RHAGOR AM R.S.HUGHES(1855-93) A'I 'ELEN FWYN'
gan Huw Williams

 

R. S. Hughes

Dros y blynyddoedd fe ysgrifennwyd llawer mewn llyfr a chylchgrawn am R. S. Hughes, un o brif gyfansoddwyr caneuon ein cenedl - ac un o'n pianyddion gorau - yn y ganrif ddiwethaf, ond yn ddamweiniol ambell dro fe ddaw ambell bwt ychwanegol o'i hanes i'r fei. A phan ddigwydd hynny fe gytunir fod pob mymryn yn werth ei gofnodi.

Denwyd R. S. Hughes i Fethesda yn Arfon yn 1887, pan benodwyd ef, allan o dri o ymgeiswyr (ac ar gymeradwyaeth neb llai na'r Dr Roland Rogers, organydd Eglwys Gadeiriol Bangor) yn organydd Eglwys Annibynnol Bethesda, ar gyflog o £35 y flwyddyn gyda'r dyletswyddau hefyd yn cynnwys ‘. . . paratoi'r côr i gynnal cyngerdd blynyddol tuag at dalu ei gyflog'!

Rhaid ei fod wedi symud i Fethesda rywbryd rhwng Ionawr a thua chanol Mehefin 1887 gan fod llythyr gyda 'R. W. Hughes, Bethesda' oddi tano, ac sy'n dwyn y pennawd 'Cŵyn Cerddor', wedi'i gyhoeddi yn rhifyn Mehefin 29, 1887 o'r Faner. Ar y pryd cwynai'r cyfansoddwr ieuanc fod rhai o swyddogion yr eisteddfod yn gwrthod dychwelyd cynhyrchion i gystadleuwyr, cwyn yr oedd llawer o gerddorion eraill y genedl ar y pryd yn cytuno'n llwyr â hi.

Ond o ble'n union y symudodd R.S. i Fethesda fel organydd, a pham tybed na chyfeirir yn fanwl yn yr un ffynhonnell at gyfnod ei alltudiaeth o Gymru? Cyn ceisio ateb y cwestiwn hwnnw fe ddylid yn gyntaf nodi nad yw'r Bywgraffiadur Gymreig yn hollol gywir wrth awgrymu iddo aros yn Llundain (yn dilyn ei gwrs colegol), '… hyd nes y penodwyd ef yn organydd ym Methesda ym 1887'. Yn nes i'r gwirionedd mae'r sylw mewn ysgrif goffa yn rhifyn Mai 1893 o Cerddor y Cymry, sef fod y cyfansoddwr, '. . . wedi gwasanaethu am ddeng mlynedd fel organydd yng Nghaerludd (Llundain) a Swydd Gaerefrog' cyn dychwel i Gymru o'i alltudiaeth.

Tystiolaeth W. J. Parry, Bethesda mewn llawysgrif yn y Llyfrgell Genedlaethol yw ei fod am gyfnod wedi gwasanaethu fel dirprwy organydd yn Eglwys Alphage Sant, London Wall a chan iddo adael Llundain am Hull yn Swydd Efrog yn 1883, mai oddi yno, yn hytrach nag o Lundain fel y dywedir fynychaf, y symudodd i Fethesda.

Yn yr Hull Directory am 1885 cyfeirir at y cerddor fel 'Professor of Music', yn byw yn 23 Bean Street, Hull ac mewn cofnod a ymddangosodd ychydig yn gynharach na hynny, dywedir ei fod yn byw yn 28 Kingston Street, Hull ac yn cynnig gwersi ar y llais, yr harmoniwm, a'r piano, yn ogystal â chynnig ei wasanaeth fel pianydd mewn cyngherddau.

Yn rhyfedd iawn nid oes sôn amdano o gwbl yn y gyfrol A History of Hull Organs and Organists gan G.H.Smith, cyfrol sydd heb ei dyddio, ond wedi'i chyhoeddi yn Llundain gan A. Brown yn 1910. Fe ystyrir hwn yn waith safonol ar hanes cerddoriaeth eglwysig yn Hull yn ystod y ganrif ddiwethaf a dechrau'r ganrif bresennol, ac y mae'n enwi rhai cerddorion a fu'n gwasanaethu yn Hull am ychydig fisoedd yn unig. Tybed, felly, nad fel organydd eglwys y gwasanaethai R.S. cyn symud i Fethesda, a'i bod yn fwy tebygol mai fel cerddor yn gweithio ar ei liwt ei hun yr enillai ei fywoliaeth? A tybed ai merch, y clywais ei disgrifio gan y diweddar Ernest Roberts, Bangor fel 'merch ieuanc dlos felynddu ei chroen', ac fel 'Iddewes bert' gan eraill ym Methesda, a fu'n gyfrifol am ddenu'r cerddor ieuanc o Lundain i Hull, ac mai honno hefyd oedd y ferch a ddaeth yn y man yn wraig iddo, gan ei hebrwng i Fethesda yn 1887?

Yn ôl tystiolaeth rhieni Ernest Roberts (ei dad oedd ysgrifennydd Eglwys Annibynnol Bethesda pan oedd R.S. yn organydd yno) fe ddiflannodd y wraig honno o Fethesda yn ddisymwth iawn ar ôl marw ei phriod yn sydyn yn ei gartref yn Douglas Terrace ar y 5ed o Fawrth 1893, ac ni chlywyd dim o'i hanes yn yr ardal ar ôl hynny.

Clywsai Ernest Roberts lawer o hen drigolion Bethesda yn sôn am y cyfansoddwr caneuon a'r organydd ysbrydoledig a fu'n byw yn eu plith am y chwe blynedd olaf o'i oes. Yn dilyn ei farw fe fu peth drwgdeimlad rhwng ei weddw a rhai o aelodau ei deulu yn Aberystwyth, gyda'r naill yn mynnu mai ym Methesda y dylid ei gladdu, a'r llall yr un mor bendant y dylid ei gladdu gyda rhai o aelodau ei deulu yn Aberystwyth. Dymuniadau'r weddw a gariodd y dydd ac fe'i claddwyd ym mynwent Glanogwen Bethesda yng ngŵydd amryw o gerddorion blaenllaw y genedl ynghyd â chynrychiolaeth dda o drigolion Aberystwyth ac, os gwir yr hanes, fe gyrhaeddodd y Dr Joseph Parry Fethesda i dalu'r gymwynas olaf ag R.S. ddiwrnod yn rhy ddiweddar!

Os oedd R.S. yn ŵr poblogaidd ymhlith trigolion Bethesda mae'n amlwg fod syniadau rhai o gapelwyr y fro (ac yn fwyaf arbennig rhai o aelodau Eglwys Annibynnol Bethesda) amdano yn amrywio. Nid oes gyfeiriad o gwbl at ei farwolaeth yn Adroddiad Eglwys Bethesda am 1893; nid oedd yn aelod eglwysig a dewisodd anwybyddu pob cais gan ddiaconiaid yr eglwys, ‘… i ystyried dod yn aelod eglwysig ac yn ddirwestwr'. Ond fel organydd yr oedd pawb yn sôn am ei ddawn gyda'r gynulleidfa yn tyrru i oedfa nos Sul yn brydlon iawn yn ôl yr hanes, yn arbennig er mwyn ei glywed yn canu'r organ.

Fe erys o hyd ambell ddirgelwch ynglŷn â bywyd a gyrfa R.S. ac fe ŵyr y cyfarwydd fod yna ambell ddirgelwch ynglŷn â rhai o'i gyfansoddiadau cerddorol hefyd. Un enghraifft yw ei faled 'Elen Fwyn', a gyhoeddwyd gan D. Treharne, y Rhyl, yn 1893 gyda'r geiriau ar y copi ('Pan suddai'r heulwen / Dros y bryn ym min y nos') yn cael eu priodoli i 'Hiraddug'.
Fe adolygwyd yr hen gân boblogaidd hon ar dudalennau rhifyn Mehefin 1894 o'r Cerddor, rhyw dri mis ar ôl marw ei hawdur yn ŵr ifanc 38 oed. Mae'n rhaid ei bod wedi taro deuddeg fel baled serch, oherwydd erbyn rhyw saith mlynedd ar ôl ei chyhoeddi cawn ei bod wedi ei threfnu ar gyfer lleisiau meibion TTBB gan D. Emlyn Evans, a bod ei phoblogrwydd fel rhangan wedi parhau hyd at ganol y ganrif bresennol, pan gafwyd trefniant arall ohoni - eto ar gyfer lleisiau meibion - gan Idris Lewis (1952), heb sôn am y trefniant o'r alaw fel cân bop a ddarparwyd yn gymharol ddiweddar.

Ond pwy tybed oedd 'Hiraddug', ac ym mhle y cafodd R.S. eiriau'r gan? Clywsom i gyd am Ddafydd Ddu Hiraddug ac am Ddewi Hiraddug, ond er imi dreulio blynyddoedd yn byw bron dan gysgod Moel Hiraddug, mae'n rhaid imi gyfaddef na chlywais neb erioed yn sôn am brydydd yn dwyn y ffugenw hwnnw.

Yn dilyn cyfnod maith yn holi ac yn ymchwilio, cefais oleuni ar y dirgelwch yn Alawon y Bryniau, y gyfrol brin ac arloesol honno gan J.D.Jones, Rhuthun sydd â'i chynnwys yn gymysgfa o ‘ganeuon, deuawdau, canigau, a chytganau . . .' wedi'u cyhoeddi'n wreiddiol gan R.Hughes a'i Fab, Wrecsam yn Y Gyfres Gerddorol Gymreig, sef (gan ddyfynnu Idris Lewis yn ei gyfrol ddefnyddio) Cerddoriaeth yng Nghymru, 1945) '. . . y caneuon gwreiddiol cyntaf, yn ôl pob tebyg, a gyhoeddwyd erioed yng Nghymru'.

Yn anffodus nid yw Alawon y Bryniau wedi ei ddyddio, ond mewn hysbyseb yn rhifyn Mawrth 1865 o'r Cerddor Cymreig, fe ddisgrifir y cynnwys fel '. . . holl waith J. D. Jones a ymddangosodd yn Y Gyfres Gerddorol', sef cyfres a gyhoeddwyd mewn dros 30 o rannau, swllt yr un, rhwng 1860 a 1870, gyda'r gwaith golygu yn cael ei rannu gan J. D. Jones a John Owen (Owain Alaw).

Mae cynnwys Rhan VI o'r Gyfres hon, a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn ystod Tachwedd-­Rhagfyr 1861, yn cyfateb i rifau 27 a 29 yn Alawon y Bryniau. Eiddo 'Hiraddug, Ruthin' yw geiriau'r naill gân a'r llall, ac ym mynegai'r gyfrol fe ddywedir yn reit bendant mai'r gŵr hwnnw oedd y Parchedig R. E. Williams, Rhuthun. A dyma ni'n awr mewn sefyllfa i ddatgan - am y tro cyntaf ers blynyddoedd maith - mai'r un gŵr oedd awdur geiriau'r gân 'Elen Fwyn' a'r sawl a luniodd y cyfieithiad Cymraeg o Hanes y Ddaear a'r Creaduriaid Byw (Oliver Goldsmith).

Pwy felly oedd R. E. Williams? Dangosodd Raymond Davies yn rhifyn Mawrth 1987 (rhif 31) o'r Casglwr fod y Parchedig Robert Edward Williams yn fab i grydd o Bwllheli a'i fod yn weinidog gyda'r Annibynwyr yn Rhuthun rhwng 1859 a 1862, sef y cyfnod pan gyhoeddwyd Rhan VI o'r Gyfres Gerddorol.

Roedd J. D. Jones, cyd­olygydd Alawon y Bryniau (a fu farw ym mis Medi 1870) hefyd yn byw yn Rhuthun yn ystod y cyfnod cymharol fyr y bu 'Hiraddug' yn weinidog yno, a'r tebyg yw fod y ddau yn adnabod ei gilydd yn dda.

Diau y gwyddai'r ddau ohonynt fod yna gân a chytgan gan Eos Morfydd (organydd Eglwys Blwyf Rhuthun) yn dwyn y teitl 'Harri Fwyn' eisoes ar y farchnad, a chan fod llawer o ganu ar y gân honno yn y cyngherddau erbyn haf 1861 - diolch i'r cyhoeddwr caneuon mentrus ac arloesol Isaac Clarke - roedd yn rhaid yn awr fynd ati ar unwaith i gadw'r ddysgl gerddorol yn wastad trwy ddarparu cân newydd sbon yn clodfori ac yn rhestru rhinweddau 'Elen Fwyn'!

Mae'n amlwg, felly, ein bod yn ddyledus am eiriau'r gan 'Elen Fwyn' - yn anunion­gyrchol beth bynnag - i ymdrechion J. D. Jones, gŵr gweithgar ac egnïol iawn a lafuriodd yn Rhuthun dan bob math o anawsterau ac anfanteision, gan gynnwys colli plentyn - cannwyll ei lygaid — yn niwedd 1862.

Byddai'n arferiad gan J. D. Jones gefnogi prydyddion lleol yn ardal Rhuthun trwy erchi cerddi o'u gwaith ac y mae rhai o'r rheini nid yn unig wedi eu cynnwys yn Alawon y Bryniau, ond hefyd yn ei gasgliad Y Delyn Gymreig ... a gyhoeddwyd yn Rhuthun yn 1859.

Ond, ar ôl llwyddo i briodoli geiriau 'Elen Fwyn' i R. E. Williams, fe erys un cwestiwn heb ei ateb, sef ymhle tybed y daeth R.S. Hughes, Bethesda o hyd i'r geiriau gan R. E. Williams? A gyhoeddwyd hwy yn un o'r cylchgronau tybed, ai ynteu a ddanfonwyd hwy ato gan Treharne, y cyhoeddwr o'r Rhyl, neu gan J. D. Jones efallai?

Beth bynnag yw'r ateb fe arddelwyd 'Elen Fwyn' gan bron bob tenor Cymreig dros y ganrif ddiwethaf ac, er gwaethaf ei hansawdd elfennol a'i chyfeiliant syml, nid yw'n llwyr allan o ffasiwn eto!