyrddin; awgrymodd hwnnw gynnwys tudalen o newyddion lleol er mwyn ceisio codi'r cylchrediad, ond ymhen hanner blwyddyn gwelodd yntau na allai wneud elw o'r fenter a daeth y cylchgrawn i ben gyda rhifyn Mehefin 1835.

Un o'r lliaws cylchgronau Cymraeg byrhoedlog oedd Y Cylchgrawn, a thrist yw darllen am obeithion golygyddion ymroddgar y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn troi'n fethiant. Un gangen o 'Wybodaeth Fuddiol' yr oedd mawr angen ei dysgu oedd marchnata. Ond gan fod hyn yn dal i boeni cyhoeddwyr heddiw, ni ddylem fod yn rhy lawdrwm arnynt yn 1834-35.