ARNOLD DAVIES, Bariton ~
Lis Williams yn mynd drwy gasgliad o raglenni

A minnau'n turio drwy 'bethau' fy nhad yn ddiweddar, synnwn at y cyfoeth o wybodaeth a oedd ar gael mewn casgliad bach o raglenni a oedd wedi'u cadw mewn ffolder G.P.O. (Yr hen Swyddfa'r Post gynt, cyn dyddiau B.T.)

Gweithio i'r G.P.O. oedd fy nhad gydol ei oes, a hynny ym Merthyr Tudful. (Y mae ffolder arall G.P.O. ar gael hefyd, sydd yn hynod o ddiddorol - ceir ynddi ddogfennau yn ymwneud â thrychineb Aberfan, ac ynddi darganfyddais mai 'nhad oedd yn gyfrifol am osod y system ffôn i gysylltu â'r byd tu allan adeg y drychineb.) Ond yr oedd fy nhad, Arnold Davies, hefyd yn ganwr, a golygai hyn ei fod yn rhannu ei amser rhwng trefnu'r ffons ym Merthyr ac Aberdâr, a chanu gyda'r nos ac ar y penwythnosau gyda Chwmni Opera Cymru.
Arnold Davies yn chwarae rhan y Count
di Luna yn yr opera Il Travatore

O ganlyniad, nid oedd yn ganwr proffesiynol yng ngwir ystyr y gair, ac oherwydd hynny llesteiriwyd ei ddatblygiad cerddorol byd eang a'i sefyllfa ariannol, er iddo gyrraedd yr uchelfannau ym myd yr opera ar lwyfannau Covent Garden a Sadler's Wells. Mae gennyf doriad o'r Western Mail lle mae Westgate yn ei golofn yn cyfeirio at y ffaith bod fy nhad wedi mynychu perfformiad o Il Travatore gan Gwmni Opera Cymru yn 1976, ac yn cymharu'r perfformiad â'r un y bu ef yn cymryd rhan ynddo ugain mlynedd ynghynt. Cyfeiria Westgate at ei statws fel amatur: 'At Sadler's Wells he was the only amateur to sing on the stage with professionals, and was paid 10 guineas to overcome problems with the actor's union. Arnold sang in 16 operas in three years at one time.' (Tra oedd e'n canu fel unawdydd, yr oedd neb llai na (Syr) Geraint Evans yn canu yn y Corws!)

Ond yn ôl i'r dechrau, a'r dystiolaeth gyntaf o'i berfformiadau cyhoeddus cyntaf sydd gennyf yw rhaglen `Cyngerdd Mawreddog' a gynhaliwyd yn 1945 yn Gent/Gand, Gwlad Belg.

Mae'n debyg bod ei lais Bariton swynol a chyfoethog wedi tynnu sylw Cyfarwyddwr y Tŷ Opera yng Ngent, Monsieur Machiels, ac o ganlyniad, er ei fod yn dal yn y Royal Signals Corps, derbyniodd hyfforddiant lleisiol gan gerddorwyr y Tŷ Opera am weddill ei arhosiad yn y fyddin. Canodd ar Radio Belg o Frwsel a Gent, a chynhaliwyd nifer o gyngherddau i'r milwyr. Wedi'r Rhyfel gwahoddwyd ef i ganu ar Ddiwrnod Cenedlaethol Belg yn 1947. Yn y 'casgliad' hefyd, mae copi o'r cytundeb a arwyddodd i ymddangos ar y Radio.
Cyngerdd Mawreddog yn ardal Gemeente, Gwlad Belg.

Mae'r rhaglenni hyn, nid yn unig yn rhoi cip ar yrfa gerddorol fy nhad, ond hefyd yn adlewyrchu y cyfoeth cerddorol a fodolai yn y Cymoedd yn ystod 40au a 50au'r ganrif hon. Pan ddaeth yn ôl ar ôl y Rhyfel bu cryn alw am ei wasanaeth fel unawdydd, a'r perfformiadau sy'n sefyll allan yn y `casgliad' yw'r holl Oratorios a berfformiwyd yn Y Coliseum, Trecynon, Aberdâr ac mewn gwahanol gapeli yn y Cwm.

Crucifixion, Ebenezer, Trecynon, Sunday May 11, 1947
The Messiah, Carmel English Baptist Church, Sunday June 29, 1947
The Messiah, Bethel (Welsh Cong.) Chapel (Gadlys), Sunday Oct 12, 1947
Elijah (in full character) Coliseum, Trecynon, Jan 8, 9 and 10, 1948
Samson (in full character) Coliseum, Trecynon, Feb 14th to 19th, 1949
Saint Paul (in full character) Coliseum, Trecynon, 1950
Jephtha (in full character)Coliseum, Trecynon, April 9 to 14, 1951

Y 'Trecynon and District Choral Union' oedd yn cynnal y rhain, ac yn y rhaglenni ceir pytiau diddorol iawn, megis:

Plentyn ifanc iawn oeddwn i ar y pryd, ond rwy'n cofio'n glir werthu'r rhaglenni hyn, a chael mwynhad mawr wedyn yn mynd y tu ôl i'r llwyfan i gael te a chacen — Chocolate Eclairs — yn y sied fawr tu ôl i'r Coliseum lle oedd y Corws i gyd yn ymgynnull. Gan fy mod yn ferch i'r 'seren' roeddwn yn cael sylw mawr gan y cast a chan bobl fel Bopa Lan a Mam Town (fy Mamgu) a oedd yn aelodau o'r Corws. Gwelaf, hefyd, o raglen Elijah fy mod yn un o Juvenile Members y Corws!

Atgof arall sydd gen i o'r dyddiau Oratoraidd hyn oedd cofio Mam yn berwi coes ceffyl mewn rhywbeth yn debyg i grochan ar y stof yn y gegin gefn, zinc yn Windsor Street. Ar gyfer Elijah oedd hyn, a 'nhad yn gwisgo croen dafad a sandalau ac yn cario'r asgwrn mawr yn ei law. Rwy'n dal i glywed yr oglau!

Wrth bori trwy'r rhaglenni hyn mae enwau cyfarwydd fy ieuenctid yn dod yn ôl i mi, yn ogystal ag enwogion a phobl bwysig Aberdâr yn y cyfnod hwnnw - yr Aelod Seneddol, Mr D. Emlyn Thomas yn Llywydd y Gymdeithas Gorawl; G.P. Ambrose, Esq (Headmaster Aberdare Boys' Grammar School) yn Gadeirydd; Sam Watts yn Musical Director. Mae clawr y rhaglen Jephtha wedi'i orchuddio â llofnodion yr artistiaid, y rhan fwyaf ohonynt yn hanu o Aberdâr, ar wahân i Gabriel Todd - enw adnabyddus? Yn rhaglen Elijah ceir lluniau o’r artistiaid ac arweinydd y gerddorfa. Da gweld bod y traddodiad wedi'i gynnal dros y blynyddoedd, a'r Trecynon and District Choral Union yn dal i ganu o dan Eirlys Hatton, a fu ei hun, ynghyd â'i mam os cofiaf yn iawn, yn rhan o'r perfformiadau hyn yn y 40au.

Erbyn y 50au yr oedd gyrfa gerddorol fy nhad yn ehangu, a'r arlwy yn amrywio o Stabat Mater (Euryl Coslett oedd y tenor) yng Nglyn Nedd, i 'Aida' yn y Theatre Royal, Merthyr gan 'The Merthyr and District Philarmonic Society' ac yn ddiddorol iawn, 'Concert to Celebrate the Installation of the Safety Curtain at The Coliseum Theatre, Aberdare' yn 1951. Rhaglen ddiddorol sydd gennyf yw'r un lle'r oedd yn brif unawdydd mewn cyngerdd i anrhydeddu 'Local National Eisteddfod Winners 1950' ac ar ben y rhestr oedd Rev. G.R. Tilsley, M.A., The Chair.

Y mae enw Jennie Eirian Davies B.A. yn dod wedyn gan iddi ennill ar 'Collection of Verse-speaking Choruses (Share of First Prize). Yn 1957, bu'n unawdydd yn Requiem, 'Faure o dan yr arweinydd lliwgar a brwd hwnnw, Glynne Jones' y Bachgen bach (arall!) o Ddowlais, erio'd, erio'd. Clywyd ef nifer o weithiau ar y Radio, hefyd, gyda'r Lyrian Singers, o dan arweiniad yr arloeswr arall hwnnw, Idloes Owen, a Mai Jones, awdures y gân 'We'll Keep a Welcome in The Hillside'. Un rhaglen sy'n aros yn y cof yw 'Welsh Rarebit'.

Y degawd hwn oedd oes aur fy nhad gan mai'r adeg hon y bu'n brif fariton Cwmni Opera Cymru. Yn 1950, canodd yn 'Tales of Hoffman' yn y Swansea Empire, a 'Faust' o dan arweiniad Arwel Hughes yn y Prince of Wales Theatre Caerdydd, 'Rigoletto' o dan arweiniad Charles Groves yn y New Theatre Caerdydd, 'Faust' o dan Vilem Tausky yn The Pavilion, Bournemouth, ac yn 1951 bu'n canu rhan Il Conte di Luna 'Il Travatore' yn y Grand Theatre, Llandudno. Mae un rhaglen yma sydd heb ddyddiadau, ond yn rhestru perfformiadau'r wythnos. Hefyd, gwelir iddo ganu `Carmen' yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth yn 1952.

Gwelaf fod fy nhad yn perfformio mewn tair opera mewn wythnos, sef 'Faust'. 'Die Fledermaus' a 'Rigoletto' o dan faton Vilem Tausky a Charles Groves, ac yntau yn dechnegol yn dal yn amatur! Mewn toriad papur arall, dywed Beirniad Cerddorol The Times, William Mann am Gwmni Opera Cymru, 'In the late forties and early fifties the Welsh National Opera Company was in its infancy, and boasted the best singing talent in South Wales. Some of the singers were professionals, but I also remember a marvellous Count di Luna in Travatore, and later, an unforgettable Rigoletto. His name was Arnold Davies, and I was told he was a postman!' Yn anffodus, y broblem hon hefo 'statws' a arweiniodd at ei enciliad o'r byd opera yn y diwedd. Pan glywaf Bryn Terfel yn canu a phan ddarllenaf ei hanes yn crwydro'r byd, ni allaf ond meddwl beth fyddai hanes fy nhad petai wedi rhoi gorau i'w swydd yn y G.P.O. a'i mentro hi! Pwy a ŵyr?

Arnold Davies yn chwarae rhan Samson