LLAIS LLYFRAU PRYSE, LLANIDLOES gan Huw Walters

CEIR ymhlith casgliadau Adran y Llyfrau Printiedig yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru filoedd o gyfrolau amryw — y cyfrolau hynny o bamffledi a mân lyfrynnau a fwriwyd ynghyd o fewn yr un clawr, gyda'r geiriau Amryw neu Amrywiaeth ar eu meingefnau. Y mae rhai cannoedd o'r rhain yn perthyn i gasgliadau a gynullwyd gan lyfrbryfed a chasglwyr fel Syr John Williams a'r Prifathro John Humphreys Davies, ond deil y Llyfrgell i brynu mân gyfrolau amryw o bryd i'w gilydd gan fod pob cyfrol o'i math yn ei hanfod yn gwbl unigryw ac yn gynnyrch chwaeth a diddordeb yr unigolyn.

Yn gymharol ddiweddar daethpwyd o hyd i un o'r cyfrolau hyn ymhlith casgliadau Adran y Llyfrau Printiedig gyda'r geiriau Llên Gadwfa ar ei meingefn. Ni wyddys pwy oedd perchennog y gyfrol hon, ond digwydd enw 'Ebenezer Thomas, Clynnog' (sef Eben Fardd) ar wyneb-ddalen y copi o'r Historical Account of Bardsey Abbey, Caernarvonshire — gwahanlith o'r Archaeologia Cambrensis a rwymwyd ynddi. Ymhlith defnyddiau eraill y gyfrol ceir nifer o fân draethodau o brif gylchgronau Cymraeg y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a rhai eitemau diddorol eraill megis catalogau o gynnwys llyfrgelloedd unigolion fel y Parch. G. Armstrong Williams a T. E. Watkins ('Eiddil Ifor'), un o aelodau selocaf Cymdeithas Cymreigyddion y Fenni.

Hwyrach mai'r eitem fwyaf diddorol fodd bynnag yw'r rhifyn cyntaf o Pryse's Cambrian Book Register a ymddangosodd ym mis Mehefin 1857 o wasg John Pryse, Llanidloes, a'i bris yn un, geiniog. Brodor o sir Faesyfedi oedd Pryse a anwyd yn 1826. Fe'i prentisiwyd fel crydd am gyfnod cyn iddo symud i Lanidloes yn 1842 lle sefydlodd ei fusnes ei hun fel llyfrwerthwr, ac yn ddiweddarach fel cyhoeddwr ac argraffydd. Yno y priododd â gweddw Richard Mills y cyfansoddwr, a llysfeibion iddo oedd John Henry Mills a Richard Mills a fu hefyd yn argraffwyr — y naill yn swyddfa Hughes yn Wrecsam a'r llall yn Llanidloes. Bu farw John Pryse ym mis Hydref 1883.

Rhifyn prawf oedd y rhifyn cyntaf hwn o'r Cambrian Book Register, ac ni lwyddwyd i ddod o hyd i'r un rhifyn arall. Ond roedd cynllun John Pryse yn un uchelgeisiol. Ei amcan oedd rhoi cyhoeddusrwydd i gynnyrch gweisg Cymreig ei gyfnod, a chofrestr ydyw mewn gwirionedd o gynnyrch gweisg Richard Hughes a'i Fab, Wrecsam a Thomas Gee, Dinbych, yn ogystal â'r llyfrau a werthid gan Pryse ei hun. Dyma felly ragredegydd Noddwr Llyfrau Cymraeg y cyhoeddwyd un rhifyn ar ddeg ohono gan Undeb Cymdeithasau Llyfrau Cymraeg rhwng 1958 a 1964, a Llais Llyfrau y cyhoeddwyd ei rifyn cyntaf gan y Cyngor Llyfrau Cymraeg yn ystod haf 1964.

Ond amcanai John Pryse i'r Cambrian Book Register fod yn fwy na chatalog o gyhoeddiadau Cymreig ei gyfnod. Yn wir yr oedd yn fwriad ganddo gynhyrchu llyfryddiaeth gyn­hwysfawr o gyhoeddiadau Cymraeg a Chymreig pob oes. 'As many rare old books will be registered, from time to time, in order to make this serial what it aims to be; viz. "a catalogue of ancient and modern Welsh literature". All books registered must be printed in the Principality or in the Welsh language, or otherwise have connexion with the literature of Wales,' meddai. Rhagwelai, pe llwyddai'r cyhoeddiad, y gallai'r gwaith fod o gymorth mawr i lyfrwerthwyr, casglwyr a llyfrbryfed fel ei gilydd. Ysywaeth, ni bu'r fenter hon yn llwyddiant. Er hynny gwireddwyd breuddwyd John Pryse yn rhannol yn 1869 pan ymddangosodd cyfrol fawr William Rowlands (Gwilym Lleyn) — Llyfryddiaeth y Cymry dan olygyddiaeth D. Silvan Evans. Cofrestr yw'r gwaith hwn o gynnyrch y wasg Gymraeg a Chymreig rhwng 1546 a 1800. Ac mae'n dda meddwl mai John Pryse ei hun oedd cyhoeddwr ac argraffydd y gyfrol bwysig hon.


Cliciwch ar y llun i'w weld ar ei lawn faint