LAMP Y CYMRO ~ Huw Walters yn datrys dirgelwch

Rai blynyddoedd yn ôl, pan oeddwn wrthi'n casglu deunydd, ac yn archwilio cyfnodolion ar gyfer y gyfrol gyntaf o Llyfryddiaeth Cylchgronau Cymreig, (a gyhoeddwyd wedyn gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru ym 1993), daeth y dasg lafurus i'm rhan o gael cribo'n fân drwy bum cyfrol fawr yr Union List of Serials Held in Libraries of the United States and Canada. Rhestrir yn y cyfrolau hyn ddaliadau cylchgronol bron i fil o sefydliadau, yn llyfrgelloedd ac archifdai yng Nghanada a'r Taleithiau Unedig, ac fel y gellid ei ddisgwyl, maent yn gloddfa werthfawr o wybodaeth am y cylchgronau Cymraeg a Chymreig a gyhoeddwyd yn America o 1838 ymlaen.

Ychydig cyn y Nadolig, 1986, deuthum ar draws cofnod yn un o'r cyfrolau hyn am gylchgrawn Cymraeg yn dwyn y teitl Lamp y Cymro. Yr oeddwn yn bur gyfarwydd â theitlau gwasg gyfnodol Gymraeg Cymru ac America erbyn hynny; gwyddwn bod Y Ganwyll yn deitl ar ddau gylchgrawn, a bod Y Llusern, yn deitl ar o leiaf chwech o gyhoeddiadau, — a'r rheini'n gylchgronau enwadol bob un. Gwyddwn am dri chylchgrawn yn dwyn y teitl Y Lamp, ac roedd gennyf ryw frith gof am gyhoeddiad o'r enw Lamp y Cymro. Dyma fynd ati i chwilio fy nodiadau, a chofio wedyn nad ymddangosodd Lamp y Cymro o gwbl, ond ei fod yn bapur newydd yr oedd William Morgan Evans, yr argraffydd o dref Caerfyrddin, wedi bwriadu ei gyhoeddi ar un adeg.

Yr oedd Evans eisoes wedi sefydlu Seren Cymru fel newyddiadur pythefnosol i wasanaethu'r Bedyddwyr ym mis Awst 1851. Ei olygydd oedd Samuel Evans ('Gomerydd') a fu hefyd yn olygydd Seren Gomer, misolyn answyddogol yr enwad, rhwng 1835 a 1850. Ond gan gymaint y dreth ar newyddiaduron a hysbysebion yn ystod y cyfnod hwn - dywedir i W.M. Evans golli £200 ar y fenter - aeth y baich o gynnal Seren Cymru yn ormod iddo, a bu'n rhaid atal y cyhoeddiad yng ngwanwyn 1853. Yna, dair blynedd yn ddiweddarach ym 1856, prynodd William Morgan Evans swyddfa argraffu Alice Williams yng Nghaerfyrddin, sef y swyddfa yr argreffid Seren Gomer ynddi rhwng 1845 a 1856. Daeth i'w feddwl roi cynnig arall ar sefydlu newyddiadur i wasanaethu ei enwad, a'i alw'r tro hwn yn Lamp y Cymro. Fodd bynnag, fe'i perswadiwyd gan nifer o weinidogion i ddewis yr hen enw, sef Seren Cymru, a dyna, yn wir a wnaed. Cyhoeddwyd ei rifyn cyntaf ar 13 Rhagfyr, 1856, a Seren Cymru, fel y gwyddys bellach, yw'r hynaf o'n newyddiaduron enwadol y parheir i'w gyhoeddi heddiw.

Gan na wireddwyd bwriad William Morgan Evans i gyhoeddi Lamp y Cymro ym 1856, at ba gyfnodolyn y cyfeiriai'r cofnod yn yr Union List of Serials in Libraries of the United States and Canada? Dyma graffu'n fanylach ar y cofnod, a gweld i'r rhifyn cyntaf ymddangos ym mis Ionawr 1851, a'i gyhoeddi yn nhref Caerfyrddin. Perswadiais fy hun mai camgymeriad gan lyfryddwr di-Gymraeg yn America oedd hwn, gan nad oedd sôn am Lamp y Cymro, (ar wahân i newyddiadur arfaethedig William Morgan Evans) yn yr un llyfryddiaeth o gynnyrch gwasg gylchgronol Cymru yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Nid oedd cofnod amdano chwaith yn yr un catalog o gynnwys casgliadau prif lyfrgelloedd yr Ynysoedd Prydeinig. Dangosai cofnod yr Union List ymhellach, bod y copi hwn o Lamp y Cymro wedi ei ddiogelu ymhlith casgliadau Llyfrgell Newberry yn Chicago.

'Doedd dim i'w wneud felly ond archebu copi llun o'r rhifyn unigryw hwn o'r Lamp o Lyfrgell Newberry. Daeth y copi hwnnw i law ym mis Ionawr 1987 ac, er fy syndod, sylweddolais nad camgymeriad oedd cofnod yr Union List wedi'r cyfan. Cylchgrawn bychan, yn mesur 15 wrth 9 centimedr, a'i bris yn un geiniog a dimai oedd Lamp y Gymro, ac yr oedd iddo wyth o dudalennau. Ei gyhoeddwr oedd gŵr o'r enw David Rees o'r Phonetic Institution, yn yr Heol Goch, Caerfyrddin, ac fe'i hargraffwyd yn Swyddfa William Thomas yn Heol y Bont.  

Gwiw inni gofio mai yn ystod yr union gyfnod hwn, yn fuan wedi cyhoeddi'r Llyfrau Gleision, sef adroddiad y comisiynwyr a benodwyd i archwilio i gyflwr addysg Cymru, y dechreuodd y Cymry fagu cymhlethdod ynglŷn â'u delwedd yng ngŵydd y byd. Dyma'r pryd y dechreuwyd coleddu'r syniad mai drwy addysg a gwybodaeth gyffredinol y gallai'r Cymro cyffredin ddringo'n gymdeithasol a dod ymlaen yn y byd. Ond yn bwysicach na hynny, 'roedd yn rhaid iddo ddysgu Saesneg, ac yr oedd pob math o rwystrau yn ei atal rhag gwneud hynny'n llwyddiannus. Tybiai nifer o Gymry'r cyfnod, — a Saeson hefyd o ran hynny, mai'r rhwystr pennaf i ddysgu Saesneg oedd orgraff y Saesneg ei hun.

Yr amlycaf o'r Saeson hyn, wrth gwrs, oedd Isaac Pitman, y gŵr a ddyfeisiodd y gelfyddyd o ysgrifennu llaw-fer yn Lloegr. Yr oedd Pitman eisoes wedi cyhoeddi ei Phonography, or Writing by Sound mor gynnar â 1840, a chafwyd nifer fawr o argraffiadau pellach o'r un gwaith drwy gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Sefydlodd y Phonetic Institute yng Nghaerfaddon ym 1843 a chychwynnodd gylchgronau fel The Phonotypic Journal a'r Phonetic Journal yn ystod y pedwardegau er hyrwyddo'i wyddor newydd. Ei amcan drwy'r cyfan oedd cael gan y cyhoedd Seisnig fabwysiadu dull o ysgrifennu Saesneg a gynrychiolai sŵn geiriau yn hytrach na'u tarddiad.

Daeth rhai Cymry'n drwm dan ddylanwad syniadau Pitman, - gwŷr fel Hugh Hughes ('Tegai') Samuel Evans ('Gomerydd') y crybwyllwyd ei enw eisoes, a Robert John Pryse ('Gweirydd ap Rhys'). Yr oedd Gweirydd wedi dechrau ar y dasg o lunio Geiriadur Cynanawl Seisnig-Cymreig ac Eglurydd yr Iaith Saisoneg a Chymraeg mor gynnar â 1833, sef geiriadur a roddai'r 'cynaniad mewn llythreniad adnabyddus'. Ond methiant ariannol fu'r fenter hon, ac ni chyhoeddwyd ond un rhan yn unig o'r gwaith. Yna ym 1847 hysbysodd Thomas Gee, yr argraffydd o Ddinbych, y rhoddai wobr o ddeng gini am draethawd ar 'Y Cyfarwyddyd Gorau i Gymro i Ddysgu yr Iaith Saesneg', ac o'r tri thraethawd ar ddeg a ddaeth i law, eiddo Gweirydd ap Rhys a ddyfarnwyd yn orau. Cyhoeddwyd y gwaith yn gyfrol gan Thomas Gee ym 1849.

'Does ryfedd felly, gyda'r holl weithgarwch hwn ynglŷn â darparu cyfarpar addas i'r Cymro uniaith ddysgu Saesneg, i David Rees, Caerfyrddin, fynd ati i sefydlu cylchgrawn a roddai gyfle i bawb wyntyllu'r materion hyn yn gyhoeddus. A dyna oedd amcan a diben Lamp y Cymro, fel yr eglurodd ei gyhoeddwr wrth annerch ei ddarllenwyr yn y rhifyn cyntaf:

'Er fod Grammadegau di-rif yn yr iaith Seisoneg, a'r rhai hyn yn cynnwys yr hyfforddiadau goreu a allant roddi tuag at ddysgu yr iaith honno; eto y maent oll yn ddiffygiol o reolau wrth ba rai y gellir cyrhaedd gwybodaeth o honni i berffeithrwydd. Pan gyfarfyddir â'r geiriau laugh, cough, rough &c, cyfarwyddir ni i'w swnio laf, cof, ruf; ond onid oes un reol bendant wrth ba un y gellir gwybod pa eiriau o'r cyffelyb derfyniad sydd i gael ei swnio felly, oblegid pan gyfarfyddir â'r geiriau plough, trough &c, yna mae y rheol hon yn colli ei grym, canys sŵn y geiriau hyn ydynt plow, a trow. Ai dichonadwy hefyd i estron i'r iaith gael un amgyffrediad fod geiriau o'r fath hyn i gael ei swnio fel y canlyn:- Portrieve of Laugharne, yn Portreev of Lurn; Marquis of Cholmondelay, yn Marquis of Chomle, ac Earl of Cawdor yn Url of Cawdur. Ac a ellid beio unrhyw Gymro am alw Island of Ceylon yn Iseland of Keilon, pan y dylid ei swnio Eiland of Seilon; neu Isle of Wight, yn Is-le of Wig-gut, pan mae ei sŵn priodol yw Eil of Weit. Ond pan roddir rheol gyfarwyddol, a'r rheol hon yn arwain y myfyriwr ar gyfeiliorn, rhaid nas gellir gydag unrhyw hyder ymddiried ynddi. Gofynir yn naturiol oddiwrth hyn. A oes modd cael rheol safadwy tuag at gyrhaedd perffaith wybodaeth o'r Iaith? Gellir ateb yn benderfynol fod y cynllun a osodir gerbron yn rheol gywir, ac nad oes modd i'r hwn a'i deallo gyfeiliorni ar unrhyw bryd.'

Yr enw a roes David Rees ar y drefn newydd hon o ysgrifennu oedd 'y gyfundraeth seindebol' ac yng ngweddill y Lamp rhoddir enghreifftiau o'r wyddor newydd yn Gymraeg a Saesneg fel ei gilydd. Argreffir ynddo hefyd gymeradwyaeth rhai o ddysgedigion yr oes, megis yr Athro Gregory o Gaeredin, y Dr Latham o Brifysgol Llundain a Gweirydd ap Rhys. 'Rhestrwch fy enw yn mhlith eich cefnogwyr' meddai, `ac ymdrechaf daflu hatling i'ch trysorfa yn fuan iawn.'

Rhifyn prawf oedd y rhifyn hwn, mae'n debyg, a dywed ei gyhoeddwr mewn nodyn at ei dderbynwyr, mai nifer fechan o'r cylchgrawn a gyhoeddwyd, gan addo ar yr un pryd 'y bydd i'r Lamp gynyddu mewn maintioli fel y byddo nifer y derbynwyr yn lliosogi'. Ymddengys hefyd mai cylchgrawn daufisol y bwriedid i'r Lamp fod, ac ar ei ddalen olaf hysbysir fod y golygydd yn cynnig dysgu llaw-fer 'i bwy bynnag a ddospartho chwech copi o'r Lamp am 12 mis'. Fodd bynnag, ni wyddys am fodolaeth rhagor o rifynnau, ac mae'n debyg mai methiant fu'r cyhoeddiad, fel cynifer o gylchgronau Cymraeg eraill y cyfnod.

Ni wyddys dim am David Rees ei hun, rhagor na'i fod yn hyddysg yn y grefft o ysgrifennu llaw-fer, a'i fod yn cadw siop groser yn yr Heol Goch yng Nghaerfyrddin. Yn ôl cyfrifiad poblogaeth 1851, yr oedd yn ŵr 41 oed, ac yn frodor o Lansteffan, yn byw gyda'i wraig Margaret (38 oed), a'i ferch Eliza (10 oed). Nid oes sôn amdano ef na'i deulu yng nghyfrifiad poblogaeth 1861. Ni lwyddwyd i ddod o hyd i unrhyw wybodaeth am y Phonetic Institution a sefydlwyd ganddo yn y dref chwaith.

Fel y crybwyllwyd eisoes, argraffwyd Lamp y Cymro gan William Thomas, a oedd yn llawer mwy adnabyddus wrth ei enw barddol — 'Gwilym Mai'. Fe'i prentisiwyd mewn swyddfa argraffu ym Merthyr Tudful, a bu wedyn yn gysodydd yn swyddfa David Rice a William Rees o'r Tonn, Llanymddyfri, cyn iddo symud i swyddfeydd The Carmarthen Journal yng Nghaerfyrddin. Agorodd ei swyddfa ei hun yn rhif 3, Heol y Bont, ym 1849, a pharhaodd i argraffu yno tan ei farwolaeth ym 1872. Yr oedd Gwilym Mai yn aelod blaenllaw o gymdeithas gyfeillgar yr Odyddion, a bu'n argraffu nifer o fan lyfrynnau ar ran y gymdeithas dros y blynyddoedd. Nid oedd yn ddieithr i'r llwyfan eisteddfodol chwaith, a chyhoeddodd ddwy gyfrol o'i gynhyrchion prydyddol, y naill wrth y teitl Meillion Mai ym 1849, a'r llall wrth y teitl Blodau Dyffiyn Tywi, ym 1854.

Prin y bydd neb yn troi at y rhain erbyn heddiw, ond nid yw'n amherthnasol nodi yn y fan hon, taw Gwilym Mai oedd y cyntaf i fynd ati i geisio cloriannu cynnyrch y wasg gyfnodol Gymraeg. Enillodd dlws gwerth dau gini am draethawd ar y testun 'Hanes y Cyhoeddiadau Misol Cymraeg, o'u Dechreuad: yn Cynnwys eu Henwau, Amser eu Cychwyniad, Parhad eu Cylchrediad, a'r Achos Penaf o Aflwyddiant y rhai Diddymol' yn Eisteddfod Cymdeithas Cymreigyddion y Fenni ym 1840, a hynny dan feirniadaeth Thomas Price ('Carnhuanawc'). Cyhoeddwyd y traethawd ddwy flynedd ar bymtheg yn ddiweddarach ym 1857 ar dudalennau Seren Gomer.

Ond i ddychwelyd at Lamp y Cymro. Yr hyn sy'n drawiadol ynghylch y cyhoeddiad hwn, yw nad oes yr un copi o'i rifyn cyntaf am Ionawr 1851 wedi goroesi mewn na llyfrgell nac archifdy yn Ynysoedd Prydain. Ni wyddys chwaith am gopi mewn casgliadau preifat, ac mae'r copi sydd ym meddiant Llyfrgell Newberry yn Chicago yn unigryw. Ond mae'n rhaid imi gyfaddef ar yr un pryd, nad oedd hyn yn achos syndod imi, oblegid gwyddwn fod ym meddiant Llyfrgell Newberry gasgliadau sylweddol o ddefnyddiau Cymraeg a Chymreig. Amheuwn fod Lamp y Cymro yn perthyn i un casgliad yn arbennig, a dyma ysgrifennu at Lucille Wehner, llyfrgellydd y casgliadau prin, er cadarnhau hynny. Cafwyd ateb cwrtais a diddorol yn y man, yn cadarnhau yr hyn yr oeddwn wedi ei amau, sef bod Lamp y Cymro yn perthyn i gasgliad y Tywysog Louis-Lucien Bonaparte, a brynwyd gan Lyfrgell Newberry am £1,500 pan fu farw'r Tywysog ym 1891.

Prin fod angen adrodd hanes Louis-Lucien Bonaparte ar dudalennau'r Casglwr. Gwnaed hynny eisoes yn y seithfed rhifyn o'r cylchgrawn hwn ym mis Mawrth 1979, gan y diweddar Ddr Gwilym Arthur Jones, a chyhoeddwyd dwy astudiaeth gynhwysfawr gan y Dr Brynley F. Roberts yn ystod y blynyddoedd diwethaf - y naill yn Gymraeg yn Y Traethodydd (mis Gorffennaf 1991), a'r llall yn Saesneg yn Nhrafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion ym 1995. Digon yw ein hatgoffa ein hunain yn y fan hon, bod Louis-Lucien Bonaparte, a oedd yn fab i un o frodyr Napoleon Bonaparte, yn ysgolhaig, yn ieithydd o gryn allu, ac yn ŵr â chanddo ddiddordeb arbennig yn yr ieithoedd Celtaidd. Yr oedd yn llyfrbryf hefyd, a llwyddodd i gynnull copïau o rai o'r llyfrau Cymraeg cynharaf i'w lyfrgell. Fel y gwyddys, perthyn yr unig gopi o'r Athrawiaethau Gristnogavl (Milan, 1568) i Gasgliad Bonaparte.

Louis-Lucien Bonaparte

Bu'r Tywysog ar daith yng Nghymru yn ystod mis Hydref 1855, a gwyddys iddo brynu nifer go helaeth o lyfrau i'w gasgliad mawr bryd hynny. Yn wir, dichon mai ar y daith hon y daeth Lamp y Cymro i'w feddiant. Fel y dywed Ms Wehner mewn llythyr ataf, dyddiedig 22 Ionawr, 1987: `During his travels he visited every bookseller of note; he entered every shop where he saw books exposed for sale; he never left any means in his power unemployed to secure a work he fancied'. Cyhoeddwyd rhestr o gynnwys casgliad Bonaparte yn gyfrol sylweddol wrth y teitl An Attempt at a Catalogue, gan Victor Collins ym 1894, a dengys y catalog hwn fod Bonaparte yn berchen ar nifer fawr o gylchgronau Cymraeg a Chymreig, megis rhediadau cyflawn o Y Brython (Tremadog), The Cambrian Journal cyhoeddiad anuniongred Ab Ithel, Y Cwmwl (Aberystwyth), Y Cymmro (Llundain), Greal (William Owen-Pughe), a Lleuad yr Oes (Brutus), heb enwi ond ychydig.

Mae'n bosib y daw un o ddarllenwyr Y Casglwr ar draws copi o Lamp y Cymro yn un o'n siopau llyfrau ail-law ryw ddiwrnod. Os felly, cofiwch ei fod yn brin eithriadol, ac er bod ei gynnwys yn ddigon anniddorol, y mae'n dweud llawer am gymhlethdodau Cymry'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.