WILLIAM EVANS - TYWYSOG Y PORTH (1864-1934)
gan Owen Vernon Jones

 

Fel Prifathro Ysgol Ganolradd y Rhondda, sef Porth County, yr oedd hi'n ddyletswydd arnaf bob blwyddyn i atgoffa'r disgyblion am William Evans wrth i mi gyflwyno chwe Gwobr Goffa William Evans yn sg�l canlyniadau arholiadau Lefel 'A'. Gyda threigl amser pylai'r atgofion am y dyn mawr hwn ac ni chafwyd yr un ymateb wrth gyfeirio ato ag a geid gan fy nghenhedlaeth i. Felly, ysgrifennais fy llyfryn bach.

Y mae'r arwyddion yn dal yn amlwg yn y Porth, Cwm Rhondda. Wrth gerdded i lawr Stryd Hannah, canolfan siopa' brysur y Porth, ar du blaen ucha'r siopau, gwelwch un sy'n uwch ac yn fwy addurnedig na'r lleill ac arni'r llythrennau 'T and E', sef Thomas and I A Evans. Wrth i'r stryd droi i Ffordd Pontypridd, o'ch blaen gwelwch Lyfrgell y Porth a'r plac arni'n dangos mai rhodd gan y teulu er cof am William Evans ydy hi. Yn ei hymyl, ar ben Stryd Jenkins, gwelir tŵr yn edrych dros y Porth, ac ar ei ochr y teitl 'Welsh Hills', sef yr enw masnachol cyntaf ar y dyfroedd mwynol a gynhyrchwyd gan William Evans cyn cael ei ddisodli gan 'Corona'. Cerddwch i fyny Ffordd Pontypridd i Sgw�r y Porth ac fe welwch ar y dde y plasty � Bronwydd sef cartref William Evans, ac yn ei ymyl, Parc Bronwydd, ei rodd i bobl y Porth, lle y ceir cerflun pres o'r rhoddwr.

Stryd Hannah, Y Porth yn 1918

Y rhain yw'r unig arwyddion sydd ar �l o bwysigrwydd y Porth fel cartref a chanolfan fasnach y Cymro a'r ffilanthropegydd mawr hwn. Byddai wedi bod yn ddyn eithriadol pryd bynnag neu ble bynnag y digwyddai fyw, ond yn fwy byth yn y Rhondda yr adeg honno. Y tu allan i faes y pyllau glo ni cheid na masnachwyr na diwydianwyr o bwys cenedlaethol oni bai am un eithriad � William Evans, Bronwydd, y Porth.

Fe'i ganwyd ar Fferm Trallwyn Uchaf, wrth odre'r Preselau, o deulu amaethyddol da, a'r cyntaf o bedwar plentyn ar ddeg Thomas a Maria Evans. Er mwyn dysgu y tair 'R' cerddai i ddosbarth a gynhelid mewn llofft uwchben adeilad a berthynai i Gapel Jabez yng nghwm prydferth y Waun. Ac yntau'n ddeuddeg oed daeth yn brentis digyflog i James Rees, groser o Hwlffordd. Cafodd lety gan ewythr a gadwai dŷ pot a llaethdy a chyn mynd i'r gwaith, rhannai'r bachgen laeth i gwsmeriaid ei ewythr. Wedyn, cafodd lety gan Mrs Jenkins, gwraig garedig a hynod grefyddol a ddylanwadodd yn fawr arno. Er gwaetha'r caledi cofiai'n ddiolchgar am y blynyddoedd hyn, ac yn 1957 cyflwynwyd Neuadd Goffa wedi'i dodrefnu'n llawn i Gapel Jabez gan ymddiriedolwyr ei elusennau. Ei unig gŵyn am yr ysgol oedd bod siarad yr iaith Gymraeg yn cael ei ystyried yn drosedd.

Ar �l gorffen ei brentisiaeth gweithiai fel cynorthwydd yn siop groser yr Henadur William Thomas, Aberbyg, ond yna aeth yn rheolwr ar Siop Pegler's, y Porth. Ymhen dwy flynedd roedd yn �l fel partner i'r Henadur Thomas ac i agor siop groser yn y Porth. Ar �l tair blynedd llwyddodd i dalu'n �l fuddsoddiad yr Henadur gydag elw sylweddol ond dewisodd gadw'r enw 'Thomas and Evans' ar gyfer ei amryfal fentrau.

Yr oedd cynnydd eithriadol ar fin digwydd ym mhoblogaeth y Rhondda a, rhwng 1871 ac 1881 dyblodd i 55,632 ond, erbyn 1923 cyrhaeddodd ei uchafbwynt o 167,900. Deallai Thomas Evans y sefyllfa a gwelodd ei gyfle. Deallai botensial y farchnad ynghyd �'r problemau. Yr oedd y Rhondda yn llethrog dros ben. Nid oedd digon o drafnidiaeth ar gyfer siopwyr. Nid oedd gwerthiant-dros-y-cownter yn ddigon. Anfonodd ei ddynion i'r ddau gwm er mwyn cymryd archebion a chludai'r nwyddau at ddrws y cwsmer � throl a cheffyl ar y dechrau, ac yna gyda modur. Erbyn 1922, ymhen dwy flynedd, adroddodd y Commercial Motor fod ei fflyd wedi codi o 4 i 74 modur. Agorwyd canghennau ledled De Cymru. Pobai ei fara ei hun; cymysgai ei de ei hun; cynhyrchai ei finegr ei hun a defnyddiai injans st�m i gludo'r deunyddiau crai toc ar �l troad y ganrif. Bob blwyddyn ai ei foduron heibio Neuadd y Ddinas, Caerdydd mewn gorymdaith. Er mwyn lleihau costau trafnidiaeth agorodd ei 'Terry Stores' a oedd o fewn cyrraedd unrhyw stryd ac a oedd � manteision o brynu mewn bylc. Roeddynt ag arwyddoc�d arbennig yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf gan fod dosbarthu o ddrws i ddrws yn amhosibl.

Yn 1897, yn �l y s�n, a William Evans y tu �l i'w gownter, daeth ymwelydd anghyffredin i mewn �

Dywedodd y dyn ei fod yn gwybod y gyfrinach o wneud diodydd meddal. Darparodd William Evans adeilad, offer a chynhwysion iddo. Ddaeth dim byd o'r peth ar wah�n i ysgogi dychymyg y groser ifanc. Unwaith eto, rhagwelai'r posibilrwydd o farchnad enfawr. Yr oedd meddwdod yn un o brif ddrygau'r gymdeithas. Yr oedd 120 o dafarndai yn y Rhondda a hwythau'n cael eu gwrthwynebu gan y Cymdeithasau Dirwest. William Evans oedd yr un a gynigiodd newid o ddiodydd meddwol i ddiodydd meddal, drwy gynhyrchu diod feddal o'r enw Welsh Hills'!

Cofiaf yn dda y Dyn Pop yn galw unwaith yr wythnos gyda phedair potel fawr mewn cr�t bren, yn costio swllt. Daeth ei ddiodydd yn rhywbeth hanfodol yng nghartref pob gl�wr sychedig, a chododd ffatr�oedd ledled Cymru. Pan agorodd Isaac Foot A.S. ffatri fawr yn Willesden ar Ebrill 27, 1934 i ddarparu diod Corona i ardal y Metropolitan, rhagfynegodd y papur newydd:

Darparodd waith i filoedd. Darparai luniaeth drwy ei 'Bread Brigade' yn ystod streic 1926 nes i'r banciau wrthod credyd iddo. Yr oedd yn Ynad, yn Gadeirydd Pwyllgor Cyllid Cyngor Sir Morgannwg, yn ddiacon a thrysorydd ei gapel, yn Drysorydd Coleg y Bedyddwyr ac yn Llywydd Undeb Bedyddwyr Cymru. Chwaraeai crefydd ran fawr yn ei fywyd.

Ar y dechrau edrychai ar y Porth drwy lygaid a arferai edrych ar harddwch gwledig Sir Benfro, ac ni wnaed argraff arno. Dioddefai amseroedd da a drwg gyda'r glowyr; yr oedd yn byw yno; gweithiai yno, a gwnaeth lawer o ddaioni yno. Yn araf bach deuai i garu'r Rhondda a'i phobl a 'gweld harddwch ble bynnag yr edrychai'. Ef a ddaeth a sylw cenedlaethol i'r Rhondda, camp nas gwnaethpwyd gan neb na chynt nac wedyn.

Hysbyseb cynnar o'r cynnyrch