Y WESLEAID A'U PLAN (C) gan Lionel Madden

Mae gan y Methodistiaid Wesleaidd, fel pob enwad Cristnogol arall, amrywiaeth o gyhoeddiadau cyfeiriol sy'n galluogi'r enwad i weithio'n drefnus ac effeithiol. I'r hanesydd mae'r blwyddlyfrau, cyfarwyddiaduron, cofrestrau ac yn y blaen a argraffwyd dros y blynyddoedd yn ffynonellau gwybodaeth gwerthfawr. Yn eu mysg, ac yn bwysig iawn yn achos y Wesleaid, y mae'r Plan.

Yn sylfaenol, mae'r Plan yn ddiagram neu grid, fel arfer ar un tudalen, sy'n cofnodi i ba gapeli mae pob pregethwr i fynd ar y Sul. Yn y ffurf symlaf o'r Plan rhestrir y capeli ac amserau'r gwasanaethau ar y chwith a dyddiadau'r Suliau ar y pen. Yn y dechrau dynodwyd pob pregethwr gan rif. Yn ddiweddarach datblygodd yr arfer o ddefnyddio cyfenwau yn hytrach na rhifau. Fel arfer paratoir Plan am gyfnod o dri mis, ond ceir llawer o enghreifftiau o Blaniau a baratowyd am gyfnod arall, megis blwyddyn, chwe mis, neu bedwar mis yn 61 dewis Arolygwr y Gylchdaith.

Mae'r Plan yn adlewyrchu dwy agwedd bwysig ar fywyd eglwysig y Wesleaid o'r dechreuad:

1. Nid y capel unigol yw'r uned sylfaenol ond grŵp o gapeli a elwir yn gylchdaith. Mae maint y gylchdaith yn amrywio o ychydig o gapeli hyd at nifer sylweddol. Mae Plan Cylch­daith Treffynnon, Rhagfyr 1834 - Ebrill 1835, er enghraifft, yn cynnwys 36 o gapeli neu lefydd eraill lle'r oedd y Wesleaid yn cwrdd, ond mae'r rhan fwyaf o'r cylchdeithiau'n llawer llai na hyn. Trwy gydol hanes y Plan hyd heddiw penodir gweinidog i gylchdaith ac nid i ryw gapel arbennig. Y patrwm Wesleaidd arferol yw i dîm o weinidogion weithio gyda'i gilydd mewn cylchdaith yn gwasanaethu nifer o gynulleidfaoedd.

2. Mae'r Wesleaid yn dibynnu'n drwm ar bregethwyr cynorthwyol, sef lleygwyr a drwyddedir gan y cyfundeb i wasanaethu yn y gylchdaith leol.

Crëwyd y Planiau cyntaf yn nyddiau John Wesley yn y ddeunawfed ganrif ond mae'r rhan fwyaf o'r Planiau printiedig yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif. Yn ffodus, mae nifer dda ohonynt wedi'u cadw o'r gorffennol mewn llyfrgelloedd ac archifdai a hefyd mewn casgliadau personol. Sefydlwyd cymdeith­as yn 1955 ar gyfer y rhai sydd â diddordeb yn hanes y Plan gyda'r enw The Society of Cirplanologists. Mae'r gymdeith­as yn cyhoeddi cylchgrawn ddwywaith y flwyddyn a hefyd wedi cyhoeddi cofrestrau o rai o'r Planiau sydd ar gael yn Lloegr.

Ceir enghreifftiau o Blaniau Cymreig yn archifdai a llyfrgelloedd Cymru, yn cynnwys casgliad da ohonynt yn y Llyfrgell Genedlaethol. Ceir casgliad mewn blychau yn Adran y Llyfrau Printiedig. Yn ychwanegol, cynhwysir Planiau mewn sawl cylchgrawn cylchdeithiol a gedwir yn yr Adran, megis Yr Arweinydd (Abergele), Y Banerydd (Lerpwl), ac Y Cydymaith (Llanrwst). Gellir dod o hyd i Blaniau eraill yn yr archif Wesleaidd yn Adran y Llawysgrifau a Chofysgrifau a restrir yn y siediwl a baratowyd gan Miss Nansi Jones yn 1978 a'r rhestr deipiedig o dderbynion diweddarach. Ceir nifer da o Blaniau yn y ddwy faith, er bod mwy o gylchdeithiau Cymraeg eu hiaith yng nghasgliad y Llyfrgell Genedlaethol. Mae'r rhan fwyaf o'r Planiau Cymraeg yn defnyddio'r gair Saesneg traddodiadol, sef 'Plan', er bod rhai yn dewis gair Cymraeg megis Cynllun, Rhagnodiad, Rhagnodydd, Rhaghysbysydd, yn ôl mympwy Arolygwr y Gylchdaith a oedd yn gyfrifol am eu cynhyrchu.

Mabwysiadwyd y Plan gan yr enwadau eraill a wahanodd o'r mudiad Wesleaidd, megis y Cyfundeb Newydd Methodistaidd (Methodist New Connexion), y Methodistiaid Cyntefig (Primitive Methodists), y Methodistiaid Unedig (United Methodists) ac yn y blaen. Cafodd yr enwadau hyn ryw ddylanwad ymysg y Cymry di-Gymraeg.

Beth sy'n gwneud y Planiau'n ddiddorol yw maint ac amrywiaeth yr wybodaeth a gynhwysir ynddynt. Ceir gwybodaeth am:

- enwau a nifer y gweinidogion a phregethwyr cynorthwyol yn y gylchdaith gyda'r flwyddyn yr awdurdodwyd y pregethwyr cynorthwyol. Yr arfer yw rhestru'r gweinidogion yn gyntaf ac wedyn pob pregethwr cynorthwyol yn nhrefn y dyddiad iddo neu iddi ddod yn bregethwr cydnabyddedig. Yn yr hen ddyddiau, os oedd angen disgyblu pregethwr, byddai'n cael ei symud i lawr y rhestr.

- maint y teithiau y disgwylid i'r pregethwyr eu gwneud ar y Sul.

- unrhyw gyngor a roddwyd i'r pregethwyr.

- natur y gwasanaethau arbennig a gynhaliwyd, e.e. Swper yr Arglwydd, cariad wledd (love feast), cyfarfod pregethu.

- y trefniant ynglŷn a dyddiau ympryd (cafodd y Wesleaid Cymraeg ddyddiau ympryd yn gyson yn y 19eg ganrif).

- casgliadau at achosion arbennig, e.e. addysg, trysorfa yr uwchgyfrifiad (sef gweinidogion wedi ymddeol), sefydliadau diwinyddol, cenhadaeth gartref a thramor.

- ystadegau am aelodaeth y capeli.

- nodiadau arbennig, e.e. y rhybudd hwn ar Blan Dolgellau 1860/ 1: 'Nid yw y Cyfundeb yn caniatáu bedyddio plant mewn tai, oddieithr o dan amgylch­iadau neillduol.'

Weithiau argraffwyd cerddi ar y Plan. Mae Plan Caernarfon, Chwefror — Ebrill 1914, er enghraifft, yn cynnwys `Penillion Coffa y diweddar Mr George Gregory, Caernarfon. Buddugol yng Nghylchwyl Ebenezer, 1903.'

Ymysg y Planiau yn y Llyfrgell Genedlaethol ceir rhai cynnar am Dreffynnon, Tachwedd 1814 — Gorffennaf 1815, a Machynlleth a Dolgellau, Hydref 1818 — Ebrill 1819. Yn wahanol i'r arfer nes ymlaen, mae'r rhain i gyd yn rhestru ar y chwith holl ddyletswyddau'r pregethwr am y Sul, e.e. Pennal 10, Machynlleth 2 a 6 Abercegir 10, Ty-Cerrig 2, Machynlleth 6.

Mae hyn yn rhoi darlun clir faint o bregethu a theithio a wnaethpwyd gan bregethwr ar y Sul.

Weithiau cynhyrchwyd Plan ar liain, fel un Bangor, Hydref 1851 - Ionawr 1852, sydd yn y Llyfrgell Genedlaethol, a'r un am Yr Wyddgrug, Mai -Hydref 1871, sydd yn Archifdy Sir y Fflint. Addurnwyd llawer o'r Planiau yn syml gan yr argraffwr, ond Plan arbennig o ysblennydd yn y Llyfrgell Genedlaethol yw Caerdydd Chwefror - Ebrill 1887 a ddangosir yma. Fe welir fod y Plan wedi'i addurno gyda phortreadau o bregethwyr yn y corneli. Nid oes enwau i'r pedwar ar y Plan. Cymerais yn gyntaf iddynt fod yn gopïau o engrafiadau o weinidogion o'r Eurgrawn Wesleaidd, ond, wedi edrych, ymddengys iddynt gael eu copïo o lyfr a gyhoeddwyd yn 1884, sef Pregethau yr Uwchrifiad Wesleyaidd Cymreig 1881-82 a olygwyd gan y Parch. John Davies (B). Roedd y pedwar i gyd yn weinidogion wedi ymddeol yn Ne Cymru, er bod un ohonynt wedi mares yn 1884. Eu henwau oedd Owen Owen (1812-87), John Rees (1810-98), Timothy Jones (18??-90) a David Evans Degar (1824-84). Rhestrir Owen Owen a John Rees ymysg y pregethwyr oedd yn gyfrifol am wasanaethau ar Blan 1887.

Bydd y rhai sydd â diddordeb yn hanes yr enwadau eraill yn gallu cymharu Planiau'r Wesleaid a'u cyhoeddiadau hwy at yr un dibenion. Gan fod y Planiau'n fach, yn amrywio'n sylweddol o ran golwg, ac yn cynnwys cymaint o wybodaeth ddefnyddiol, nid yw'n anodd deall eu hapêl at gasglwyr sy'n ymddiddori yn hanes y Wesleaid.