CEIR CORGI A'U CYSYLLTIAD CYMREIG
gan Richard E.Huws

Tybed a oes ambell gasglwr teganau Corgi, Dinky, neu Matchbox ymhlith darllenwyr Y Casglwr. Bu'r cwmnïau hyn yn gyfrifol am gynhyrchu miliynau o gerbydau gan roi cymaint o bleser i genedlaethau o blant. Mae gan un o'r cwmnïau yma, sef Corgi, fel yr awgryma'r enw, gysylltiadau Cymreig cryf, ac os nad ydych yn eu casglu ar hyn o bryd, yna byddai'n talu ffordd i chwi edrych drwy deganau'r plant i weld a oes enghreifftiau ohonynt yn dal yn eich meddiant. Efallai eich bod yn eistedd ar ffortiwn!

Arthur Katz (1908-1999)
Ni fedraf honni fy mod yn casglu ceir Corgi ond mae ambell un ar hyd y lle o hyd yn y tŷ. Yr hyn a symbylodd fy niddordeb yn eu hanes oedd darllen yn y Daily Telegraph ar 10 Gorffennaf 1999, am farwolaeth Arthur Katz, sylfaenydd cwmni Mettoy. Ganed Katz yn Johannesburg, De Affrig ar 21 Mawrth 1908 i deulu o dras Almaenig. Collodd ei dad pan oedd ond 10 oed a symudodd ei fam ac yntau yn ôl i'r Almaen ar ddiwedd y Rhyfel Mawr, gan ymsefydlu yn ninas Nurenberg. Ar ôl cwblhau ei addysg gadawodd Arthur yr ysgol er mwyn dilyn prentisiaeth gydag un o gwmnïau cynhyrchu teganau'r ddinas.

Yn ddiweddarach ymunodd â chwmni Tipp, un o brif gynhyrchwyr teganau metal yn Yr Almaen, a chwmni a oedd yn eiddo i Philip Ullmann, cefnder ei fam. Ond wrth i gymylau Hitleriaeth gasglu penderfynodd y teulu cyfan symud i Loegr yn 1933. Yno, gyda chymorth ei berthynas ifanc, Arthur Katz, sefydlodd Ullmann fusnes cynhyrchu teganau yn ffatri Winteringham's yn nhref Northampton. Erbyn Chwefror 1936 datgysylltodd Ullmann oddi wrth Winteringham's gan sefydlu cwmni newydd yn dwyn yr enw Mettoy enw a ddaeth yn gyfarwydd iawn ymhen amser. Seiliwyd yr enw ar y cynnyrch — sef METal TOYs. Bu'n llwyddiant ysgubol ac o fewn chwe blynedd cyflogwyd gweithlu o 600 i gynhyrchu teganau metal o bob lliw a llun. Ond gyda'r bygythiad o ryfel ar y gorwel gorfodwyd y cwmni gan y Llywodraeth i newid o gynhyrchu teganau i gynhyrchu nwyddau a fyddai'n ddefnyddiol mewn cyfnod o argyfwng, gan ganolbwyntio'n benodol ar gyflenwi jerrycans (tuniau petrol) a darnau i ddrylliau peiriannol (machine guns). Nid oedd modd i'r cwmni gwrdd â holl archebion y Llywodraeth o'i ffatri yn Northampton, ac erbyn 1944 darparwyd y gofod ychwanegol.

Ar ôl y Rhyfel, ail-gydiodd Katz a Chwmni Mettoy yn eu gwaith traddodiadol o gynhyrchu teganau ac yn dilyn ehangu pellach darparwyd ffatri newydd sbon 100,000 troed­fedd sgwâr yn Fforest-fach a agorwyd ar 2 Ebrill 1949. Ym 1952 symudwyd pencadlys Mettoy i Abertawe, ond parhawyd i gynhyrchu rhai teganau yn Northampton, gan gynnwys teipiaduron i blant a pheli enwog plastig Wembley. Trwy gydol y chwedegau bu'r cwmni'n arbennig o lwyddiannus a phroffidiol gan ddod yn gwmni cyhoeddus yrr 1963. Cyflogwyd dros 3,000 yr ffatri enfawr Fforest-fach a hwy oedd prif gyflogwyr y ddinas, gyda throsiant blynyddol o 20m wrth gynhyrchu hyd at 18,000,000 o deganau bot blwyddyn.
Taflen hysbysebu Mettoy, tua 1951

Daeth anrhydeddau lu i'r cwmni yn cynnwys Gwobr y Frenhines i Ddiwydiant yn 1966 a 1967 am ei gyfraniad i allforion. Anrhydeddwyd Katz â'r OBE yn 1961, a chyda'r CBE yn 1973. Bu'n gadeirydd Cymdeithas Cynhyrchwyr Teganau Prydain rhwng 1955 a 1957, ac yn Llywydd y Gymdeithas rhwng 1971 a 1976. Treuliodd ei ymddeoliad yng Nghymru, a bu farw yn ei gartref yn West Cross, Abertawe yn gynharach eleni. Gedy weddw a dau o blant o'i briodas gyntaf.

Yn 1956 cynhyrchodd Mettoy y cyntaf o'i deganau Corgi. Dewiswyd yr enw yn bennaf oherwydd cynhyrchid y teganau yng Nghymru, ac roedd enw'r ci Cymreig yn fachog ac yn gofiadwy; roedd cysylltiadau Brenhinol y cwmni, a'u hoffter o'r anifeiliaid hyn, yn ffactor bwysig arall yn y dewis. Mae'n debyg y byddai'n gam rhy chwyldroadol ar y pryd i Mettoy fentro gosod Made in Wales ar eu cynnyrch, ond yn wahanol i geir Dinky a Matchbox, a stampiwyd i'r cyfarwydd Made in England, rhoddwyd Made in Gt. Britain, ar holl gynnyrch Corgi.

Ymhlith y modelau cynharaf a ddaeth allan o ffatri Abertawe oedd ffefrynnau megis y Ford Consul, Austin Cambridge, Morris Cowley a'r Hillman Husky. Gwerthwyd pob un ar y dechrau am y swm o dri swllt (3/-). Gellir priodoli llawer o lwyddiant Corgi i'r ffaith iddynt gael y blaen ar eu cystadleuwyr drwy osod ffenestri yn eu cerbydau a chynnwys drysau a bonedau a oedd yn agor. Ar ben hynny, roedd ychwanegiadau fel daliant olwynion (suspension) a goleuadau ar ffurf gemau diemwnt artiffisial yn atyniadau newydd, ac yn gwneud y teganau yn dipyn mwy realistig.

Heb os nac oni bai, model mwyaf llwyddiannus Corgi, oedd Aston Martin DB5 James Bond a lansiwyd yn 1965. Cafodd dderbyniad ysgubol ac mewn cyfnod o dair blynedd rhwng 1965 a 1968 gwerthwyd 3.9 miliwn ohonynt. Modelau eraill a werthodd dros filiwn o unedau yw'r Batmobile a char rasio Fformiwla 1 John Player Lotus.

Dros gyfnod o ddeugain mlynedd cynhyrchodd Corgi fodelau di-ri o bron bob math o gar, bws a lori. Ymhlith y rhai a gaiff eu trysori'n arbennig gan gasglwyr yw'r Ford Thunderbird a'r Mini Cooper S, sydd wed hawlio prisiau rhwng £200 a £400. Ac mae ambell gar Noddy, yn enwedig yr un a gynhyrchwyd yn 1969, yn medru hawlio £700 mewn cyflwr perffaith.

Ond bu hanes y Cwmni yn ystod y 1970au a'r 1980au yn un o grebachu cyson. Erbyn Hydref 1980 roedd y cwmni'i dechrau colli arian, gostyngwyd nifer y gweithlu i 2100. Erbyn 1983 roedd colledion blynyddol wedi esgyn i 4.2m a hannerwyd y gweithlu i 1300 mewn ymdrech i dorri costau. Ond roedd y dyledion mor ddrwg fel y bu'n rhaid i Mettoy fynd i ddwylo derbynnydd. Fodd bynnag mewn pryniant gan y rheolwyr achubwyd rhan o'r cwmni a ffurfiwyd busnes newydd yn dwyn yr enw Corgi Toys Ltd.

Bu nifer o ffactorau'n gyfrifol am fethiant Mettoy, ond y gystadleuaeth o dy teganau rhatach y Dwyrain Pell oedd yr elfen bwysicaf. Ar ben hynny roedd y cynnydd mewn costau ynni, gwasanaethau post a threthi, cyfraddau llog uchel a chryfder y bunt yn andwyol iawn i'r cwmni. A'r un fu hanes ffatri deganau enwog arall oedd yn rhannu'r un safle yn Fforest­fach. Roedd cwmni Louis Marx (a ddaeth yn ddiweddarach yn rhan o gwmni Dunbee-Combex-Marx), wedi ymsefydlu yn Abertawe yn 1946, a hwythau'n adnabyddus am gynhyrchu trenau Hornby, ceir rasio Scalextric a doliau Sindy. Caewyd y ffatri hon ar 2 Ionawr 1983, a throsglwyddwyd yr holl gynnyrch i Loegr.

Erbyn 1989 roedd Corgi Toys hefyd yn gwegian, ac yn dilyn argymhelliad cadeirydd y cwmni cytunodd y cyfranddalwyr i gwmni teganau anferth Mattel o'r Unol Daleithiau gymryd y busnes drosodd. Ymhen llai na dwy flynedd caewyd ffatri Fforest­fach gan y perchnogion newydd a symudwyd yr holl fusnes o gynhyrchu ceir Corgi i Gaerlŷr (Leicester). Ond erbyn 1995 gwerthwyd yr elfen Corgi i'w rheolwyr gan y rhiant-gwmni pan sefydlwyd cwmni preifat newydd Corgi Classics Ltd. gyda'i bencadlys nid nepell o ffatri Mattel yng Nghaerlŷr. Staff fechan yn unig sydd yno i dderbyn archebion a threfnir eu cyhoeddusrwydd gan asiant yn Leamington Spa. Mae'r cynnyrch ei hun, fel cyfran helaethaf cynnyrch teganau'r byd, yn dod o’r Dwyrain Pell. Yn achos Corgi Classics Ltd. gwneir y modelau i gyd yng ngwlad Tsieina. Cynhyrchir o leiaf un model newydd bob mis, a rhyddheir y mwyafrif ohonynt mewn 'argraffiadau cyfyngedig' yn bennaf ar gyfer casglwyr. Ond mae Clwb Casglwyr Ceir Corgi, sydd â 10,000 o aelodau, yn parhau i gael ei weinyddu o Abertawe. Os ydych am fwy o wybodaeth am weithgareddau'r Clwb yna medrwch gysylltu â'r Clwb drwy ysgrifennu at Blwch Post 323, Abertawe, SA1 1BJ. Ceir manylion pellach am gynnyrch y cwmni ar ei safle ar y We: http://www.corgi.co.uk.
Model Corgi Classics o fan y Canbrian News (1989)
Y llun gan Gareth Lloyd Hughes (gyda diolch i Mr D.
Gwynant Phillips, Bow Street, perchennog y model)

Carwn ddiolch i Marilyn Jones o Lyfrgell Dinas Abertawe, Neil K Evans o Gyngor Dinas Abertawe, Susan Beckley, Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg, Kathy Jarvis, Swyddog Cyhoeddusrwydd Corgi Classics, a'm cyfaill Tegwyn Jones, Bow Street, am eu cymorth wrth baratoi'r nodyn hwn.