JOHN WYNNE GRIFFITH Y GARN (1763-1834) ~
Dewi Jones, Dyffryn Nantlle yn dilyn ei hynt a'i helynt


John Wynne Griffith F.L.S. (1763-1834) Y Garn, Henllan, Dinbych.
(Drwy ganiatad Michael Griffith, Trefnant)

Mae llenyddiaeth Llyfrau Ymwelwyr Gwestai'r ganrif ddiwethaf yn ffynonellau pwysig a defnyddiol i'r sawl sy'n ymddiddori yn hanes y teithwyr cynnar, ac ambell waith ceir cyfeiriadau annisgwyl iawn ynddynt. Mae'r hanes canlynol yn deillio o gofnod a geir yn llyfr y Capel Curig Inn ar ddechrau'r 19eg ganrif.

Ar noson o Hydref yn y flwyddyn 1804 cyrhaeddodd John Wynne Griffith (1763-1834) o'r Garn, Henllan, ger Dinbych a'i gyfaill William Withering (1775-1832) y gwesty newydd a adeiladwyd gan Arglwydd Penrhyn yng Nghapel Curig ar y ffordd bwysig a phrysur rhwng Llundain a Chaergybi.

Am hanner awr wedi saith y bore canlynol cychwynnodd y ddau deithiwr gerdded am Ben-y-gwryd ar eu ffordd tua chopa'r Wyddfa. Roedd teithiau o'r fath wedi dechrau dod yn boblogaidd iawn yn ystod blynyddoedd olaf y 18fed ganrif a chynyddu a fu eu hanes fel yr i'r ganrif newydd ymlaen. Cyrhaeddwyd copa'r Wyddfa am hanner awr wedi naw yn l cofnodion y Llyfr Ymwelwyr a defnyddiwyd gweddill y dudalen i ddisgrifio ffenomen a welwyd gan y ddau tra'n llwybro tua'r copa. Gelwir y ffenomenon hon yn glorie gan y Saeson, a'r unig enw Cymraeg a glywais amdani oedd 'cewri'r mynydd'. Ymddengys hon, gan siarad o'm profiad fy hun, pan mae cerddwr neu ddringwr yn dilyn cwrs crib fynyddig gyda dyfnder yn llawn niwl a chymylau oddi tano, a'i gysgod anferth yn cael ei adlewyrchu gydag enfys fechan yn amgylchynu ei ben. 'r cofnod ymlaen i ddisgrifio'r hyn a welwyd gan grybwyll ymhellach adroddiad cyhoeddedig un Dr.Haygarth ar y mater a chloi'n ddisymwth gyda chwyn nad oedd digon o glychau at alw sylw morynion at wasanaeth yn y gwesty, a dyna'r cyfan; dim gair i ddisgrifio'r golygfeydd na'r planhigion a welsant ar y ffordd. Roedd Griffith yn fotanegydd brwd a gwybodus fel y cawn weld maes y law.

Ganed ef ar Ebrill 1, 1763 yn y Wig, ger Aber yn yr hen Sir Gaernarfon yn fab i John Griffith o'r Garn, Henllan ger Dinbych a Jane, merch John Hughes, Wig a Chae'r Berllan, Llanrwst. Derbyniodd ei addysg uwchradd yng Nghaergrawnt a cheir tystiolaeth ei fod yn y Trinity Hall yno yn 1781. Priododd yn 1785 gyda Jane, merch Robert Wynne, Garthmeilo a Phlasnewydd a bu iddynt dri ar ddeg o blant.

Ymddiddorai mewn gwleidyddiaeth gan gefnogi'r Chwigiaid, ac yn 1860 bu'n gefn i Robert Biddulph fel ymgeisydd seneddol yn erbyn ei frawd yng nghyfraith Frederick West, ac eto yn 1812, ond heb lwyddiant. Etholwyd Griffith yn Aelod Seneddol Dinbych yn 1818. Yr oedd yn gefnogol iawn i unrhyw welliant amaethyddol ond ymddengys nad oedd yn flaenllaw yn nhrafodaethau'r Senedd. Adlewyrchir ei hoffter o'r encilion yn ei ddiddordeb mawr arall, sef botaneg. Roedd Griffith yn un o ddau fotanegwr mwyaf blaenllaw Cymru ers Edward Lhuyd; Hugh Davies, awdur y Welsh Botanology oedd y llall, ond yn wahanol i Davies ni chyhoeddodd Griffith ddim o'i waith. Gwell ganddo oedd rhannu ei wybodaeth gydag awduron eraill yn y maes, fel William Bingley (1774-1823), a gyhoeddodd ddetholiad o'r planhigion a welodd ar ei deithiau drwy ogledd Cymru mewn atodiad dan y teitl Flora Cambrica i gyhoeddiad 1804 o'i gyfrol North Wales; including its Scenery, Antiquities, Customs &c. Y meddyg William Withering (1741-99), tad y gŵr oedd gyda Griffith ar y daith i gopa'r Wyddfa yn 1804 oedd un arall a dderbyniodd gymorth ganddo, ac fe gydnabyddodd hyn yn ei gyhoeddiad pedair cyfrol poblogaidd Arrangement of British Plants (1796).

Gwelir enw John Wynne Griffith sawl tro hefyd yn llyfr Turner a Dillwyn The Botanist's Guide through England and Wales (1805), ac mae'r meddyg a'r naturiaethwr John Williams (1801-59) yn rhoi ei Faunula Grustensis (1830) yn gyflwynedig iddo. Yn l John Williams crwydrodd Griffith lawer ar fynyddoedd a dyffrynnoedd Eryri gan astudio eu llystyfiant brodorol, ac o ganlyniad daeth yn awdurdod cydnabyddedig ar blanhigion arctig-alpaidd yr ardal. Ei brif ddiddordeb oedd y cen-cerrig a bu ei gyfraniad yn y maes hwn i lyfr Withering (1796) yn un arwyddocaol fel y cydnabu'r awdur: J.W. Griffith whose numerous and instructive specimens and observations have greatly enriched the catalogue of Mosses and Lichens. Griffith oedd y cyntaf i ddarganfod cotoneaster y Gogarth (cotoneaster cambricus) ar Ben y Gogarth ger Llandudno yn 1783, planhigyn sydd yn tyfu'n wyllt yno o hyd, ac nid yn unman arall ym Mhrydain.

Roedd ei ddarganfyddiad arall, sef y tormaen siobynnog (Saxifrage cespitosa), bron marw allan yn ei gynefin naturiol yng Nghwm Idwal hyd nes i hadau ohono o'r safle gael eu hanfon i Erddi Botaneg Ness yng Nghilgwri a'u hailblannu yno dan ofal y Cyngor Gwarchod Natur. Mae'r tormaen siobynnog, er yn dal ei dir yn ei hen gynefin, yn hynod brin erbyn hyn ac yn cael ei warchod gan ddeddf gwlad.

Tra ar ymweliad ag Eryri yn 1790 roedd gan Griffith adysgrif o ddyddiadur Samuel Brewer (1670-1743), a fu'n aros yng ngogledd Cymru yn ystod 1726-7. Mae dyddiadur Brewer yn llawn cyfeiriadau at wahanol safleoedd lle ceir hyd i blanhigion mynyddig ac fe'i copwyd yn helaeth gan amryw o fotanegwyr a'i ddefnyddio fel guide book. Profodd Griffith un anhawster yn ystod ei ymweliad a oedd yn ymwneud ag enwau lleoedd. Roedd enwau fel 'Creigiau Trigfylchau', er enghraifft, yn ymddangos yn nyddiadur Brewer, ond cafodd Griffith gryn drafferth i ddod o hyd i'r lle gan nad oedd yr enw yn gybyddus i drigolion Eryri erbyn hynny. Mae'n resyn bod llawer o'r enwau lleoedd a oedd yn adnabyddus i Edward Lhuyd ac eraill wedi mynd yn angof erbyn heddiw, ac nid ydynt i'w canfod ar y mapiau O.S. diweddar.

Cyflwynwyd John Wynne Griffith i Syr Joseph Banks (1743-1820) yn 1783 mewn llythyr oddi wrth John Lloyd (1749-1815) o deulu'r Wig-fair a Hafodunnos yng Nghlwyd. Cofir Banks yn bennaf am ei ran fel botanegydd ar daith arloesol Captain Cook o amgylch y byd yn y llong Endeavour yn ystod y blynyddoedd 1768-71. Mae'r unig lythyr oddi wrth Griffith at Banks y gwn amdano wedi ei ddyddio 12 o Orffennaf 1802, yn un ffurfiol iawn sy'n awgrymu efallai na fu'r berthynas rhyngddynt yn un glos. Nid oes unrhyw gyfeiriad at fotaneg yn y llythyr, dim ond at bysgodyn cragen a ddarganfuwyd gan Griffith ynghyd sylwadau theoretig am ei darddiad.

Daeth Griffith yn aelod o'r Gymdeithas Linneaidd yn 1795, ac yn 1797 anfonodd nifer o sbesimenau planhigion mewn bocs tun i James Sowerby (1757-1822). Sowerby oedd yr artist oedd i ysgythru'r platiau o luniau planhigion ar gyfer English Botany Syr J.E. Smith (17591828); gwaith o 36 chyfrol a gyhoeddwyd rhwng 1790 a 1814 ac mae'n fwy na thebyg mai i'r perwyl o'u copo ar gyfer y gwaith hwn yr anfonodd Griffith y planhigion.

Casglu, enwi a chofnodi safleoedd planhigion, a ffurfio herbaria oedd y drefn gydnabyddedig os am sicrhau eich lle yn y gymdeithas fotanegol a fodolai yn ystod oes Griffith, ond gwnaeth ei farc mewn ffordd amlycach. Yn ystod ei ymweliad ag Eryri yn 1790 daeth o hyd i fwsogl a oedd yn newydd i wyddoniaeth gan ychwanegu planhigyn newydd i'r flora Brydeinig, ac os am fwy o fanylion ynglŷn 'r mwsogl hwn gweler rhifyn Gorffennaf 1999 o Y Naturiaethwr. Enwyd y mwsogl newydd yn Oedipodium griffithianum er cof amdano yn yr un modd ag y gwnaed gydag Edward Lhuyd a'i Lloydia serotina gan ddyrchafu John Wynne Griffith i enwogrwydd fel botanegydd blaenllaw Cymreig.